Os nad oedd ehedyddion yn canu ar Fryniau Clwyd roedden
nhw’n bendant yn cael hwyl arni ar y Mynyddoedd Duon. Wrth i mi ddringo’n serth
drwy’r ffridd roedden nhw’n pefrio yn yr awyr uwch fy mhen. Roedd hi’n braf gweld deloriaid y cnau yn
bwydo ar y coed cyll ar ochr y lôn hefyd – y tro cyntaf i mi weld yr adar
hyn ers tro.
Roedd hi wedi gwawrio’n
llwydaidd a llaith. Roeddwn i’n falch nad oeddwn i gyda’r criw arall o wersyllwyr
a oedd yn bwriadu caiacio i lawr yr Afon Gwy dros ddeuddydd – roedd yr afon yn
llifo’n gyflym ac yn chwyrn mewn mannau. Ond erbyn canol bore, a’r gwaith
dringo mawr ar ben, roedd yr haul yn
trechu.Cwm Ewyas. A oes yna gwm harddach yng Nghymru tybed - neu mewn unrhyw le arall o ran hynny. Mae ‘na olygfeydd godidog yr holl ffordd i lawr, heb son am yr adeiladau hanesyddol. Roedd hi’n anodd dod oddi yno ond ro’n i’n benderfynol o gyrraedd rhan isaf Dyfffryn Gwy erbyn min nos.
Dal i ddilyn y lonydd bychain rhwng y Fenni a Threfynwy ac heibio
llefydd bach na wyddwn am eu bodolaeth, fel Llanddingad a pherllan anferth
cwmni Bulmers ym Mhenrhos. Fe ddois o hyd i gastell nad oeddwn i wedi clywed
amdano erioed o’r blaen – sef Castell y Twr Gwyn a godwyd gan Hugh de Burgh. Dilyn
yr afon Gwy ar y ffordd fawr o Drefynwy hyd nes cyrraedd Brockweir, ac yna
dringo’n syth ac yn uchel at bentef Sant Briavel, yn swydd Caerloyw.
Dwi wedi addo i mi fy hun ers blynyddoedd y byddwn yn aros
rhywbryd yn hostel ieuenctid Sant Briavel. Mae’n hen lodj hela brenhinol ac
mae’r tu mewn yn dal i fod yn hynafol iawn. Fel arfer mae’n llawn plant ysgol
ond heno roedd digon o le i aros.
Yr unig gwmni arall oedd criw o feicwyr o Stockport yn teithio o Land’s End i John O’Groats i godi arian at hospis cancr. Roedden nhw’n griw hwyliog ac fe fuon ni’n sgwrsio am amser hir dros baneidiau di-ri. Ro’n nhw’n hala fi i chwerthin – roedd brawdoliaeth y criw yn dechrau gwegian oherwydd (yn ôl geiriau rhai o’r grŵp) bod gormod o ddynion alpha yn eu plith a oedd yn mynnu bod ar y blaen o hyd ac felly’n gwrthod cario unrhyw bwysau ychwanegol a allai eu harafu. Y cyw iâr rhost a’r pwdin tiaramisu a brynwyd i swper ger Bryste oedd wedi wedi achosi’r tensiynau a’r ffraeo y diwrnod hwnnw. Tybed faint fydde ar ôl yn y grŵp erbyn iddyn nhw gyrraedd John O’Groats?

No comments:
Post a Comment