Mae arfordir Pen Llŷn yn fendigedig ond ‘dyw’r llwybr, ar
hyn o bryd, ddim yn caniatáu i chi fynd mor agos at y môr ag y byddech chi efallai’n
gobeithio gwneud mewn sawl ardal. Ar ôl astudio’r mapiau a gweld bod y
llwybr yn dilyn traciau a ffyrdd bychain mewn cynifer o lefydd fe benderfynais
y byddai’n well gen i wneud tipyn o feicio eto.
Mae’r ffordd o Borthmadog i lawr at Forfa Bychan hefyd wedi cael ei gwella’n ddiweddar a chefais reid wych i lawr o droad Borth y Gest at y môr, ar hyd palmant llyfn o darmac du, newydd sbon. Wrth fynd at y traeth fe basiais ardal o dwyni tywod sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac fe gefais fy atgoffa o ddarn o waith y bues i’n ymhél ag e rhyw 10 mlynedd yn ôl i achub y tir rhag cael ei orchuddio â chabanau gwyliau. Roedd perchnogion newydd y safle wedi bod â’u bryd ar wireddu hen ganiatâd cynllunio a roddwyd ddegawdau ynghynt – roedd y lle wedi bod yn destun protestio mawr gan fudiadau iaith yn y gorffennol, oherwydd y pryder am effaith y fath ddatblygiad ar gymeriad a chymuned Morfa Bychan, ond roedd yr awdurdod lleol yn gyndyn o fynd drwy gamau cyfreithiol i wyrdroi’r caniatâd hanesyddol oherwydd y goblygiadau o ran digolledu’r perchnogion. Roedd yn dal i fod yn achos anodd ddeng mlynedd yn ôl a bu’n rhaid sefyll yn gadarn, ar waetha’r tê a’r cacennau bach a oedd yn fy nghroesawu ym mhob cyfarfod gyda’r perchnogion! Do’n i ddim yn boblogaidd – ond roedd hi’n werth yr ymdrech. Achubwyd y safle bron yn gyfangwbl – er doeddwn i ddim yn siwr oes oedd rhagor o garafanau, erbyn hyn, wedi cripian dros y ffiniau a gytunwyd bryd hynny.
Wrth droi am nôl tuag at y briffordd rhwng Porthmadog a Chricieth mae’r
lôn fechan yn dringo dros fryn ac o’r fan hon, mewn un man, gallwch weld
cestyll Cricieth a Harlech gyda’i gilydd. Mae palmant yn rhedeg wrth ochr y
briffordd yr holl ffordd i Gricieth – a oedd yn gryn ryddhad – er bod y ffordd
ar yr adeg hon o’r bore yn wag, mwy neu lai. Yr unig gwmni oedd gen i ar lan y
môr yng Nghricieth oedd gweithiwr Cyngor Gwynedd yn gwagio biniau. Safai piler
o oleuni gwyn uwch aber y Ddwyryd, draw yn y pellter, ond nid oedd y dydd eto wedi deffro’n
iawn.
Roedd gwynt gorllewinol main yn mynnu fy arafu wrth deithio tuag at Pwllheli ar hyd y lôn feics sy’n dilyn y ffordd newydd yng nghyffiniau Abererch a’r Afonwen. Roedd y gwlyptir isel ar hyd arfordir Abererch yn edrych yn fendigedig – mae’n drueni ei bod hi mor anodd mynd yn agosach at yr ardal hon.
Ro’n i’n falch i gael hoe ym Mhwllheli, a che’s syndod i weld bod
siop goffi Costa mawr wedi agor yn y dre. Oes gwir angen y fath fusnes yma â’r
lle eisoes yn llawn caffis bach lleol? Fe benderfynais y byddwn i’n mynd i un o’r
llefydd llai a chael brecwast o goffi, tôst a marmalêd. Ymlwybro wedyn ar hyd y
prom ac allan at gyrion y dre, gan anelu am Lanbedrog. Roedd ychydig o dai
newydd wrthi’n cael eu codi ar ymylon y twyni – mwy fyth o’r balconîs dur a
gwydr bondigrybwyll! Ar ôl pasio clwstwr
digalon a dienaid o dai newydd eraill yn cael eu ‘hadeiladu at y dyfodol’ ger
Llanbedrog ro’n i’n falch cael dianc a dringo i gopa Mynydd Tir y Cwmwd. Mae
hwn yn bentir hyfryd o weundir grugog gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad a
cherflun metal sgerbydol yn sefyll yn
heriol ar ymyl clogwyn. Roedd Abersoch yn brysur – yn llawn shorts a throwsusau
capri, oglau eli-haul a fflip-fflops, breichiau
blonegog a sbectolau haul digon mawr i alw ‘chi’ arnyn nhw. Doedd dim awydd arna i aros yn rhy hir fan hyn.
Troais tua’r gorllewin, a chlecio’r beic ar hyd y trac tyllog dros y cwrs golff
er mwyn dianc. Draw â fi tuag at bentrefi Machros a Bwlchtocyn, ond roedd yr
allt i fyny at y llefydd bach hyn yn hynod o serth. Digon o amser, wrth gerdded
gyda’r beic, i fyfyrio am yr achos
hwnnw, rhyw 12 mlynedd yn ôl, pan wnaeth perchennog tir ar y pentir cyfagos
dywallt rwbel dros lethr clogwyn er mwyn ceisio dinistrio’r cwningod oedd yn
bwyta’i foron. Achos bach dyrys, anodd
ar y pryd.
Ro’n i’n edrych ymlaen
i weld beth gafodd ei gyflawni yn y diwedd , oherwydd fe newidiais swydd
cyn i’r prosiect orffen. Ce’s fy synnu o’r ochr orau. Dylai Cyngor Gwynedd fod
wedi ennill rhyw wbor dylunio gwledig am
y prosiect hwn. Wnes i ddim hyd yn oed sylwi mod i ar y ffordd newydd hyd nes i
fi weld yr hen un islaw. Roedd y manylion yn union fel yr oedden ni wedi eu
cynllunio nhw - y lôn yn llai llydan nag arfer , fawr ddim marciau paent, dim
goleuadau, waliau cerrig a choed yn tyfu’n drwch ar hyd yr ymylon – roedd hi’n
edrych yn dda.
Dringfa serth, serth yw honno i fyny at bentef Rhiw o fynedfa’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol at y Plas yn Rhiw. Roedd ffermwyr lleol yn gwibio lan a lawr yn eu Kubotas bach gwyrdd ond doedd ‘na neb arall ond fi yn beicio neu’n cerdded. Ond mae’r golygfeydd o’r fan hon yn hollol syfrdanol – draw dros Benrhyn Llŷn at Eryri. Roedd hi’n werth yr ymdrech hir ac araf er mwyn cael yr amser i fwynhau’r cynfas gwych dro ar ôl tro.
Ar y polion ffôn ar hyd ymyl y lôn roedd stribedi bach o garden yn
hysbysebu ‘Cragen-Llŷn’
– yr ymgyrch leol gan bystogwyr ac eraill i wrthwynebu bwriad llywodraeth Cymru
i sefydlu Ardaloedd Cadwraeth dan Warchodaeth Lem o gwmpas pen gorllewinol
Penrhyn Llŷn.
Mae’n dair milltir, i lawr yr allt, o bentref Rhiw i Aberdaron. Arhosais ger ffermdy Blawdty i dynnu lluniau o rai o’r hen alldai – un ohonyn nhw â’i waliau’n gymysgedd o glai, gwellt a manion eraill. Mae’n rhaid mai hwn yw un o’r ychydig adeiladau clai sy’n weddill ar Ben Llŷn. Arhosais wedyn yng nhafarn y Ship yn Aberdaron, ac yno bues i am rhyw awr neu ddwy yn sgwrsio gyda bobl gwyliau a rhai oedd wedi taro draw o fannau agosach am y dydd. Roedd y mwyafrif o’r bobl wyliau wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd ac yn ‘nabod yr ardal yn reit dda. Dysgais bod Rolf Harris yn yr ardal yn fflimio rhyw raglen – ond doedd neb yn gwybod beth oedd y testun! Dysgais hefyd bod hen adeilad bychan yr HSBC ar y ffrynt, sydd bellach yn fwthyn gwyliau pitw, ar werth am hanner miliwn o bunnoedd!
Bwthyn yr HSBC, ar werth yn Aberdaron am hanner miliwn o bunnoedd!
Draw i Anelog a Phorth Oer. Gadewais y beic am sbel er mwyn mynd am dro hir i gael ymestyn coesau, ac yna ymlaen â fi i Dudweiliog, Edern a Nefyn, gan ddilyn pob lôn fechan a dargyfeiriad, a cherdded i lawr at draethau nad oeddwn i wedi eu gweld o’r blaen, fel Porth Llechen Dim ond dau gar weles i mewn tair awr ac roedd y traethau gogleddol hyn yn wag, er eu bod yn gynnes yn yr haul hwyr.
Erbyn fi gyrraedd
Nefyn ro’n i wedi blino ac yn barod i roi’r gorau iddi am heddiw Ffoniais adre
am dacsi!









No comments:
Post a Comment