O gwmpas cyrion Cymru
(9)....Caerdydd i Lanilltud Fawr
‘Dwi nôl yng Nghaerdydd, ar ôl taro adre i drwco fy meic am
sgidie cerdded a rycsac. Daeth Erin, sef un o’r 4 gast sydd adre, yn ôl
gyda fi hefyd.
Ben bore wedyn, ym Mharc Biwt, yng nghanol y fyddin o loncwyr
a cherddwyr cŵn, fe bendronais am sbel a ddyliwn i ddal y trên
er mwyn osgoi awr o glatsho palmentydd y ddinas. Roedd yr afon Taf yn hyfryd o
glir, a’r dŵr
bas yn grych dros wely o gerrig mân. Mor wahanol i’r olwg oedd arni pan
o’n i’n blentyn. Go brin y bydden ni wedi dewis mynd am dro ar ei hyd bryd
hynny.
Yn y pen draw fe benderfynes groesi’r argae newydd draw at
Benarth. Ond wna i ddim rhuthro i ail-adrodd y profiad. O’r pellter hwn mae’r
ddinas yn edrych yn bentwr blêr o froc wedi golchi i’r lan, gydag
ambell floc hyll o fflatiau fan hyn a fan ‘co - fel rhyw deganau plant rhad o
Ikea. Dim ond Canolfan y Mileniwm oedd
yn dangos rhyw fath o urddas, yn codi’n
don gopor uwchlaw’r adeiladau ceiniog-a-dime sydd wedi casglu’n sydyn a
di-weledigaeth o gwmpas y Bae. Roedd hi’n olygfa a oedd yn cyfleu colled – colli’r
cynefin gwyllt yng ngheg yr aber i gychwyn, yn enw cynnydd economaidd, ac yna,
ar ôl
y fath aberth, colli cyfle arbennig i harddu’r
ddinas hyfryd hon gyda thirlun dinesig gwirioneddol wych a gosgeiddig ar hyd ei
glannau.
Roedd y daith rhwng Penarth a’r Barri yn ddigon dymunol – nid y darn mwyaf cynhyrfus o’r arfordir efallai ond mae’r ddaeareg yn
drawiadol yma ac roedd hi’n dda clywed sŵn tonnau am y tro cyntaf ers diwrnodau
lawer. Roedd gwirfoddolwyr yn brysur yn gweithio ar warchodfa natur Lavernock,
sy’n eiddo i Gymdeithas Byd Natur Morgannwg ac roedd cwpwl o fotanegwyr o swydd
Rhydychen yn chwilio’n ddyfal drwy finocwlars am y griafolen brin Sorbus domesticus yn tyfu ar y clogwyni
serth. Roedd adaregwr brwd, gyda thelesgôp yr un maint â’i goes, yn chwilio am ‘unrhyw
beth oedd yn symud’ ond dim ond cwpwl o deloriaid ‘roedd e wedi eu gweld
erbyn 11.30 y bore. Nid un o’i
ddiwrnodau gorau efallai.
Hir a diflas braidd oedd y daith drwy’r Barri ac roedd dod o
hyd i’r llwybr yn ardal y dociau’n anodd. A oeddwn i fod yn cerdded ar hyd
Ffordd y Mileniwm tybed? Doedd dim sôn am yr arwyddion fan hyn ac roedd y
ffordd yn swnllyd a phrysur, a’r ci‘n mynnu tynnu nôl yn betrus bob tro roedd cerbyd
yn chwyrnu heibio. Ond o leia’ roedd y carpedi melyn o flodau’r blucen felen ar
hyd ymyl y ffordd yn cynnig ychydig o bleser.
Ar y glannau ger y Rhŵs fe ddois ar hyd y llecyn mwyaf deheuol yng
Nghymru – ac roedd arwydd a maen hir dramatig yn datgan hynny. Dotiais ar y
cynefin sydd wedi datblygu ar waelod hen chwareli yn yr patshyn hwn – cymysgedd
o byllau, gweundir, gwelyau cyrs, coed helyg a glaswelltir agored graeanog. Sŵn
adar yn llenwi’r lle, ond trueni am y datblygiad mawr o dai hyll dienaid a oedd
wedi digwydd reit ar y cyrion. Gallwn i’n hawdd fod wedi stopio fan hyn am
oriau i gael golwg iawn ar y cynefinoedd ond roedd rhaid bwrw ‘mlaen.
Roedd hi’n hwyr y prynhawn erbyn hyn. Wrth lwc roedd hi’n dal i fod yn braf a dymunol wrth i’r llwybr wau drwy erwau o garafanau statig ar ben clogwyni, neu mi fasai wedi bod yn anodd cadw fynd. Doedd dim llawer i’w weld yn y mannau hyn, rhwng y borfa daclus, y balconîs pren anferth a’r cloddiau uchel ac fe ddechreuais roi marciau allan o ddeg i bob carafan, i dorri ar yr undonedd. Ro’n nhw i gyd yn sgorio’n hynod o uchel – mae’n rhaid bod safon y carafanau hyn yn uwch erbyn hyn na llawer iawn o dai Cymru.
Erbyn iddi
ddechrau tywyllu ro’n i wedi cyrraedd y darn gwaethaf o’r siwrnai hyd yma – sef
y llwybr o gwmpas pwerdy Aberddawan. Nid hwn oedd y lle gorau i fod am 7-8 o’r
gloch y nos gyda’r dydd yn pylu. Mae’r llwybr fan hyn yn gwau’n dynn rhwng
ffens gadwyn a weiren bigog uchel, ar y naill law, a wal fôr fawr sy’n codi’n don uwch eich pen ar y llaw
arall – a honno’n ddu gan gaddug y
pwerdy. Dim golwg o’r môr fan hyn, dim ond dŵr llwyd yn hyrddio’n swnllyd o dan bont
fechan, a mynyddoedd o bren a llwch ar gyrion safle’r pwerdy. Lle i’w osgoi ‘falle.
No comments:
Post a Comment