O gwmpas cyrion Cymru
(5). . . Trefonnen i Clun
Mae’r posteri gwrth-beilon yn niferus o gwmpas ardal
Llynclys a hawdd deall pam. Tirwedd hyfryd, wledig. Dilyn camlas Trefaldwyn o
Garreghofa i lawr at Buttington (llun 1), yna beicio i gael brechdan gaws a sglodion yng
nghaffi’r hen orsaf yn y Trallwng, Eistedd yno am sbel yn gwylio bysus o bobl hŷn
yn cyrraedd i edrych ar ddillad a charthenni tartan diangen wedi’u mewnforio o
bell – rhan o’r profiad gwyliau Cymreig cyfoes - cyn bwrw ymlaen at dref Trefaldwyn, heibio Leighton
gyda’i hystâd
fodel, ddiddorol ac yna ar wib ar hyd
ffordd Rufeinig hir a syth.
Lle bach hyfryd yw Trefaldwyn a dyw’r dre heb newid fawr
ddim ers i mi fod yn byw yn y cyffiiniau rhyw 12 mlynedd yn ôl.
Siop ‘gwerthu-popeth’ Bunners yn dal i fod yno, ynghyd â’r mur o ddroriau bychain pren
y tu ôl
i’r cownter (llun 2). Roedd rhaid aros am baned a chacen yn y Castle Kitchen – lle
arbennig ar gyfer bwyd (llun 3).
Mae’r gwaith dringo’n dechrau o ddifri i’r de o Drefaldwyn,
gerllaw Penterheyling ac roedd hi’n amhosib aros ar y beic ar adegau. Gwthio’n
araf, fesul deg cam ar y tro mewn mannau, ond roedd y siwrnai lawr at Clun yn
fendigedig. Y tir wedi ei wella’n llwyr yn yr ardal hon, hyd yn oed ar Gefn
Ceri a’r cyfan yn donnau llyfn o
laswellt gwyrdd a lliw melyn asidaidd y cnydau rêp, gydag ambell floc o goedwig
gonwydd fan hyn a fan ‘co.
Penderfynu aros yn hostel ieuenctid Clun, ac er nad oedd gwely ar ôl cefais groeso hyfryd gan y criw o wirfoddolwyr hŷn sy’n gofalu am y lle fel rhan o rota wythnosol, ac yn gwneud yn siwr ei fod yn aros ar agor. Mae’r hostel yn hen felin ac yn llawn cymeriad. Lle gwych i aros. Diolch yn fawr i bawb oedd yno, yn hostelwyr ac yn wirfoddolwyr, am y caredigrwydd a’r cyfraniadau at yr achosion da. Dechreuais ar fy siwrnai y bore wedyn gyda phentwr o frechdanau jam eirin yn rhodd gan un o’r gwirfoddolwyr, a siars i gribo fy ngwallt yn amlach!
No comments:
Post a Comment