Ffarwél.......a diolch!
Diwedd y daith, ar bier Bangor
Diolch i’r cyfeillion pedair-coes a fu’n crwydro gyda fi ar
y siwrne’.........
Erin
Beca
Macsen
Caio
Diolch i bawb am eu caredigrwydd
a’u cwmniaeth ar hyd y daith – dwi’n dal i gyfri’r rhoddion ond bydd oddeutu
mil o bunnoedd yr un wedi cael eu codi i Gymdeithas Alzheimers a phrosiect Maint
Cymru (Madagascar).
A diolch, yn fwy na dim, i’r teulu a’r ffrinidiau gwych sydd
gen i am wneud y cyfan yn bosibl.Dwi wrthi’n llwytho fersiwn Saesneg o’r blog hwn ar hyn o bryd aroundtheedgeofwales@blogspot.com
Maes o law byddaf yn llwytho’r lluniau a gasglwyd fel rhan o
brosiect i gofnodi’r dirwedd bob 10 milltir ar hyd y daith.
Ac efallai ychydig rhagor o luniau cyffredinol hefyd.
Dyna ni gyfeillion – gobeithio bydd y blog bach hwn wedi
codi’r awydd arnoch i fynd ar dramp o gwmpas cyrion Cymru rhywdro.
Peidiwch pendroni gormod – ewch amdani!