Monday, 25 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (6).... Clun i'r Gelli Gandryll




O gwmpas cyrion Cymru (6) . . . Clun i’r Gelli Gandryll

Pa eisiau mynd ar wyliau sgïo pan fo modd i chi igam-ogamu ar ddwy olwyn i lawr rhiwiau fel yr un rhwng Clun a New Invention. Gwych!
Tybed beth oedd y ‘New Invention‘ a roddodd enw i’r clwstwr bach o dai ar waelod y cwm? Doedd dim olion na bwrdd dehongli i’w gweld wrth i mi wibio heibio. Yn Nhrefyclo roedd rhywun wrthi’n  gweithio ar fathau eraill o greadigaethau ……


Ro’n i’n ddiolchgar iawn am y pentwr o fisgedi Biscotti a gefais yn anrheg gan berchennog caffi  yn Nhrefyclo. Roedd y dref yn dawel – dim ond un criw o gerddwyr oedd o gwmpas y lle ac ambell berson yn mynd i nôl papur Sul.
Dringo’n serth eto allan o Drefyclo. Cyrraedd  Rhyd-y-meirch, yna Tre Hwytyn a phentref bach tlws Esiniob (llun 2). Un o’r darnau mwyaf hyfryd o’r daith, hyd yn hyn, oedd y lôn dawel sy’n arwain o Esiniob draw at Burfa, heibio gwarchodfa natur Cors Burfa sy’n eiddo i Gymdeithas Byd Natur Maesyfed. Roedd hi’n newid braf i weld ardal helaeth o dir heb ei wella. Ond rhaid dweud bod y cloddiau ar fin y ffordd wedi gwella’n sylweddol, o ran eu cyfoeth o flodau gwyllt, wrth deithio mewn i siroedd Maesyfed a Henffordd. Ar y gyffordd, ble roedd y lôn fach hon yn cwrdd â’r hewl rhwng Knill a Walton, gallwn glywed oglau melys y goeden bisgwydd o fferm Lower Hampton, rhyw chwarter milltir i ffwrdd, yn gymysg ag oglau’r rêp had olew.





O Geintun, dilynais y ffordd gul drwy Huntington (Castell Maen?), islaw Cefn Hergest, nes cyrraedd Rhydspens. Roedd tonnau anferth o dwnneli plastig yn torri ar draws yr awyr ger Huntington – rhan o fferm Haygrove Organics. Beth oedden nhw’n tyfu yma tybed? Roedd y coed o dan y plastig yn edrych fel rhai afalau, ond gallwn i ddim bod yn siwr.


O’r lôn hir sy’n arwain ar hyd  y gefnen,uwchlaw pentef Rhydspens, roedd  y Mynyddoedd Duon yn herio’r cymylau uwch eu pennau, â’u talcenni’n ddu yn erbyn yr awyr stormus.
Aros ym maes gwersylla’r ‘New Radnor’ ar ochr Clyro i’r afon Gwy. Lle bach da, a pherchennog  caredig a chymwynasgar. Crwydro i gael golwg ar dref y Gelli Gandryll gyda’r hwyr ac ro’n i’n gweld hi’n edrych yn fwy di-raen a di-lewyrch nag arfer. Llai o orielau bychain, llai o fusnesau bach diddorol, a llai o siopau llyfrau – sy’n ddim syndod falle’ yn y dyddiau Kindlaidd hyn 
Nôl i’r babell wrth iddi ddechrau glawio yn y tywyllwch. Roedd y frechdan jam olaf yn nefoedd.






No comments:

Post a Comment