O gwmpas cyrion Cymru
(21) … Aberystwyth i Benrhyndeudraeth
Dyma benderfynu cyfuno tamed o feicio a cherdded unwaith
eto, ar ôl
astudio’r mapiau o lwybr yr arfordir. Roedd
rhan helaeth o’r llwybr yn dilyn mynyddoedd o gwmpas aber y Ddyfi, ac yna’n
gwau dros ucheldiroedd Merionnydd – tra bod y ffordd ei hun yn cadw’n reit agos
at y glannau.
Ar hyd y darn hwn o’r arfordir y gwelais yr olygfa mwya'
cofiadwy oll ar hyd y daith gyfan efallai.
Ond do’n i ddim i wybod hynny wrth i fi ddechrau cerdded o Aberystwyth.

O’r prom yn Aber fe ddringais dros Consti ac ar hyd y clogwyni
at ‘gilfach y carafanau’ yng Nghlarach.
Ymlaen wedyn at Borth, ble dechreuais feicio er mwyn rowndio’r aber i
Fachynlleth yn reit handi, a mynd yn fy mlaen tua’r gogledd ar hyd arfordir Meirionnydd.
Ro’n i wedi gadael fy meic llawn maint yn Sir Benfro felly roedd hwn yn gyfle
delfrydol i roi prawf ar y beic plygu ‘Airnimal Joey’ roeddwn i wedi ei brynu rai
misoedd cynt.. Doedd ‘na neb arall yn crwydro’r clogwyni hyd nes i fi gyrraedd
y gofeb uwchben Borth. Doeddwn i erioed wedi cerdded y tu hwnt i draeth
Clarach, er i mi fod wedi byw yn Aberystwyth am dair blynedd. Mae’r creigiau yn
siâl
tywyll a bregus iawn ar hyd y darn hwn o lwybr. Fe ges i fraw mewn un man ar ôl i Macsen, y ci, neidio dros
ymyl y clogwyn at silff o laswellt oedd wedi llithro lawr y llethr, a chanfod
wedyn nad oedd hi’n gallu dringo nôl i fyny at y graig friwsionllyd. Roedd
y traeth islaw yn edrych yn bell bell i ffwrdd. Fe lwyddes ei denu draw’n
raddol at ddarn arall o’r clogwyn, ar draws wyneb y graig, gan obeithio y
byddai’n llwyddo dal ei gafael ar y talpiau cul, lled wastad na fyddai wedi dal
pwysau person am eiliad - hyd nes y gallwn
i ei chyrraedd drwy orwedd ac estyn dros yr ymyl a’i llusgo lan gerfydd ei
gwar. Rhywsut fe lwyddodd y cynllun, er bod talpiau o bridd a thyweirch yn
powlio lawr i’r traeth dan fy mreichiau, a chawodydd o bridd a cherrig yn tasgu
lawr o dan ei thraed hithau hefyd. Buodd rhaid iddi aros y tennyn am sbel go
hir wedyn.

Fe weles i farcud arall, a rhagor o frain coesgoch, ar y
pentir cyntaf wrth i fi gerdded tua’r gogledd o Glarach. Pasio ty hyfryd, nobl yr
olwg, ar ymyl y lan gerllaw hen odyn galch. Tybed ai’r agosatrwydd at y glannau
bregus oedd yn cyfri am y ffaith mai golwg digon drist oedd ar y tŷ
hwn? Roedd y gwaith amddiffyn môr o flaen y tŷ yn dadfeilio’n sydyn – yr ysgrifen ar y mur.
Galla i ddim dweud mai’r darn o arfordir rhwng Clarach a
Borth yw’r un mwyaf cynhyrfus o ran bywyd gwyllt. Ond roedd yr olygfa o Gors
Fochno, y tu ôl i’r Borth, gyda’i draeth anferth a’r mynyddoedd pell yn
wirioneddol wych. Ar ymyl y gors, safai eglwys amlwg ar fymryn o godiad tir
rhwng y pentref a’r mawndir eang tu draw – fel
tae’n pwysleisio pwysigrwydd yr adeilad yn y llecyn arfordirol hwn sy’n
gorwedd dan lefel y môr. Wrth agosháu at y pentref ro’n i’n cerdded ochr
yn ochr â
chriw o ddarparwyr gwyliau lleol. Cwyno oedden nhw – am sawl peth! Roedd y Borth yn brin o dywod - pam na allen ‘nhw’ fewnforio tywod fel ma’n
nhw’n gwneud yn Tenerife? A beth am y fforest cynoesol sy’n dod i’r golwg adeg
llanw isel? Roedd y bonion yn llithrig ac roedd llu o ddamweiniau’n mynd i
ddigwydd yr haf hwn – fe ddylen nhw gael eu symud wir, ne fe allai’r diwydiant
twristiaeth lleol fod yn wynebu trasiedi.

Edrychais lawr ar y traeth, a gweld milltiroedd o dywod eurfrown
yn ymestyn at geg aber y Ddyfi. Ac ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr i weld y
fforest gyntefig gan fod y llanw'n isel iawn. Cerddais yn fy mlaen yn sydyn a dewis
mynd drwy bentref Borth, a oedd yn llawer mwy dymunol nag yr oeddwn i’n cofio
neu’n dychmygu. Roedd rhan ogleddol y traeth bron yn wag ac fe dreuliais amser
hir yma yn chwarae gyda’r camera.
Troais at y tir ger Ynyslas a dilyn yr arwyddion llwybr
arfordir, er mi faswn i wedi aros ar y traeth yn hwy, tawn i wedi sylweddoli
bod y llwybr ond yn dilyn cyrion y twyni a’r cwrs golff cyfagos am sbel. Oddi yma roedd
iard gychod Borth yn edrych yn rhyfedd, fel tase’r cychod a’r mastiau’n sownd
yn y gors.

Roedd rhaid taro draw at ymyl yr aber, er mwyn ei weld ar ei
hyd gyda’r llanw’n isel. Roedd winsgrîns y ceir ar hyd blaen y twyni yn boenus
o sgleiniog yn yr haul ond edrychai Aberdyfi’n
hardd ar draws y llafn o ddŵr disglair a orweddai yn sianel yr
afon. Cyrhaeddodd ambell gar tra ro’n i
yno, gan dalu £1 o ffi parcio dim ond er mwyn perfformio cyfres o ‘wheelies’ ar
y swnd caled cyn diflannu eto nôl tua’r Borth gyda rhech ffarwél o’r
egsôst!
On’d yw £1 am barcio mewn llecyn mor
rhyfeddol o hardd, lle gall rhywun grwydro am oriau drwy un o warchodfeydd natur
hyfrytaf Cymru, yn rhy rhad o lawer y dyddiau hyn? Mi faswn i wedi meddwl y
byddai pobl yn fodlon talu dwbl hynny - a mwy -
am ddiwrnod mor odidog.
Roedd y lôn I Fachynlleth yn dawel a hamddenol. Tirwedd
wastad a dim ceir – hyd nes i fi gyrraedd y ffordd fawr drwy Lancynfelyn beth
bynnag. Roedd y goleuadau traffig yn rhoi cyfle i edmygu’r gwaith walio gwych
sy’n digwydd fel rhan o’r gwaith sythu ffordd i’r de o Fachynlleth ac fe basiais
hefyd warchodfa Cors Dyfi sy’n eiddo i Gymdeithas Byd Natur Sir Drefaldwyn –
safle a arferai fod dan goed pîn, ond ble mae cynefin cors bellach
wedi ail-sefydlu a ble mae dyfodiad gweilch y pysgod yn ystod blynyddoedd
diweddar wedi creu atyniad diddorol i ymwelwyr a chreu cyfleoedd grêt
i wirfoddolwyr sy’n hoff o fywyd gwyllt a phobl. Fe arhosais i gael diod oer
wedi cyrraedd Aberdyfi, a chael cerddad bach ar hyd y rhes o dai harbwr hyfryd - pob un â’i ardd hances boced fechan ar
fin y môr.
Cerddais rownd y gornel am y tro cyntaf erioed, i weld yr olygfa lan yr aber, a
dilyn llwybr bychan a chyfresi o risiau llyfn a oedd wedi eu naddu i’r graig
lwyd. Rhyfeddais at y patrymau yn y creigiau – haenau main, fel tudalennau
llyfr .


Dilyn y ffordd fawr ar hyd arfordir Meirionnydd yw’r ffordd
orau, efallai i gadw’n agos at y môr.
Roedd y llwybr arfordir yn gwau’n wyllt i bob cyfeiriad ond ar b’nawn dydd Sul
tawel roedd y ffordd yn teimlo fel lôn feics ac fe benderfynais aros arni,
am sbel o leiaf. Ymlaen drwy Dywyn ac yna draw at Rhoslefain ac Ardudwy felly.
Doeddwn i ddim wedi bod ar hyd y ffordd hon ers rhyw ddegawd. Roedd ffatri
hufel iâ
mêl
Halo yn dal i fod yno, ar ymyl y briffordd ger Bryncrug a digon o bobl yn
eistedd y tu allan yn mwynhau’r stwff. O Bont Dysynni edrychai Craig y Deryn yn
hudolus – ond roedd ychydig mwy o dyfiant llwyni yn cuddio’i odrau erbyn hyn, o
gymharu â’r
tro diwethaf y bues i’n teithio ffor’ ‘ma.

Roedd y Broadwater, o ffordd gefn Rhoslefain, yn llain
anferth o ddŵr
arian, wedi ei gloi y tu ôl i gefnen o gerrig
ar hyd y traeth. Roedd Tonfannau’n dawel, ac yn rhyfedd ddigon roedd hi’n
edrych fel pe bai rhywun yn byw yn yr hen wersyll milwrol, gyda llieiniau
gwely’n chwythu ar lein fach y tu allan i un o’r cabanau brics.
Pen ddowch chi rownd y gornel o Rhoslefain i gwrdd â’r
môr
eto, mae’r olygfa ar hyd arfordir de Meirionnydd yn fendigedig. Mae’n cipio fy
anadl i bob tro – er nad yw hi’n olygfa dwi’n ei gweld yn aml. Efallai mai dyna
pam mae hi mor arbennig o hyd. Ac mae hi hyd yn oed yn well mewn golau haul
diwedd p’nawn. Y cyfuniad o gaeau bychain, y waliau cerrig sy’n nadreddau i
lawr ar hyd llethrau’r mynyddoedd, a llinell hir y bae sy’n crymanu draw at ben
Llŷn.
Os y’ch chi’n teithio mewn car mae’r olygfa wedi cyrraedd a diflannu o fewn eiliadau
felly roedd hi’n dda cael mw o amser i’w mwynhau yn iawn y tro hwn. Uwch fy
mhen roedd dyn yn hongian dan farcud-injan ac yn mwynhau’r olygfa’ n fwy hamddenol
fyth. Daeth heibio’n araf, y dilyn ymyl y lan a’r injan fach yn canu grwndi.
Disgynnodd yn raddol a glanio rhywle ger Llanaber.

Arhosais yn Llwynrgwril i chwilio am Fynwent y Crynwyr a dod
o hyd iddi yn y pen draw – lle bach annwyl uwchben y lan, gyda giât
isel yn arwain i mewn iddi. Ond fe synnais cyn lleied o gerrig beddau oedd i’w
gweld yn y rhan orllewinol a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer claddedigaethau
Crynwyr, ar ôl
i’r safle ddod dan ofal y Methodisitiaid Wesleaidd. Tybed pam?
Ymlaen i’r Friog a thros gorsdir hyfryd y Fawddach, er mwyn
croesi pont y Bermo. Roedd digon o bobl yn cerdded dros yr hen bont rheilffordd
ar yr adeg hwyr hon o’r dydd, ac ambell berson yn pysgota oddi yno hefyd, ond
neb arall yn beicio. Dwi’n meddwl bod aber y Fawddach, ynghyd ag aberoedd y
Ddyfi a’r Ddwyryd, ymhlith golygfeydd arfordirol harddaf y byd – ac mae’r
siwrne drên
rhwng Machynlleth a Phwllheli yn rhoi cyfle bendigedig, diog i’w mwynhau
nhw i gyd mewn un dydd. Fe addunedais
wneud y siwrne drên honno rhywbryd eleni – efallai yn yr hydref pan fydd
lliwiau’r llethrau a’r coedwigoedd ar eu gorau.
Dyw’r Bermo ddim ymhlith fy rhestr o hoff drefi yng Nghymru.
Mae llawer o’r tai carreg yn edrych yn dywyll a swrth. Ond fe fwynheais y reiden
ar hyd y promenâd ac roedd hi’n ddiddorol dod o hyd i’r hen rheinws lleol,
lle byddai camfihafiwrs yn cael eu cloi hyd nes iddyn nhw ddod at eu coed.
Mae’r adeilad bach crwn wedi ei rannu’n ddau – oherwydd roedd eitha’ enw gyda
menywod y Bermo am fod yn fwy na llond llaw, nôl yn y 18fed a’r 19fed G.

Roedd
y beicio’n rhwydd ar hyd y rhan hon o ogledd Meirionnydd. Roedd y ffordd yn
dawel a’r palmant yn cynnig trac beic delfrydol. Arhosais yn Nyffryn Ardudwy i gael golwg eto
ar y siambr gladdu wych y tu ôl i’r ysgol gynradd,. Roedd hi’n noson
gynnes â’r
haul yn dechrau machludo mewn niwl o liw oren a phinc uwchlaw’r caeau isel a’r hen
faes awyr ger y glannau. Ro’n i’n falch i gael saib yn y dafarn yn Llanbedr a
chael sgwrs gyda chwpwl o Gaint oedd yn ymweld â’r ardal am y tro cyntaf
erioed. Dwi ddim yn siwr os oedden nhw wedi’u cyfareddu gan y lle chwaith –
roedden nhw wedi treulio eu diwrnod cyntaf yn edrych o gwmpas Pensarn a’r
Bermo, ac roedd y gwibed yn bla uwchben eu swper . Ro’n i’n ddiolchgar am y
rhodd o becyn creision ychwanegol – ro’n i’n rhyw deimlo y byddai ei angen cyn
i’r noson ddod i ben.
Yn Llanfair fe benderfynais
ddilyn llwybr Ardudwy am sbel, dros y mynydd a draw at Llandecwyn
(Llwybr 8 Sustrans). Dyna beth oedd dewis da. Dyma’r siwrne feic orau erioed. Roedd
yr haul yn ffrwydro’n lliwiau tanbaid wrth iddo ddiflannu y tu ôl i
fryniau Llŷn,
a hwythau’n tywyllu’n gysgodion duon ar y gorwel. Ac i’r cyfeiriad arall wedyn
roedd y pelydrau’n dal i fwrw gwawl gynnes binc a rhwd dros lethrau’r
Rhinogydd. Roedd hi’n hollol gyfareddol ac mi allwn fod wedi aros yno am oriau,
Ond roedd rhaid bwrw mlaen, yn enwedig gan nad oedd goleuadau ar y beic hwn
chwaith. Carlamu lawr y rhiw felly, ar y
ddwy olwyn fechan - draw at Fryn Bwbach
ac allan i’r briffordd ger tollborth y Ddwyryd.
Diwedd diwrnod perffaith.