Rhan olaf y daith o gwmpas Cymru. Mae’n anodd credu bod y
cyfan yn dod i ben heddiw ac y bydda i nôl yfory yn eistedd tu ôl i
ddesg ac yn rhythu ar sgrîn drwy’r dydd. Shwd ma’ pobl yn ddigon lwcus i gael swyddi
sy’n eu talu nhw i grwydro, tybed?
Ond ‘sdim pwynt pendroni. Mae darn hir o’r daith ar ôl
ac er ei bod hi fod yn braf, yn ôl y rhagolygon, dyw hi ddim yn edrych
yn rhy wych yn Nefyn. Mae’r llwybr yn arwain o gwmpas cefn y pentref ac i fyny
at y chwareli i’r de o’r B4417 – go bell o’r glannau felly.
Che's i ddim dechreuad gwych i’r dydd. Ar hyd y llwybr
roedd Jac y neidiwr yn lledu ar hyd y nant fechan – planhigyn a gyflwynwyd i’n
gerddi gan bobl yn Oes Fictoria ac sydd bellach yn lledu’n gyflym ar hyn ein
hafonydd. Mae’n hawdd ei adnabod yn yr haf pan fydd y blodau gwyn a phinc,
tebyg i sliperi, yn llenwi’r awyr gyda’u harogl cyfoglyd o felys.
Ond yma hefyd roedd y caeau silwair yn drwch o laswellt
gwlyb. Doedd dim gobaith cadw’n sych, felly dyma benderfynu tynnu fy sgidiau a
phadlo’n droednoeth drwy’r caeau am sbel. Pasio hen westy hyll Pistyll a
brynwyd gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn flynyddoedd maith yn ôl
ond a brofodd i fod yn faen melin. Mae’n
sefyll, yn sgerbwd unig a digalon o adeilad, ar ben y clogwyn – trueni na
fyddai modd ei adfer neu ei chwalu’n llwyr.
Lle bach hyfryd yw eglwys Pistyll, yn enwedig yn yr haf pan
fydd y plwyfolion yn taenu gwair ar y llawr. Mae’r oglau yn ech bwrw chi
pan ewch chi drwy’r drws – oglau cynhaeaf ar nosweithiau haf. Ymlaen wedyn at bentir
creigiog, a digonedd o waliau cerrig a llethrau sgri garw o’m cwmpas
– dim rhyfedd bod cymaint o dinwennod y garn yn cadw sŵn yma. Roedd tair bran coesgoch
yn galw uwch fy mhen yma hefyd – er yn gymharol brin, mae’r rhywogaeth hon wedi
bod yn gwmni cyson ar hyd pob darn o’r daith bron.
I lawr allt serth at draeth hir a charegog Porth y Nant. Cael sioc wrth gyrraedd y traeth a gweld (fel ro’n i’n meddwl), rhes o wahaddod neu dyrchod daear yn hongian ar ffens weiren. ond wrth ddod yn agosach ro’n i’n gweld mai rhesaid o hen sgidie’ oedden nhw – ac mi roedd ‘na ddigon o rai eraill wedi golchi i’r lan yn y bae hwn!
Aros yn y Nant am baned a brechdan salad yng nghaffi Meinir. Mae Nant Gwrtheyrn yn lle dymunol iawn erbyn hyn, rhwng y tai sydd wedi eu hadfer yn fendigedig, y caffi arbennig a’r gwaith dehongli sydd yn dadlennu cymaint am hanes y pentref a’i bobl mewn ffordd mor ddifyr.
O’r diwedd, roedd hi’n dechrau poethi, ond roedd dringfa hir arall o’m blaen er mwyn dianc o’r Nant a chyrraedd y llwybr a fyddai’n fy arwain ar hyd ystlys yr Eifl. Ond er ei fod yn serth, mae’r llwybr ar hyd y ffordd o’r Nant yn un digon braf. Drwy goedwig binwydd i ddechrau. Drywod eurben a thitwod cynffon hir yn canu a gwalch glas yn llithro’n dawel dan y canopi tywyll, drwy’r tarth a oedd yn codi o’r ddaear laith, gynnes. Gweld o bell y rhaeadr yn powlio’n wyllt i lawr dros ymyl y dibyn islaw copa'r Eifl, a sgwrsio gyda dau oedd wedi dechrau cerdded lawr i’r pentref ond a oedd yn dechrau ail-feddwl wrth ddychmygau’r siwrne nôl i fyny!
Ar hyd ystlys yr Eifl a draw at chwareli gwenithfaen Trefor. Neb arall o gwmpas, a’r lle'n ddramatig, ond yr awyrgylch braidd yn rhyfedd hefyd. Pam fod mynyddoedd a llethrau naturiol mor hardd, waeth pa mor aruthrol ydyn nhw, a chwareli a chlogwyni sydd wedi cael eu naddu gan ddyn mor frawychus weithiau? Neu falle mai dim ond fi sy’n ei gweld hi fel ‘na!
Ta beth, roedd golwg digon anghynnes ar rai o’r hen adeiladau a doedd dim un aderyn, hyd yn oed, wedi dewis cartrefu ynddyn nhw. Ond roedd y golgyfeydd i lawr at Drefor, draw at Gyrn Goch a Gyrn Ddu a Chlynnog yn hollol wych – a’r olygfa i lawr am Foel y Gest, ger Porthmadog, hefyd yn braf. Lawr yr allt at y pentref, heibio caeau gwair ble roedd hen dractor bach yn grwnan a gwylanod wedi hel yn gôr swnllyd yng nghanol yr adlodd.
Allan at yr arfordir eto, drwy dir fferm Moelfre, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol. Roedd mwy o bobl allan yn
crwydro, a hyd yn oed yn rhedeg, ar hyd y clogwyni fan hyn. O fewn dim amser
roeddwn i yn harbwr bach tlws Trefor, ac
yn astudio’r mapiau eto i weld a oedd cyfle i ddilyn y glannau i Bontllyfni a
Dinas Dinlle.
A na, does dim llwybr yn bodoli ar hyn o bryd. Mae'r llwybr arfordir o Drefor yn dilyn y lôn feics ar hyd y ffordd newydd sy’n pasio Clynnog. Penderfynais ffonio adre a gofyn am y beic ar gyfer y cymal olaf – yn enwedig gan ei bod hi’n 5 o’r gloch y prynhawn. Ro’n i wedi colli oriau yn stryffaglio drwy’r llystyfiant gwlyb yn y bore, yn cloncian ger eglwys Pistyll ac yna’n tynnu lluniau o gwmpas Nant Gwrtheyrn.
Roedd y daith feics yn wych – llwybr braf yr holl ffordd i
Lynllifon, ar hyd hen lôn bentref Clynnog, ac yna lawr i Landwrog a Dinas Dinlle. Roedd y blodau yn y cloddiau yn ogoneddus, yn enwedig y gwyddfid a hefyd yr erwain a oedd yn dechrau dod i'w flodau yn y pantiau mwy llaith. Troi nôl o Ddinas Dinlle ac ymuno â’r ffordd sy’n dilyn ymyl hardd y Foryd. Yn haul yr hwyr roedd yr aber yn gynfas o stribedi sgleiniog rhwng banciau tywyll o dywod a llaid, ac roedd arfordir Ynys Môn mor agos nes ro’n i’n teimlo y gallwn i ei
gyffwrdd bron.
Dwi’n hoff iawn o bier Bangor ac roedd yr olygfa i’r naill gyfeiriad
a’r llall heno yn hardd. Yr haul yn taro llethrau’r Carneddau tua’r dwyrain, ac
yn llifoleuo’r Fenai a’i choedwigoedd hardd i’r gorllewin.
Dim ond dau arall
oedd ar y Pier a thra mod i’n aros am reiden adre fe fues i’n darllen yr holl
blaciau bychain sydd wedi cael eu gosod ar y meinciau bob ochr i’r pier.
Fe
ddois o hyd i un bach diddorol …..
Mae’n siwr na chaf i byth wybod!
Peint yn y Tap a Speil cyn troi am adre.
Gwyliau gwych a bythgofiadwy.