Tuesday, 26 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (9).....Caerdydd i Lanilltud Fawr


O gwmpas cyrion Cymru (9)....Caerdydd i Lanilltud Fawr

‘Dwi nôl yng Nghaerdydd, ar ôl taro adre i drwco fy meic am sgidie cerdded a rycsac. Daeth Erin, sef un o’r 4 gast sydd adre, yn ôl gyda fi hefyd.

Ben bore wedyn, ym Mharc Biwt, yng nghanol y fyddin o loncwyr a cherddwyr cŵn, fe bendronais am sbel a ddyliwn i ddal y trên er mwyn osgoi awr o glatsho palmentydd y ddinas. Roedd yr afon Taf yn hyfryd o glir, a’r dŵr bas yn grych dros wely o gerrig mân. Mor wahanol i’r olwg oedd arni pan o’n i’n blentyn. Go brin y bydden ni wedi dewis mynd am dro ar ei hyd bryd hynny.

Yn y pen draw fe benderfynes groesi’r argae newydd draw at Benarth. Ond wna i ddim rhuthro i ail-adrodd y profiad. O’r pellter hwn mae’r ddinas yn edrych yn bentwr blêr o froc wedi golchi i’r lan, gydag ambell floc hyll o fflatiau fan hyn a fan ‘co - fel rhyw deganau plant rhad o Ikea. Dim ond  Canolfan y Mileniwm oedd yn  dangos rhyw fath o urddas, yn codi’n don gopor uwchlaw’r adeiladau ceiniog-a-dime sydd wedi casglu’n sydyn a di-weledigaeth o gwmpas y Bae. Roedd hi’n olygfa a oedd yn cyfleu colled – colli’r cynefin gwyllt yng ngheg yr aber i gychwyn, yn enw cynnydd economaidd, ac yna, ar ôl y fath aberth,  colli cyfle arbennig i harddu’r ddinas hyfryd hon gyda thirlun dinesig gwirioneddol wych a gosgeiddig ar hyd ei glannau.



Roedd y daith rhwng Penarth a’r Barri yn ddigon dymunol  – nid y darn mwyaf cynhyrfus  o’r arfordir efallai ond mae’r ddaeareg yn drawiadol yma ac roedd hi’n dda clywed sŵn tonnau am y tro cyntaf ers diwrnodau lawer. Roedd gwirfoddolwyr yn brysur yn gweithio ar warchodfa natur Lavernock, sy’n eiddo i Gymdeithas Byd Natur Morgannwg ac roedd cwpwl o fotanegwyr o swydd Rhydychen yn chwilio’n ddyfal drwy finocwlars am y griafolen brin Sorbus domesticus yn tyfu ar y clogwyni serth. Roedd adaregwr brwd, gyda thelesgôp yr un maint â’i goes, yn chwilio am ‘unrhyw beth oedd yn symud’ ond dim ond cwpwl o deloriaid ‘roedd e wedi eu gweld erbyn  11.30 y bore. Nid un o’i ddiwrnodau gorau efallai.



Hir a diflas braidd oedd y daith drwy’r Barri ac roedd dod o hyd i’r llwybr yn ardal y dociau’n anodd. A oeddwn i fod yn cerdded ar hyd Ffordd y Mileniwm tybed? Doedd dim sôn am yr arwyddion fan hyn ac roedd y ffordd yn swnllyd a phrysur, a’r ci‘n mynnu tynnu nôl yn betrus bob tro roedd cerbyd yn chwyrnu heibio. Ond o leia’ roedd y carpedi melyn o flodau’r blucen felen ar hyd ymyl y ffordd yn cynnig ychydig o bleser.  


Ar y glannau ger y Rhŵs  fe ddois ar hyd y llecyn mwyaf deheuol yng Nghymru – ac roedd arwydd a maen hir dramatig yn datgan hynny. Dotiais ar y cynefin sydd wedi datblygu ar waelod hen chwareli yn yr patshyn hwn – cymysgedd o byllau, gweundir, gwelyau cyrs, coed helyg a glaswelltir agored graeanog. Sŵn adar yn llenwi’r lle, ond trueni am y datblygiad mawr o dai hyll dienaid a oedd wedi digwydd reit ar y cyrion. Gallwn i’n hawdd fod wedi stopio fan hyn am oriau i gael golwg iawn ar y cynefinoedd ond roedd rhaid bwrw ‘mlaen.







Roedd hi’n hwyr y prynhawn erbyn hyn. Wrth lwc roedd hi’n dal i fod yn braf a dymunol wrth i’r llwybr wau drwy erwau o garafanau statig ar ben clogwyni, neu mi fasai wedi bod yn anodd cadw fynd. Doedd dim llawer i’w weld yn y mannau hyn, rhwng y borfa daclus, y balconîs pren anferth a’r cloddiau uchel ac fe ddechreuais roi marciau allan o ddeg i bob carafan, i dorri ar yr undonedd. Ro’n nhw i gyd yn sgorio’n hynod o uchel – mae’n rhaid bod safon y carafanau hyn yn uwch erbyn hyn na llawer iawn o dai Cymru.

Erbyn iddi ddechrau tywyllu ro’n i wedi cyrraedd y darn gwaethaf o’r siwrnai hyd yma – sef y llwybr o gwmpas pwerdy Aberddawan. Nid hwn oedd y lle gorau i fod am 7-8 o’r gloch y nos gyda’r dydd yn pylu. Mae’r llwybr fan hyn yn gwau’n dynn rhwng ffens gadwyn a weiren bigog uchel, ar y naill law, a wal fôr fawr sy’n codi’n don uwch eich pen ar y llaw arall – a honno’n ddu gan gaddug  y pwerdy. Dim golwg o’r môr fan hyn, dim ond dŵr llwyd yn hyrddio’n swnllyd o dan bont fechan, a mynyddoedd o bren a llwch ar gyrion safle’r pwerdy.  Lle i’w osgoi ‘falle.

Monday, 25 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (8)....Sant Briavel i Gaerdydd

O gwmpas cyrion Cymru (8). . . Sant Briavel i Gaerdydd

Codi’n gynnar a mynd i lolfa anferth y castell i ddarllen mwy ar nofel Juilan Barnes ‘Sense of an Ending’.  Roedd rhaid i fi gyrraedd diwedd y llyfr, felly dechreuais feicio yn hwyrach na’r disgwyl. Ond do’n i ddim yn poeni – oherwydd ro’n i’n meddwl mai diwrnod rhwydd fyddai hi heddiw. Yn y car, mae’r siwrnai rhwng Casgwent, Casnewydd a Chaerdydd yn teimlo fel mynd o un pen dinas fawr i’r llall.
Ond ro’n i’n anghywir.

Roedd dechrau’r daith, o bentref braf Sant Briavel ar hyd y ffordd gefn i Gasgwent, a thrwy diroedd comin coediog, yn ardderchog. O bell daeth ehangder yr afon Hafren i’r golwg a’r cefnau llaid, ar y llanw isel, yn codi fel rhyw asennau duon o ganol y dŵr disglair. Dilynais union lwybr Clawdd Offa i lawr i ganol y dre (llun 1), ac oddi yno ro’n i am geisio dilyn y llwybr arfordir mor agos ag y gallwn yr holl ffordd draw i Gaerdydd.


Ond artaith oedd gweddill y dydd, rhwng yr anhawster o geisio dod o hyd i lonydd beicio tawel drwy bentrefi prysur sy’n toddi i’w gilydd, a gorfod beicio’n syth i ddannedd gwynt milain o’r gorllewin.  Ro’n i’n ddiolchgar am y rhodd o Kendal Mint Cake a bagiaid o Black Jacks a Fruit Salad gan berchennog siop losin hen ffasiwn ‘The Fudge Fairy’ ym Magwyr. Arhosais i gael golwg sydyn ar warchodfa Cymdeithas Byd Natur Gwent ym Magwyr .

 Tybed i ba raddau mae hon yn dioddef oherwydd y sylw sy’n cael ei roi i warchodfa fawr yr RSPB/CCGC gerllaw yn Allt Euryn? Ond mi roedd hi’n braf dilyn y ffyrdd tawel drwy bentrefi bach fel Redbrook a'r As Fach ac nid fi yn unig oedd yn gorfod brwydro’r gwynt, Cododd crëyr o un  o’r ffosydd yng nghanol y prynhawn, a bu wrthi’n curo’i adenydd yn ddyfal am o leiaf hanner munud, heb symud o gwbl, cyn rhoi’r gorau i’w ymdrech a throi am yn ôl - a chael ei chwipio i fyny ar amrant gan y gwynt, fel rhyw farcud mawr llwyd.
 



Ro’n i’n falch i gwrdd â‘r Lôn Geltaidd (llwybr 4 Sustrans) mewn i Gasnewydd ond diflas oedd gorfod  gwau drwy strydoedd a ‘stadau’r ddinas,  yn trio dod o hyd i sticeri glas a melyn llwybr yr arfordir ar bolion golau. Croesi gwastadeddau Gweunllwg wedyn – mwy o ymdrech eto wrth feicio yn erbyn y gwynt , gyda llif cyson o draffig cymudo wrth fy ymyl.  Tirwedd ryfedd, lorweddol yw un Gweunllwg – y tir a’r môr yn toddi’n haenau o liwiau llwyd, glas, brown a gwyrdd, casgliad o gatiau addurnedig, ceffylau brith, siediau bler mewn corneli caeau ac enwau Cymraeg hyfryd yn dal i fod yn amlwg ar rai o’r hen ffermdai. Y tu cefn i’r ehangder hwn mae bryniau isel, coediog yn codi’n ddeniadol y tu ôl i Gaerdydd a Chasnewydd – dyw rhywun ddim yn sylwi arnyn nhw wrth yrru ar hyd yr M4.



Cyrraedd Caerdydd ac mae’r llwybrau cerdded a beicio’n diflannu rhywsut yng nghanol y stadau sy’n arllwys o gyrion y ddinas. Does dim dechrau na diwedd i Gaerdydd. Mae’r cyrion yn niwl o fwg  traffig  a llwch, yn cuddio’r ffin rhwng  gwlad a dinas. Fel ‘na roedd hi’n teimlo i fi, ta beth, y diwrnod hwnnw. Roedd  y rhwydi ar hyd y ffatri malu metal, ar ffordd y dociau, yn hongian yn hyll fel hen ddarnau o gnawd, ac awr ar ôl cyrraedd arwydd ‘Croeso i’r Ddinas’ ro’n i’n dal i feicio drwy ‘stad ddienaid, ac yn gorfod suddo i bob pant a thwll ar ymyl y ffordd i gadw allan o ffordd y ceir ar fy ngwar a’r lorïau diamynedd a oed yn chwyrnu y tu cefn i mi wrth aros am eu cyfle i basio.  Hanner milltir o ganol y ddinas ac mae rhedwr min-nos ar y palmant gyferbyn yn llwyddo achub y blaen arna’ i, a dwi’n penderfynu ‚mod i  wedi cael llond bol

Cyrraedd yr orsaf. Diwedd y cymal beicio. Llawn cystal gan fod yr un brêc sy’n weddill wedi gwisgo’n dwll. Adre’n sydyn i gasglu pâr arall o sgidiiau a phac cefn, ac yna nôl eto i Gaerdydd i ddechrau cerdded tua’r Gorllewin.

Rhaid cyfadde’ mod i wedi mwynhau’r beicio’n fawr iawn. Ac ar ôl y siwrnai hon dwi’n grediniol bod angen llwybr beicio bendigedig o gwmpas Cymru i gydfynd â’n llwybrau cerdded, yn dilyn lonydd tawel  a lonydd beicio sydd eisoes yn bodoli – byddai’n fwy ymarferol i fwy o bobl ‘falle. Tybed a fydd ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar y mesur Teithio Llesol yn gyfle i wthio’r syniad yn ei flaen?


O gwmpas cyrion Cymru (7)...y Gelli Gandryll i Sant Briavel

O gwmpas cyrion Cymru (7). . . y Gelli Gandryll i Sant Briavel

Os nad oedd ehedyddion yn canu ar Fryniau Clwyd roedden nhw’n bendant yn cael hwyl arni ar y Mynyddoedd Duon. Wrth i mi ddringo’n serth drwy’r ffridd roedden nhw’n pefrio yn yr awyr uwch fy mhen.  Roedd hi’n braf gweld deloriaid y cnau yn bwydo ar y coed cyll ar ochr y lôn hefyd – y tro cyntaf i mi weld yr adar hyn ers tro.
Roedd hi wedi gwawrio’n  llwydaidd a llaith. Roeddwn i’n falch nad oeddwn i gyda’r criw arall o wersyllwyr a oedd yn bwriadu caiacio i lawr yr Afon Gwy dros ddeuddydd – roedd yr afon yn llifo’n gyflym ac yn chwyrn mewn mannau. Ond erbyn canol bore, a’r gwaith dringo mawr ar ben,  roedd yr haul yn trechu.




Cwm Ewyas. A oes yna gwm harddach yng Nghymru tybed - neu mewn unrhyw le arall o ran hynny. Mae ‘na olygfeydd godidog yr holl ffordd i lawr, heb son am yr adeiladau hanesyddol. Roedd hi’n anodd dod oddi yno ond ro’n i’n benderfynol o gyrraedd rhan isaf Dyfffryn Gwy erbyn min nos. 




Dal i ddilyn y lonydd bychain rhwng y Fenni a Threfynwy ac heibio llefydd bach na wyddwn am eu bodolaeth, fel Llanddingad a pherllan anferth cwmni Bulmers ym Mhenrhos. Fe ddois o hyd i gastell nad oeddwn i wedi clywed amdano erioed o’r blaen – sef Castell y Twr Gwyn a godwyd gan Hugh de Burgh. Dilyn yr afon Gwy ar y ffordd fawr o Drefynwy hyd nes cyrraedd Brockweir, ac yna dringo’n syth ac yn uchel at bentef Sant Briavel, yn swydd Caerloyw.



Dwi wedi addo i mi fy hun ers blynyddoedd y byddwn yn aros rhywbryd yn hostel ieuenctid Sant Briavel. Mae’n hen lodj hela brenhinol ac mae’r tu mewn yn dal i fod yn hynafol iawn. Fel arfer mae’n llawn plant ysgol ond heno roedd digon o le i aros.



Yr unig gwmni arall oedd criw o feicwyr o Stockport yn teithio o Land’s End i John O’Groats i godi arian at hospis cancr. Roedden nhw’n griw hwyliog ac  fe fuon ni’n sgwrsio am amser hir dros baneidiau di-ri.  Ro’n nhw’n hala fi i chwerthin – roedd brawdoliaeth y criw yn dechrau gwegian oherwydd (yn ôl geiriau rhai o’r grŵp) bod gormod o ddynion alpha yn eu plith a oedd yn mynnu bod ar y blaen o hyd ac felly’n gwrthod cario unrhyw bwysau ychwanegol a allai eu harafu. Y cyw iâr rhost a’r pwdin tiaramisu a brynwyd i swper ger Bryste oedd wedi wedi achosi’r tensiynau a’r ffraeo y diwrnod hwnnw. Tybed faint fydde ar ôl yn y grŵp erbyn iddyn nhw gyrraedd John O’Groats?  

O gwmpas cyrion Cymru (6).... Clun i'r Gelli Gandryll




O gwmpas cyrion Cymru (6) . . . Clun i’r Gelli Gandryll

Pa eisiau mynd ar wyliau sgïo pan fo modd i chi igam-ogamu ar ddwy olwyn i lawr rhiwiau fel yr un rhwng Clun a New Invention. Gwych!
Tybed beth oedd y ‘New Invention‘ a roddodd enw i’r clwstwr bach o dai ar waelod y cwm? Doedd dim olion na bwrdd dehongli i’w gweld wrth i mi wibio heibio. Yn Nhrefyclo roedd rhywun wrthi’n  gweithio ar fathau eraill o greadigaethau ……


Ro’n i’n ddiolchgar iawn am y pentwr o fisgedi Biscotti a gefais yn anrheg gan berchennog caffi  yn Nhrefyclo. Roedd y dref yn dawel – dim ond un criw o gerddwyr oedd o gwmpas y lle ac ambell berson yn mynd i nôl papur Sul.
Dringo’n serth eto allan o Drefyclo. Cyrraedd  Rhyd-y-meirch, yna Tre Hwytyn a phentref bach tlws Esiniob (llun 2). Un o’r darnau mwyaf hyfryd o’r daith, hyd yn hyn, oedd y lôn dawel sy’n arwain o Esiniob draw at Burfa, heibio gwarchodfa natur Cors Burfa sy’n eiddo i Gymdeithas Byd Natur Maesyfed. Roedd hi’n newid braf i weld ardal helaeth o dir heb ei wella. Ond rhaid dweud bod y cloddiau ar fin y ffordd wedi gwella’n sylweddol, o ran eu cyfoeth o flodau gwyllt, wrth deithio mewn i siroedd Maesyfed a Henffordd. Ar y gyffordd, ble roedd y lôn fach hon yn cwrdd â’r hewl rhwng Knill a Walton, gallwn glywed oglau melys y goeden bisgwydd o fferm Lower Hampton, rhyw chwarter milltir i ffwrdd, yn gymysg ag oglau’r rêp had olew.





O Geintun, dilynais y ffordd gul drwy Huntington (Castell Maen?), islaw Cefn Hergest, nes cyrraedd Rhydspens. Roedd tonnau anferth o dwnneli plastig yn torri ar draws yr awyr ger Huntington – rhan o fferm Haygrove Organics. Beth oedden nhw’n tyfu yma tybed? Roedd y coed o dan y plastig yn edrych fel rhai afalau, ond gallwn i ddim bod yn siwr.


O’r lôn hir sy’n arwain ar hyd  y gefnen,uwchlaw pentef Rhydspens, roedd  y Mynyddoedd Duon yn herio’r cymylau uwch eu pennau, â’u talcenni’n ddu yn erbyn yr awyr stormus.
Aros ym maes gwersylla’r ‘New Radnor’ ar ochr Clyro i’r afon Gwy. Lle bach da, a pherchennog  caredig a chymwynasgar. Crwydro i gael golwg ar dref y Gelli Gandryll gyda’r hwyr ac ro’n i’n gweld hi’n edrych yn fwy di-raen a di-lewyrch nag arfer. Llai o orielau bychain, llai o fusnesau bach diddorol, a llai o siopau llyfrau – sy’n ddim syndod falle’ yn y dyddiau Kindlaidd hyn 
Nôl i’r babell wrth iddi ddechrau glawio yn y tywyllwch. Roedd y frechdan jam olaf yn nefoedd.






O gwmpas cyrion Cymru (5)...Trefonnen i Clun


O gwmpas cyrion Cymru (5). . . Trefonnen i Clun

Mae’r posteri gwrth-beilon yn niferus o gwmpas ardal Llynclys a hawdd deall pam. Tirwedd hyfryd, wledig. Dilyn camlas Trefaldwyn o Garreghofa i lawr at Buttington (llun 1), yna beicio i gael brechdan gaws a sglodion yng nghaffi’r hen orsaf yn y Trallwng, Eistedd yno am sbel yn gwylio bysus o bobl hŷn yn cyrraedd i edrych ar ddillad a charthenni tartan diangen wedi’u mewnforio o bell – rhan o’r profiad gwyliau Cymreig cyfoes -  cyn bwrw ymlaen at dref Trefaldwyn, heibio Leighton gyda’i hystâd fodel, ddiddorol  ac yna ar wib ar hyd ffordd Rufeinig hir a syth.


Lle bach hyfryd yw Trefaldwyn a dyw’r dre heb newid fawr ddim ers i mi fod yn byw yn y cyffiiniau rhyw 12 mlynedd yn ôl. Siop ‘gwerthu-popeth’ Bunners yn dal i fod yno, ynghyd â’r mur o ddroriau bychain pren y tu ôl i’r cownter (llun 2). Roedd rhaid aros am baned a chacen yn y Castle Kitchen – lle arbennig ar gyfer bwyd (llun 3).



Mae’r gwaith dringo’n dechrau o ddifri i’r de o Drefaldwyn, gerllaw Penterheyling ac roedd hi’n amhosib aros ar y beic ar adegau. Gwthio’n araf, fesul deg cam ar y tro mewn mannau, ond roedd y siwrnai lawr at Clun yn fendigedig. Y tir wedi ei wella’n llwyr yn yr ardal hon, hyd yn oed ar Gefn Ceri  a’r cyfan yn donnau llyfn o laswellt gwyrdd a lliw melyn asidaidd y cnydau rêp, gydag ambell floc o goedwig gonwydd fan hyn a fan ‘co.



Penderfynu aros yn hostel ieuenctid Clun, ac er nad oedd gwely ar ôl cefais groeso hyfryd gan y criw o wirfoddolwyr hŷn sy’n gofalu am y lle fel rhan o rota wythnosol, ac yn gwneud yn siwr ei fod yn aros ar agor. Mae’r hostel yn hen felin ac yn llawn cymeriad. Lle gwych i aros. Diolch yn fawr i bawb oedd yno, yn hostelwyr ac yn wirfoddolwyr, am y caredigrwydd a’r cyfraniadau at yr achosion da. Dechreuais ar fy siwrnai y bore wedyn gyda phentwr o frechdanau jam eirin yn rhodd gan un o’r gwirfoddolwyr, a siars i gribo fy ngwallt yn amlach!  


O gwmpas cyrion Cymru (4)....Llanbedr Dyffryn Clwyd i Drefonnen


O gwmpas cyrion Cymru (4). . . Llanbedr Dyffryn Clwyd i Drefonnen

Bu’n rhaid i fi addasu’r cynllun ar ôl hollti gwadn esgid ar Fryniau Clwyd. Beic amdani, felly,ar gyfer y daith ar hyd y gororau. Ond doedd hyn ddim yn ddrwg o beth chwaith gan mai pentrefi a lonydd bychain sy’n gwneud yr ardal hon mor hyfryd.  Penderfynu dilyn llwybr Clawdd Offa mor agos ag y gallwn i – ac mae cryn dipyn o hwnnw ar y lôn beth bynnag – a dilyn y ffyrdd bach tawelaf posib.

Cymryd tro cam yn Lanarmon yn Iâl a chyrraedd Minera (llun 1). Dringfa hir yn ôl i fyny at gopaon grugog Llandegla (llun 2), drwy gawod wyllt o genllysg a barodd am bron i awr. O bell, drwy sŵn y cesair yn curo, gallwn glywed grugieir yn galw.





Ro’n i’n falch i weld yr haul yn ‘sgubo dros Ddyffryn Edeyrnion wrth gyrraedd clogwyni Eglwyseg (llum 3,4).  Chwip o daith yw honno o ben y mynydd i lawr hyd odrau’r creigiau, a draw am bentre’ Trefor.  Roedd hi’n fwy cynhyrfus fyth gan i un o frêcs y beic roi’r ffidil yn y tô o fewn rhyw bum munud ar ôl dechrau disgyn o’r topiau!






Gweld carlwm yn erlid grugiar goch wrth fwrw draw heibio Castell Dinas Brân - y ‘deryn yn wadlan yn drwsgwl, yn sŵn i gyd, ac yn gwrthod codi i’r awyr hyd nes i’r carlwm bron afael yn ei chwt. Cyrraedd Froncysyllte mewn haul braf,  a cherdded am y tro cyntaf erioed dros y bont gamlas hynod o gul a brawychus o uchel a gostiodd £47,000 i’w chodi’n wreiddiol (llun 5,6). Fentrais i ddim edrych dros yr ymyl.




Mae Llwybr Clawdd Offa’n dilyn y gamlas fan hyn am sbel – llwybr hawdd a hyfryd iawn. Dringais wedyn dros y cefnau at bentre’r Waun, a gweld am y tro cyntaf ddarn go iawn o’r Clawdd. Fues i erioed o’r blaen yn Selattyn, ond ar ôl darganfod tafarn groesawgar  y Cross Keys mi fyddai’n siwr o fynd yn ôl rhyw bryd. Tân glo, cwmni braf a chwrw da o fragdy teuluol lleol yng Nghroesoswallt.  Mi allwn fod wedi aros yno drwy’r nos, ond roedd rhaid bwrw ymlaen. Roedd golgyfeydd eang , braf o wastadeddau Swydd Caer i’w gweld fin nos o’r lonydd (llun 7). Cysgu’r nos wrth fôn gwrych, rhywle yn ardal Trefonnen.












Saturday, 16 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (3) - Prestatyn i Lanbedr Dyffryn Clwyd


O gwmpas cyrion Cymru (3) – Prestatyn i Lanbedr Dyffryn Clwyd

'Sgen i ddim rhyw lawer i'w ddweud wrth Fryniau Clwyd yn y glaw. Moel Fama', Moel Draw, Moel Pellach i Ffwrdd - maen nhw i gyd yn edrych yr un peth ar ddiwrnod fel ddoe. Haen ar ol haen o ddyfrlliw llwydwyrdd.



Fe ddois i lawr o'r topiau ar ôl oriau o grwydro drwy'r niwl ac fe ddilynais lonydd Dyffryn Clwyd am sbel. Mae'r cloddiau'n ormesol o wyrdd ar hyn o bryd, ac yn llawn dail newydd sy'n wych ar gyfer cawl gwanwyn - danadl, suran, craf y geifr. Patshsys mawr o glychau'r gog a botwm crys mewn mannau a digonedd o droed yr asen neu'r berwr garllegog yn codi'n dalsyth fel sowldiwrs uwchben y tarmac - mae'r dail hyn yn flasus mewn brechdan gaws ac ro'n i'n falch ohonyn nhw ddoe.

Serch hynny, tila oedd y bywyd gwyllt ar y cyfan.  Welais i 'run cae oedd hyd yn oed yn addo bod yn llawn blodau gwyllt yn hwyrach yn yr haf. Ac roedd y ffriddoedd a'r copaon fel y bedd, hyd yn oed cyn i'r glaw gyrraedd. Oes 'na ehedyddion yn dal i fod ar Fryniau Clwyd tybed? Ond roedd hi'n braf clywed y gwcw ddwywaith ar lethrau Penycloddiau (y tro cyntaf i mi eleni) a gweld carlwm yn gwibio rhwng llwyni eithin.

Fues i'n eistedd dan ymbarél yn Llanbedr DC am sbel, yn rhyw bendroni ynglyn ag ystyr 'harddwch naturiol'. Mae'r ardal hon wedi ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Beth sy'n gwneud yr ardal hon, er ei bod yn cael ei hamaethu'n reit ddwys, yn eithriadol o ran ei harddwch naturiol o gymharu, dyweder, â gorllewin Sir Gaerfyrddin? Ai rhywbeth sy'n ddwfn yn ein diwylliant sy'n gwneud i ni roi mwy o fri ar dirweddau sy'n cyfleu naws pictwrésg a dramatig? Ac a oes 'na rhyw fformiwla yn yr isymwybod, fel sy'n wir gyda wynebau, yn allwedd i'r cyfan - a oes angen hyn a hyn o lethrau, neu hyn a hyn o liwiau gwahanol, hyn a hyn o goed nobl, patrwm arbennig o derfynau caeau ac yn y blaen er mwyn i ni benderfynu bod tirwedd yn un o harddwch naturiol eithriadol?

Erbyn i fi orffen hel meddyliau roedd hi'n hwyr, yn oer ac roedd Macsen y ci wedi cael llond bol.