Thursday, 5 July 2012

O gwmpas cyrion Cymru (23)....Nefyn i Fangor

O gwmpas cyrion Cymru (23)……Nefyn i Fangor

Rhan olaf y daith o gwmpas Cymru. Mae’n anodd credu bod y cyfan yn dod i ben heddiw ac y bydda i nôl yfory yn eistedd tu ôl i ddesg ac yn rhythu ar sgrîn drwy’r dydd. Shwd ma’ pobl yn ddigon lwcus i gael swyddi sy’n eu talu nhw i grwydro, tybed?

Ond ‘sdim pwynt pendroni. Mae darn hir o’r daith ar ôl ac er ei bod hi fod yn braf, yn ôl y rhagolygon, dyw hi ddim yn edrych yn rhy wych yn Nefyn. Mae’r llwybr yn arwain o gwmpas cefn y pentref ac i fyny at y chwareli i’r de o’r B4417 – go bell o’r glannau felly.

Che's i ddim dechreuad gwych i’r dydd. Ar hyd y llwybr roedd Jac y neidiwr yn lledu ar hyd y nant fechan – planhigyn a gyflwynwyd i’n gerddi gan bobl yn Oes Fictoria ac sydd bellach yn lledu’n gyflym ar hyn ein hafonydd. Mae’n hawdd ei adnabod yn yr haf pan fydd y blodau gwyn a phinc, tebyg i sliperi, yn llenwi’r awyr gyda’u harogl cyfoglyd o felys.



Ac roedd y tyfiant ar hyd y llwybr ei hun yn ddifrifol – doedd ‘na neb wedi bod ffor’ hyn yn torri ers amser hir ac roedd y gwair yn wlyb a phendrwm. Roedd fy nhraed yn socian o fewn dim amser. Gan ddiawlio Cyngor Gwynedd mi es yn ôl i lawr at y ffordd yn hytrach na pharhau ar hyd y mynydd, a cherdded ar hyd y tarmac hyd nes bod y llwybr yn troi lawr at y clogwyni ger Pistyll.



Ond yma hefyd roedd y caeau silwair yn drwch o laswellt gwlyb. Doedd dim gobaith cadw’n sych, felly dyma benderfynu tynnu fy sgidiau a phadlo’n droednoeth drwy’r caeau am sbel. Pasio hen westy hyll Pistyll a brynwyd gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn flynyddoedd maith yn ôl ond a brofodd  i fod yn faen melin. Mae’n sefyll, yn sgerbwd unig a digalon o adeilad, ar ben y clogwyn – trueni na fyddai modd ei adfer neu ei chwalu’n llwyr.



Lle bach hyfryd yw eglwys Pistyll, yn enwedig yn yr haf pan fydd y plwyfolion yn taenu gwair ar y llawr. Mae’r oglau yn ech bwrw chi pan ewch chi drwy’r drws – oglau cynhaeaf ar nosweithiau haf. Ymlaen wedyn at bentir creigiog, a digonedd o waliau cerrig a llethrau sgri garw o’m cwmpas – dim rhyfedd bod cymaint o dinwennod y garn yn cadw sŵn yma. Roedd tair bran coesgoch yn galw uwch fy mhen yma hefyd – er yn gymharol brin, mae’r rhywogaeth hon wedi bod yn gwmni cyson ar hyd pob darn o’r daith bron.




I lawr allt serth at draeth hir a charegog Porth y Nant. Cael sioc wrth gyrraedd y traeth a gweld (fel ro’n i’n meddwl), rhes o wahaddod neu dyrchod daear yn hongian ar ffens weiren. ond wrth ddod yn agosach ro’n i’n gweld mai rhesaid o hen sgidie’ oedden nhw – ac mi roedd ‘na ddigon o rai eraill wedi golchi i’r lan yn y bae hwn!


Ro’n i hanner awydd dringo nôl i fyny’r llethr o’r traeth er mwyn cerdded drwy goedwig Gallt y Bwlch, ond ro’n i’n mwynhau fy hun ormod yn chwilota drwy’r broc. Mi af yn ôl i weld y goedwig rhywbryd eto. Ro’n i’n falch mod i wedi aros ar y traeth y tro hwn hefyd, am i fi weld pabi corniog am y tro cyntaf ar hyd y daith gyfan wrth agosháu at bentef Nant Gwrtheyrn. Planhigyn pert, yn llwyddo’n rhyfeddol i dyfu o ganol y gro, a’i flodau melyn hardd yn ysgafn a bregus.



Aros yn y Nant am baned a brechdan salad yng nghaffi Meinir. Mae Nant Gwrtheyrn yn lle dymunol iawn erbyn hyn, rhwng y tai sydd wedi eu hadfer yn fendigedig, y caffi arbennig a’r gwaith dehongli sydd yn dadlennu cymaint am hanes y pentref a’i bobl mewn ffordd mor ddifyr.

O’r diwedd, roedd hi’n dechrau poethi, ond roedd dringfa hir arall o’m blaen er mwyn dianc o’r Nant a chyrraedd y llwybr a fyddai’n fy arwain ar hyd ystlys yr Eifl. Ond er ei fod yn serth, mae’r llwybr ar hyd y ffordd o’r Nant yn un digon braf. Drwy goedwig binwydd i ddechrau. Drywod eurben a thitwod cynffon hir yn canu a gwalch glas yn llithro’n dawel dan y canopi tywyll, drwy’r tarth a oedd yn codi o’r ddaear laith, gynnes. Gweld o bell y rhaeadr yn powlio’n wyllt i lawr dros ymyl y dibyn islaw copa'r Eifl, a sgwrsio gyda dau oedd wedi dechrau cerdded lawr i’r pentref ond a oedd yn dechrau ail-feddwl wrth ddychmygau’r siwrne nôl i fyny!




Ar hyd ystlys yr Eifl a draw at chwareli gwenithfaen Trefor. Neb arall o gwmpas, a’r lle'n ddramatig, ond yr awyrgylch braidd yn rhyfedd hefyd. Pam fod mynyddoedd a llethrau naturiol mor hardd, waeth pa mor aruthrol ydyn nhw, a chwareli a chlogwyni sydd wedi cael eu naddu gan ddyn mor frawychus weithiau? Neu falle mai dim ond fi sy’n ei gweld hi fel ‘na!

Ta beth, roedd golwg digon anghynnes ar rai o’r hen adeiladau a doedd dim un aderyn, hyd yn oed, wedi dewis cartrefu ynddyn nhw. Ond roedd y golgyfeydd i lawr at Drefor, draw at Gyrn Goch a Gyrn Ddu a Chlynnog yn hollol wych – a’r olygfa i lawr am Foel y Gest, ger Porthmadog, hefyd yn braf. Lawr yr allt at y pentref, heibio caeau gwair ble roedd hen dractor bach yn grwnan a gwylanod wedi hel yn gôr swnllyd yng nghanol yr adlodd.






Allan at yr arfordir eto, drwy dir fferm Moelfre, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Roedd mwy o bobl allan yn crwydro, a hyd yn oed yn rhedeg, ar hyd y clogwyni fan hyn. O fewn dim amser roeddwn i  yn harbwr bach tlws Trefor, ac yn astudio’r mapiau eto i weld a oedd cyfle i ddilyn y glannau i Bontllyfni a Dinas Dinlle.

A na, does dim llwybr yn bodoli ar hyn o bryd. Mae'r llwybr arfordir o Drefor yn dilyn y lôn feics ar hyd y ffordd newydd sy’n pasio Clynnog. Penderfynais ffonio adre a gofyn am y beic ar gyfer y cymal olaf – yn enwedig gan ei bod hi’n 5 o’r gloch y prynhawn. Ro’n i wedi colli oriau yn stryffaglio drwy’r llystyfiant gwlyb yn y bore, yn cloncian ger eglwys Pistyll ac yna’n tynnu lluniau o gwmpas Nant Gwrtheyrn.

Roedd y daith feics yn wych – llwybr braf yr holl ffordd i Lynllifon, ar hyd hen lôn bentref Clynnog, ac yna lawr i Landwrog a Dinas Dinlle. Roedd y blodau yn y cloddiau yn ogoneddus, yn enwedig y gwyddfid a hefyd yr erwain a oedd yn dechrau dod i'w flodau yn y pantiau mwy llaith. Troi nôl o Ddinas Dinlle ac ymuno â’r ffordd sy’n dilyn ymyl hardd y Foryd. Yn haul yr hwyr roedd yr aber yn gynfas o stribedi sgleiniog rhwng banciau tywyll o dywod a llaid, ac roedd arfordir Ynys Môn mor agos nes ro’n i’n teimlo y gallwn i ei gyffwrdd bron.







Cyrraedd tref Caernarfon o  lannau’r Fenai – a gweld un o fy hoff olygfeydd o’r dre, yn gymysgedd o hen derasau tai, harbwr a chastell. Gwibio drwy’r dre, draw i’r Felinheli ble roedd oglau bwyd bendigedig yn dod o dafarn y Gardd Fôn. Dal i fynd, a dod i gwrdd â Lon Adda, sef y lôn feics newydd drwy ddinas Bangor. Cyrraedd Porth Penrhyn a’r haul yn braf. Gweld bod hen iard longau Dickies wedi mynd – a chlamp o fwrdd mawr yn hysbyebu bwriad y datblygwr newydd i godi fflatiau . Ofni mai rhyw ddatblygiad erchyll arall fydd fan hyn eto, ar ôl gweld beth sydd wedi digwydd yn Noc Fictoria Caernarfon.


Taro draw at gatiau castell Penrhyn, er mwyn gallu dweud mod i wedi cyrraedd nôl i’r fan lle cychwynnais y daith, ond wedyn gwibio nôl i Bier Bangor, ble roeddwn i wedi trefnu gorffen er mwyn cael lifft adre.

Dwi’n hoff iawn o bier Bangor ac roedd yr olygfa i’r naill gyfeiriad a’r llall heno yn hardd. Yr haul yn taro llethrau’r Carneddau tua’r dwyrain, ac yn llifoleuo’r Fenai a’i choedwigoedd hardd i’r gorllewin.



Dim ond dau arall oedd ar y Pier a thra mod i’n aros am reiden adre fe fues i’n darllen yr holl blaciau bychain sydd wedi cael eu gosod ar y meinciau bob ochr i’r pier.
Fe ddois o hyd i un bach diddorol …..



Pwy yw Gwil a Llin tybed? A gytunodd hi? Ydyn nhw’n dal i fod gyda’i gilydd?

Mae’n siwr na chaf i byth wybod!

Peint yn y Tap a Speil cyn troi am adre.

Gwyliau gwych a bythgofiadwy.


                                                                        Adre!

3 comments:

  1. Blog hyfryd iawn. Wedi digwydd dod ar ei draws bore 'ma a'i ddarllen bron i gyd. Llongyfarchiadau!

    ReplyDelete
  2. Newydd gael gwybod mai @gwilymed ar twitter yw'r Gwil. Roedd Llin i ffwrdd ar hen weekend penwythnos diwetha ac roedd e'n gofalu am y plant! Un dirgelwch wedi'i ddatrys!

    ReplyDelete
  3. Helo siantirdu - diolch o galon am ymateb. Mae hi'n braf iawn cael atborth! A diolch hefyd am y pwt o wybodaeth am Gwil a Llin. Dwi wedi bod yn pendroni am y stori tu ol i'r neges ar bier Bangor ers wythnose! Hwyl a fflag, Elinor

    ReplyDelete