Ben bore yng Nghemaes, gyda fy llaw wedi ei lapio mewn bandej ,
ac mae pobl wrthi’n cerdded eu cŵn ar y traeth gan anwybyddu’r
arwyddion sy’n eu gwahardd yn ystod yr
haf. Ffwrdd â
fi tua’r dwyrain eto, a dod ar draws cwningod marw yn frith ar hyd y pentir
cyntaf. Buan y daw’r rheswm am hyn i’r amlwg wrth i un gwningen symud o’r ffordd yn
araf gerllaw giât mochyn, gyda’i dwy lygad chwyddiedig bron yngháu.
Myxamatosis. Ffroenodd y ci yn ofalus, o bell, a gadael llonydd iddi.
Doedd dim sbonca hwyl yn hon, dim ond oglau
marw’n araf.
Ro’n i’n falch i adael Cemaes gyda’i atgofion o fysedd
gwaedlyd, cwningod marw a baneri jiwbili mewn glaw oer. Yn ffodus fe ddois ar
draws golygfeydd bendigedig yn ddigon sydyn. Roedd y patshyn mawr o laswenwyn,
yn gymysg â’r
lliw gwyrdd ir ar flaenau’r llwyni eithin, yn gyfuniad perffaith o liw ar hyd y
llwybr. Swatiai eglwys hardd Llanbadrig ar ymyl y graig, ac roedd hi’n braf
gweld y giât
mochyn hyfryd a grewyd gan gydweithiwr i mi, sef Joe Roberts. Roedd y cynllun
yn hyfryd, wedi ei seilio ar siap a thannau telyn Wyddelig.
Ar hyd y darn cyntaf hwn o’r daith roedd brain coesgoch yn
hedfan yn brysur o lethr i lethr, ac roedd adar drycin y graig yn gwneud rhyw sŵn
bach hyfryd, fel tasen nhw’n chwerthin o gefn eu gyddfau. Yn y pellter roedd adar môr
yn swnian yn y niwl o gylch Ynys Badrig, nes creu argraff o long yn symud a
gwegian ar greigiau. Dim ond un cerddwr arall oedd wedi mentro allan ar
ddiwrnod mor ddiflas.
Mae’r llwybr i’r
dwyrain o Gemaes yn llawn olion hen ddiwydiannau – fel gweddillion yr odynnau,
simneiau, siediau ac olwynion a oedd i gyd yn gysylltiedig â’r
gwahanol weithfeydd ro’n i wedi darllen amdanyn nhw ar y panel dehongli yng
Nghemaes ac roedd yr hen waith brics yn Borthwen yn drawiadol hyd yn y oed yn
y glaw.
Arhosais i wylio 3 caiaciwr môr ger y pwll nofio awyr agored
a grewyd gan yr 2il Farcwis Môn ym Mhorth Llechog, gan deimlo braidd
yn genfigennus oherwydd fod fy nhraed erbyn hyn yn brifo mewn sgidiau gwlyb. Fe ddaliais
i fyny gyda nhw eto yn Amlwch, lle roedd y diwrnod yn dechrau goleuo. Cododd fy
ysbryd wrth gyrraedd y gweundir arfordirol ar ben clogwyni Amlwch – fy hoff
gynefin. Roedd y llwybr yn feddal braf
dan fy nhraed ac oddi ar y lan roedd huganod yn plymio i’r môr.
Cefais gwmni tri llamhidydd yr holl ffordd at oleudy Trwyn Elian, â’u
sŵn
‘whwwwsh’ meddal a dwrllyd i’w glywed yn glir o’r llwybr wrth iddyn nhw godi at
yr wyneb a phlymio drachefn tra'n ymlwybro’n hamddenol ar hyd y lan.
Ym Mae Elian roedd beiciwr
wedi penderfynu oedi i fentro’n ddewr i mewn i’r môr. Bae bach hyfryd oedd hwn. Roedd
y caeau i’r de o’r goleudy yn gnwd melynnaidd gwych o gribell felen, meillion
coch, pys-y-ceirw, maswellt penwyn a pherwellt y gwanwyn. Gwyrodd y llwybr tuag
at y tir ger Dulas, ac yna i lawr at un o’r aberoedd hyfrytaf y gwn i amdano, a
hynny ar lanw oedd yn prysur gilio tuag at y gorwel. Codai dau sgerbwd hen gychod
yn fawr o gylch ceg yr aber, fel tasen nhw’n cadw gwarchae, a safai dau grëyr
gwyn yn llachar a llonydd yn erbyn lliwiau hydrefol y gors heli. Gallwn fod
wedi aros am oriau i dynnu lluniau ond roedd y dydd yn tynnu at ei derfyn, ac
ro’n i’n gwybod bod rhai milltiroedd i fynd eto, ar ddwy droed a oedd yn dal i
fod yn wlyb a phoenus.
Roedd rhan nesaf y daith yn gyfarwydd. Dros gyfres o glogwyni
glaswelltog gyda llecynnau gwersylla delfrydol, draw at dywod euraidd Traeth Lligwy,
ymlaen at bentref Moelfre, heibio Benllech ac yna i lawr at y Traeth Coch - a oedd yn troi’n gynfas o gopor wrth i’r
haul gwan suddo tu draw i’r gorwel.
No comments:
Post a Comment