Tuesday, 3 July 2012

O gwmpas cyrion Cymru (21)....Aberystwyth i Benrhyndeudraeth

O gwmpas cyrion Cymru (21) … Aberystwyth i Benrhyndeudraeth

Dyma benderfynu cyfuno tamed o feicio a cherdded unwaith eto, ar ôl astudio’r mapiau o  lwybr yr arfordir. Roedd rhan helaeth o’r llwybr yn dilyn mynyddoedd o gwmpas aber y Ddyfi, ac yna’n gwau dros ucheldiroedd Merionnydd – tra bod y ffordd ei hun yn cadw’n reit agos at y glannau.

Ar hyd y darn hwn o’r arfordir y gwelais yr olygfa mwya' cofiadwy oll ar hyd y  daith gyfan efallai. Ond do’n i ddim i wybod hynny wrth i fi ddechrau cerdded o Aberystwyth.




O’r prom yn Aber fe ddringais dros Consti ac ar hyd y clogwyni at ‘gilfach y carafanau’  yng Nghlarach. Ymlaen wedyn at Borth, ble dechreuais feicio er mwyn rowndio’r aber i Fachynlleth yn reit handi, a mynd yn fy mlaen tua’r gogledd ar hyd arfordir Meirionnydd. Ro’n i wedi gadael fy meic llawn maint yn Sir Benfro felly roedd hwn yn gyfle delfrydol i roi prawf ar y beic plygu ‘Airnimal Joey’ roeddwn i wedi ei brynu rai misoedd cynt.. Doedd ‘na neb arall yn crwydro’r clogwyni hyd nes i fi gyrraedd y gofeb uwchben Borth. Doeddwn i erioed wedi cerdded y tu hwnt i draeth Clarach, er i mi fod wedi byw yn Aberystwyth am dair blynedd. Mae’r creigiau yn siâl tywyll a bregus iawn ar hyd y darn hwn o lwybr. Fe ges i fraw mewn  un man ar ôl i Macsen, y ci, neidio dros ymyl y clogwyn at silff o laswellt oedd wedi llithro lawr y llethr, a chanfod wedyn nad oedd hi’n gallu dringo nôl i fyny at y graig friwsionllyd. Roedd y traeth islaw yn edrych yn bell bell i ffwrdd. Fe lwyddes ei denu draw’n raddol at ddarn arall o’r clogwyn, ar draws wyneb y graig, gan obeithio y byddai’n llwyddo dal ei gafael ar y talpiau cul, lled wastad na fyddai wedi dal pwysau person am eiliad -  hyd nes y gallwn i ei chyrraedd drwy orwedd ac estyn dros yr ymyl a’i llusgo lan gerfydd ei gwar. Rhywsut fe lwyddodd y cynllun, er bod talpiau o bridd a thyweirch yn powlio lawr i’r traeth dan fy mreichiau, a chawodydd o bridd a cherrig yn tasgu lawr o dan ei thraed hithau hefyd. Buodd rhaid iddi aros y tennyn am sbel go hir wedyn.



Fe weles i farcud arall, a rhagor o frain coesgoch, ar y pentir cyntaf wrth i fi gerdded tua’r gogledd o Glarach. Pasio ty hyfryd, nobl yr olwg, ar ymyl y lan gerllaw hen odyn galch. Tybed ai’r agosatrwydd at y glannau bregus oedd yn cyfri am y ffaith mai golwg digon drist oedd ar y tŷ hwn? Roedd y gwaith amddiffyn môr o flaen y tŷ yn dadfeilio’n sydyn  – yr ysgrifen ar y mur. 

Galla i ddim dweud mai’r darn o arfordir rhwng Clarach a Borth yw’r un mwyaf cynhyrfus o ran bywyd gwyllt. Ond roedd yr olygfa o Gors Fochno, y tu ôl i’r Borth, gyda’i draeth anferth a’r mynyddoedd pell yn wirioneddol wych. Ar ymyl y gors, safai eglwys amlwg ar fymryn o godiad tir rhwng y pentref a’r mawndir eang tu draw – fel  tae’n pwysleisio pwysigrwydd yr adeilad yn y llecyn arfordirol hwn sy’n gorwedd dan lefel y môr. Wrth agosháu at y pentref ro’n i’n cerdded ochr yn ochr â chriw o ddarparwyr gwyliau lleol. Cwyno oedden nhw – am sawl peth!  Roedd y Borth yn brin o dywod  - pam na allen ‘nhw’ fewnforio tywod fel ma’n nhw’n gwneud yn Tenerife? A beth am y fforest cynoesol sy’n dod i’r golwg adeg llanw isel? Roedd y bonion yn llithrig ac roedd llu o ddamweiniau’n mynd i ddigwydd yr haf hwn – fe ddylen nhw gael eu symud wir, ne fe allai’r diwydiant twristiaeth lleol fod yn wynebu trasiedi.



Edrychais lawr ar y traeth, a gweld milltiroedd o dywod eurfrown yn ymestyn at geg aber y Ddyfi. Ac ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr i weld y fforest gyntefig gan fod y llanw'n isel iawn. Cerddais yn fy mlaen yn sydyn a dewis mynd drwy bentref Borth, a oedd yn llawer mwy dymunol nag yr oeddwn i’n cofio neu’n dychmygu. Roedd rhan ogleddol y traeth bron yn wag ac fe dreuliais amser hir yma yn chwarae gyda’r camera.








Troais at y tir ger Ynyslas a dilyn yr arwyddion llwybr arfordir, er mi faswn i wedi aros ar y traeth yn hwy, tawn i wedi sylweddoli bod y llwybr ond yn dilyn cyrion y twyni a’r cwrs golff cyfagos am sbel. Oddi yma roedd iard gychod Borth yn edrych yn rhyfedd, fel tase’r cychod a’r mastiau’n sownd yn y gors.


Roedd rhaid taro draw at ymyl yr aber, er mwyn ei weld ar ei hyd gyda’r llanw’n isel. Roedd winsgrîns y ceir ar hyd blaen y twyni yn boenus o sgleiniog yn yr haul  ond edrychai Aberdyfi’n hardd ar draws y llafn o ddŵr disglair a orweddai yn sianel yr afon.  Cyrhaeddodd ambell gar tra ro’n i yno, gan dalu £1 o ffi parcio dim ond er mwyn perfformio cyfres o ‘wheelies’ ar y swnd caled cyn diflannu eto nôl tua’r Borth gyda rhech ffarwél o’r egsôst!  On’d yw £1 am barcio mewn llecyn mor rhyfeddol o hardd, lle gall rhywun grwydro am oriau drwy un o warchodfeydd natur hyfrytaf Cymru, yn rhy rhad o lawer y dyddiau hyn? Mi faswn i wedi meddwl y byddai pobl yn fodlon talu dwbl hynny -  a mwy  - am ddiwrnod mor odidog.

Roedd y lôn  I Fachynlleth yn dawel a hamddenol. Tirwedd wastad a dim ceir – hyd nes i fi gyrraedd y ffordd fawr drwy Lancynfelyn beth bynnag. Roedd y goleuadau traffig yn rhoi cyfle i edmygu’r gwaith walio gwych sy’n digwydd fel rhan o’r gwaith sythu ffordd i’r de o Fachynlleth ac fe basiais hefyd warchodfa Cors Dyfi sy’n eiddo i Gymdeithas Byd Natur Sir Drefaldwyn – safle a arferai fod dan goed pîn, ond ble mae cynefin cors bellach wedi ail-sefydlu a ble mae dyfodiad gweilch y pysgod yn ystod blynyddoedd diweddar wedi creu atyniad diddorol i ymwelwyr a chreu cyfleoedd grêt i wirfoddolwyr sy’n hoff o fywyd gwyllt a phobl. Fe arhosais i gael diod oer wedi cyrraedd Aberdyfi, a chael cerddad bach ar hyd y rhes o dai harbwr  hyfryd - pob un â’i ardd hances boced fechan ar fin y môr. Cerddais rownd y gornel am y tro cyntaf erioed, i weld yr olygfa lan yr aber, a dilyn llwybr bychan a chyfresi o risiau llyfn a oedd wedi eu naddu i’r graig lwyd. Rhyfeddais at y patrymau yn y creigiau – haenau main, fel tudalennau llyfr .




Dilyn y ffordd fawr ar hyd arfordir Meirionnydd yw’r ffordd orau, efallai  i gadw’n agos at y môr. Roedd y llwybr arfordir yn gwau’n wyllt i bob cyfeiriad ond ar b’nawn dydd Sul tawel roedd y ffordd yn teimlo fel lôn feics ac fe benderfynais aros arni, am sbel o leiaf. Ymlaen drwy Dywyn ac yna draw at Rhoslefain ac Ardudwy felly. Doeddwn i ddim wedi bod ar hyd y ffordd hon ers rhyw ddegawd. Roedd ffatri hufel iâ mêl Halo yn dal i fod yno, ar ymyl y briffordd ger Bryncrug a digon o bobl yn eistedd y tu allan yn mwynhau’r stwff. O Bont Dysynni edrychai Craig y Deryn yn hudolus – ond roedd ychydig mwy o dyfiant llwyni yn cuddio’i odrau erbyn hyn, o gymharu â’r tro diwethaf y bues i’n teithio ffor’ ‘ma.




Roedd y Broadwater, o ffordd gefn Rhoslefain, yn llain anferth o ddŵr arian, wedi ei gloi y tu ôl i gefnen  o gerrig ar hyd y traeth. Roedd Tonfannau’n dawel, ac yn rhyfedd ddigon roedd hi’n edrych fel pe bai rhywun yn byw yn yr hen wersyll milwrol, gyda llieiniau gwely’n chwythu ar lein fach y tu allan i un o’r cabanau brics.

Pen ddowch chi rownd y gornel o Rhoslefain i gwrdd â’r môr eto, mae’r olygfa ar hyd arfordir de Meirionnydd yn fendigedig. Mae’n cipio fy anadl i bob tro – er nad yw hi’n olygfa dwi’n ei gweld yn aml. Efallai mai dyna pam mae hi mor arbennig o hyd. Ac mae hi hyd yn oed yn well mewn golau haul diwedd p’nawn. Y cyfuniad o gaeau bychain, y waliau cerrig sy’n nadreddau i lawr ar hyd llethrau’r mynyddoedd, a llinell hir y bae sy’n crymanu draw at ben Llŷn. Os y’ch chi’n teithio mewn car mae’r olygfa wedi cyrraedd a diflannu o fewn eiliadau felly roedd hi’n dda cael mw o amser i’w mwynhau yn iawn y tro hwn. Uwch fy mhen roedd dyn yn hongian dan farcud-injan ac yn mwynhau’r olygfa’ n fwy hamddenol fyth. Daeth heibio’n araf, y dilyn ymyl y lan a’r injan fach yn canu grwndi. Disgynnodd yn raddol a glanio rhywle ger Llanaber.



Arhosais yn Llwynrgwril i chwilio am Fynwent y Crynwyr a dod o hyd iddi yn y pen draw – lle bach annwyl uwchben y lan, gyda giât isel yn arwain i mewn iddi. Ond fe synnais cyn lleied o gerrig beddau oedd i’w gweld yn y rhan orllewinol a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer claddedigaethau Crynwyr, ar ôl i’r safle ddod dan ofal y Methodisitiaid Wesleaidd. Tybed pam?


Ymlaen i’r Friog a thros gorsdir hyfryd y Fawddach, er mwyn croesi pont y Bermo. Roedd digon o bobl yn cerdded dros yr hen bont rheilffordd ar yr adeg hwyr hon o’r dydd, ac ambell berson yn pysgota oddi yno hefyd, ond neb arall yn beicio. Dwi’n meddwl bod aber y Fawddach, ynghyd ag aberoedd y Ddyfi a’r Ddwyryd, ymhlith golygfeydd arfordirol harddaf y byd – ac mae’r siwrne drên rhwng Machynlleth a Phwllheli yn rhoi cyfle bendigedig, diog i’w mwynhau nhw  i gyd mewn un dydd. Fe addunedais wneud y siwrne drên honno rhywbryd eleni – efallai yn yr hydref pan fydd lliwiau’r llethrau a’r coedwigoedd ar eu gorau.

Dyw’r Bermo ddim ymhlith fy rhestr o hoff drefi yng Nghymru. Mae llawer o’r tai carreg yn edrych yn dywyll a swrth. Ond fe fwynheais y reiden ar hyd y promenâd ac roedd hi’n ddiddorol dod o hyd i’r hen rheinws lleol, lle byddai camfihafiwrs yn cael eu cloi hyd nes iddyn nhw ddod at eu coed. Mae’r adeilad bach crwn wedi ei rannu’n ddau – oherwydd roedd eitha’ enw gyda menywod y Bermo am fod yn fwy na llond llaw, nôl yn y 18fed a’r 19fed G.



Roedd y beicio’n rhwydd ar hyd y rhan hon o ogledd Meirionnydd. Roedd y ffordd yn dawel a’r palmant yn cynnig trac beic delfrydol.  Arhosais yn Nyffryn Ardudwy i gael golwg eto ar y siambr gladdu wych y tu ôl i’r ysgol gynradd,. Roedd hi’n noson gynnes â’r haul yn dechrau machludo mewn niwl o liw oren a phinc uwchlaw’r caeau isel a’r hen faes awyr ger y glannau. Ro’n i’n falch i gael saib yn y dafarn yn Llanbedr a chael sgwrs gyda chwpwl o Gaint oedd yn ymweld â’r ardal am y tro cyntaf erioed. Dwi ddim yn siwr os oedden nhw wedi’u cyfareddu gan y lle chwaith – roedden nhw wedi treulio eu diwrnod cyntaf yn edrych o gwmpas Pensarn a’r Bermo, ac roedd y gwibed yn bla uwchben eu swper . Ro’n i’n ddiolchgar am y rhodd o becyn creision ychwanegol – ro’n i’n rhyw deimlo y byddai ei angen cyn i’r noson ddod i ben.

Yn Llanfair fe benderfynais  ddilyn llwybr Ardudwy am sbel, dros y mynydd a draw at Llandecwyn (Llwybr 8 Sustrans). Dyna beth oedd dewis da. Dyma’r siwrne feic orau erioed. Roedd yr haul yn ffrwydro’n lliwiau tanbaid wrth iddo ddiflannu y tu ôl i fryniau Llŷn, a hwythau’n tywyllu’n gysgodion duon ar y gorwel. Ac i’r cyfeiriad arall wedyn roedd y pelydrau’n dal i fwrw gwawl gynnes binc a rhwd dros lethrau’r Rhinogydd. Roedd hi’n hollol gyfareddol ac mi allwn fod wedi aros yno am oriau, Ond roedd rhaid bwrw mlaen, yn enwedig gan nad oedd goleuadau ar y beic hwn chwaith.  Carlamu lawr y rhiw felly, ar y ddwy olwyn fechan -  draw at Fryn Bwbach ac allan i’r briffordd ger tollborth y Ddwyryd.

Diwedd diwrnod perffaith.




No comments:

Post a Comment