Monday, 25 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (8)....Sant Briavel i Gaerdydd

O gwmpas cyrion Cymru (8). . . Sant Briavel i Gaerdydd

Codi’n gynnar a mynd i lolfa anferth y castell i ddarllen mwy ar nofel Juilan Barnes ‘Sense of an Ending’.  Roedd rhaid i fi gyrraedd diwedd y llyfr, felly dechreuais feicio yn hwyrach na’r disgwyl. Ond do’n i ddim yn poeni – oherwydd ro’n i’n meddwl mai diwrnod rhwydd fyddai hi heddiw. Yn y car, mae’r siwrnai rhwng Casgwent, Casnewydd a Chaerdydd yn teimlo fel mynd o un pen dinas fawr i’r llall.
Ond ro’n i’n anghywir.

Roedd dechrau’r daith, o bentref braf Sant Briavel ar hyd y ffordd gefn i Gasgwent, a thrwy diroedd comin coediog, yn ardderchog. O bell daeth ehangder yr afon Hafren i’r golwg a’r cefnau llaid, ar y llanw isel, yn codi fel rhyw asennau duon o ganol y dŵr disglair. Dilynais union lwybr Clawdd Offa i lawr i ganol y dre (llun 1), ac oddi yno ro’n i am geisio dilyn y llwybr arfordir mor agos ag y gallwn yr holl ffordd draw i Gaerdydd.


Ond artaith oedd gweddill y dydd, rhwng yr anhawster o geisio dod o hyd i lonydd beicio tawel drwy bentrefi prysur sy’n toddi i’w gilydd, a gorfod beicio’n syth i ddannedd gwynt milain o’r gorllewin.  Ro’n i’n ddiolchgar am y rhodd o Kendal Mint Cake a bagiaid o Black Jacks a Fruit Salad gan berchennog siop losin hen ffasiwn ‘The Fudge Fairy’ ym Magwyr. Arhosais i gael golwg sydyn ar warchodfa Cymdeithas Byd Natur Gwent ym Magwyr .

 Tybed i ba raddau mae hon yn dioddef oherwydd y sylw sy’n cael ei roi i warchodfa fawr yr RSPB/CCGC gerllaw yn Allt Euryn? Ond mi roedd hi’n braf dilyn y ffyrdd tawel drwy bentrefi bach fel Redbrook a'r As Fach ac nid fi yn unig oedd yn gorfod brwydro’r gwynt, Cododd crëyr o un  o’r ffosydd yng nghanol y prynhawn, a bu wrthi’n curo’i adenydd yn ddyfal am o leiaf hanner munud, heb symud o gwbl, cyn rhoi’r gorau i’w ymdrech a throi am yn ôl - a chael ei chwipio i fyny ar amrant gan y gwynt, fel rhyw farcud mawr llwyd.
 



Ro’n i’n falch i gwrdd â‘r Lôn Geltaidd (llwybr 4 Sustrans) mewn i Gasnewydd ond diflas oedd gorfod  gwau drwy strydoedd a ‘stadau’r ddinas,  yn trio dod o hyd i sticeri glas a melyn llwybr yr arfordir ar bolion golau. Croesi gwastadeddau Gweunllwg wedyn – mwy o ymdrech eto wrth feicio yn erbyn y gwynt , gyda llif cyson o draffig cymudo wrth fy ymyl.  Tirwedd ryfedd, lorweddol yw un Gweunllwg – y tir a’r môr yn toddi’n haenau o liwiau llwyd, glas, brown a gwyrdd, casgliad o gatiau addurnedig, ceffylau brith, siediau bler mewn corneli caeau ac enwau Cymraeg hyfryd yn dal i fod yn amlwg ar rai o’r hen ffermdai. Y tu cefn i’r ehangder hwn mae bryniau isel, coediog yn codi’n ddeniadol y tu ôl i Gaerdydd a Chasnewydd – dyw rhywun ddim yn sylwi arnyn nhw wrth yrru ar hyd yr M4.



Cyrraedd Caerdydd ac mae’r llwybrau cerdded a beicio’n diflannu rhywsut yng nghanol y stadau sy’n arllwys o gyrion y ddinas. Does dim dechrau na diwedd i Gaerdydd. Mae’r cyrion yn niwl o fwg  traffig  a llwch, yn cuddio’r ffin rhwng  gwlad a dinas. Fel ‘na roedd hi’n teimlo i fi, ta beth, y diwrnod hwnnw. Roedd  y rhwydi ar hyd y ffatri malu metal, ar ffordd y dociau, yn hongian yn hyll fel hen ddarnau o gnawd, ac awr ar ôl cyrraedd arwydd ‘Croeso i’r Ddinas’ ro’n i’n dal i feicio drwy ‘stad ddienaid, ac yn gorfod suddo i bob pant a thwll ar ymyl y ffordd i gadw allan o ffordd y ceir ar fy ngwar a’r lorïau diamynedd a oed yn chwyrnu y tu cefn i mi wrth aros am eu cyfle i basio.  Hanner milltir o ganol y ddinas ac mae rhedwr min-nos ar y palmant gyferbyn yn llwyddo achub y blaen arna’ i, a dwi’n penderfynu ‚mod i  wedi cael llond bol

Cyrraedd yr orsaf. Diwedd y cymal beicio. Llawn cystal gan fod yr un brêc sy’n weddill wedi gwisgo’n dwll. Adre’n sydyn i gasglu pâr arall o sgidiiau a phac cefn, ac yna nôl eto i Gaerdydd i ddechrau cerdded tua’r Gorllewin.

Rhaid cyfadde’ mod i wedi mwynhau’r beicio’n fawr iawn. Ac ar ôl y siwrnai hon dwi’n grediniol bod angen llwybr beicio bendigedig o gwmpas Cymru i gydfynd â’n llwybrau cerdded, yn dilyn lonydd tawel  a lonydd beicio sydd eisoes yn bodoli – byddai’n fwy ymarferol i fwy o bobl ‘falle. Tybed a fydd ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar y mesur Teithio Llesol yn gyfle i wthio’r syniad yn ei flaen?


No comments:

Post a Comment