O gwmpas cyrion Cymru
(4). . . Llanbedr Dyffryn Clwyd i Drefonnen
Bu’n rhaid i fi addasu’r cynllun ar ôl hollti gwadn esgid ar
Fryniau Clwyd. Beic amdani, felly,ar gyfer y daith ar hyd y gororau. Ond doedd
hyn ddim yn ddrwg o beth chwaith gan mai pentrefi a lonydd bychain sy’n gwneud
yr ardal hon mor hyfryd. Penderfynu
dilyn llwybr Clawdd Offa mor agos ag y gallwn i – ac mae cryn dipyn o hwnnw ar
y lôn
beth bynnag – a dilyn y ffyrdd bach tawelaf posib.
Cymryd tro cam yn Lanarmon yn Iâl a chyrraedd Minera (llun 1). Dringfa
hir yn ôl
i fyny at gopaon grugog Llandegla (llun 2), drwy gawod wyllt o genllysg a barodd am bron
i awr. O bell, drwy sŵn y cesair yn curo, gallwn glywed grugieir yn galw.
Ro’n i’n falch i weld yr haul yn ‘sgubo dros Ddyffryn
Edeyrnion wrth gyrraedd clogwyni Eglwyseg (llum 3,4).
Chwip o daith yw honno o ben y mynydd i lawr hyd odrau’r creigiau, a
draw am bentre’ Trefor. Roedd hi’n fwy
cynhyrfus fyth gan i un o frêcs y beic roi’r ffidil yn y tô o fewn
rhyw bum munud ar ôl dechrau disgyn o’r topiau!
Gweld carlwm yn erlid grugiar goch wrth fwrw draw heibio Castell
Dinas Brân - y ‘deryn yn wadlan yn drwsgwl, yn sŵn i gyd, ac yn gwrthod codi
i’r awyr hyd nes i’r carlwm bron afael yn ei chwt. Cyrraedd Froncysyllte mewn
haul braf, a cherdded am y tro cyntaf
erioed dros y bont gamlas hynod o gul a brawychus o uchel a gostiodd £47,000
i’w chodi’n wreiddiol (llun 5,6). Fentrais i ddim edrych dros yr ymyl.
No comments:
Post a Comment