Dechreoudd y rhan hon o’r daith gyda wâc gynnar rhwng Llanddona a
Biwmares. Ro’n i wedi gobeithio dilyn ymyl deheuol y traeth o’r cychwyn cyntaf,
ond rhywsut fe gollais yr arwyddion ac ymhen dim ro’n i’n dringo’r rhiw at y
tir ac i mewn i fforest Llwydiarth. Roedd y lle’n dawel a heddychlon am 7.30 y
bore, ac o dan y coed roedd trwch o duswau bach gwyrdd, fel cynffonau cwningod,
yn ddiferion llachar ar y ddaear dywyll – wedi cael eu rhwygo oddi ar flaenau
brigau’r coed llarwydd gan wynt y bore cynt.
Ond nid fan hyn ro’n i ishe bod!
Galla i ddim cwyno, serch hynny, am yr olygfa o ben mynydd Llwydiarth – roedd
yr haul cynnar yn ‘sgubo ar draws Ynys Môn, yn goleuo patshys o gaeau a
gwrychoedd yn lliwiau gwyrdd a melyn cryf yn erbyn y mynyddoedd swrth ar y tir
mawr. Roedd hi’n argoeli’n ddiwrnod
cymysg arall, o ran tywydd, i Steddfod yr Urdd yng Nglynllifon.
Awr a hanner yn ddiweddarach ro’n i nôl ar y lan, ger y traeth, ond
dim ond rhyw hanner cilomedr o’r fan lle dechreuais gerdded! Rhwystredig iawn.
Roedd rhan nesa’r daith yn arwain ar hyd pen wal fôr ac yna ‘mlaen ar hyd
clogwyni agored, heibio ambell fwthyn bach traddodiadol annwyl ar Fryn Offa. Yn
anffodus, mae’r llwybr wedyn yn gywro mewn tua’r tir am sbel hir ger
Mariandyrys a Glan yr Afon, cyn arwain at y glannau unwaith eto ym mhentref
bach hyfryd Caim. Roedd darn nesaf y llwybr, draw i Benmon a rownd at Fiwmares,
yn gyfarwydd iawn i fi – un o fy hoff deithiau cerdded ar fin nos ac ar
benwythnosau braf. Roedd hi’n hyfryd yno - clogwyni llwydwyn calchaidd, môr
glas, oglau cynnes gweiriau haf a thyfiant newydd ar lwyni hen ŵr yn nadreddu tuag ataf o’r cloddiau.
Roedd rhaid gwneud hanner diwrnod o waith yn y Steddfod y
prynhawn hwnnw felly nôl a fi y diwrnod wedyn i ail-afael yn y daith. Erbyn hyn
ro’ i’n dechrau poeni bod amser yn mynd yn brin i orffen y daith felly fe
benderfynais y byddwn i’n cwblhau’r daith o gwmpas Ynys Môn gyda
chyfuniad o feicio a cherdded. Roedd y
Fenai, adeg llanw isel, yn streipiau o aur, brown a glaswyrdd ac roedd y reiden
drwy dwnnel o goed ar hyd y brif ffordd rhwng Biwmares a Phorthaethwy yn hyfryd
a thawel yn gynnar yn y bore. Cyrraedd Porthaethwy, ac oglau bacwn brecwast yn
fy mwrw. Bendigedig. Wrth i Ynys Môn
ddeffro’n araf dan awyr heulog braf roedd cymylau duon yn eistedd dros y tir mawr, â’u godrau’n garpiau gwyn
llachar dros gopaon y mynyddoedd.
Mi wnes i fwynhau’r beicio ar hyd y Fenai, heibio’r tai
hardd sy’n eistedd yn urddasol ar hyd y glannau. Roedd yr olygfa gyntaf o geg y
Fenai yn wych - llain o ddŵr yn llinynnau arian a bryniau gogledd Pen Llŷn
yn silwét
yn erbyn yr awyr. Mor drawiadol, o leiaf am ychydig o eiliadau – hyd nes i’r
datblygiad erchyll yn Noc Fictoria Caernarfon ddod i’r golwg. Mae’n rhaid mai’r
bloc anferth yma o fflatiau a siopau yw un o’r datblygiadau arfordirol gwaethaf
sydd wedi digwydd yng Nghymru yn ystod blynyddoedd diweddar. Os bu angen
tystiolaeth o ddylunio a chynllunio gwael, o benderfyniadau gwael ac o ddiffyg
parch at dreftadaeth tirwedd does dim angen edrych yn bellach na hyn.
Roedd y llanw mas yn bell, bell i ffwrdd ym Malltraeth ac roedd
y cob yn llawn cerddwyr. Ymlaen â fi at Fodorgan, gan ddilyn hen wal yr
ystâd
ar hyd lôn
fach dawel goediog ac yna cael chwip o reiden rwydd i lawr drwy’r twyni at
Aberffraw. Ar ôl torri’r siwrnai’n sydyn i gael diod yng nghaffi Llys
Llywelyn fe es ymlaen i Roscolyn, lle ro’n i’n bwriadu roi’r beic i’r naill
ochr a chario ‘mlaen ar droed.
Rhoscolyn yw un o fy hoff draethau ar Ynys Môn.
Heddiw roedd yn disgleirio yn yr haul ac yn orlawn o fyfyrwyr daeareg. Rhyfedd
yw’r olygfa o goetan hynafol yn y cae uwch y traeth, yn sefyll nesaf at goeden drofannol yr olwg. Mae’n rhaid bod ‘na doreth o hanes yn
gysylltiedig â’r lle hwn – mae hen waliau bendigedig yma, yn cynnwys un
sy’n ‘sgubo’n uchel o gwmpas ymyl y clogwyni fel hen wal stâd,
a hefyd rhyw adeilad carreg ar ben y clogwyni sy’n edrych fel petai’n ffynnon
ond hefyd yn cynnig silffoedd carreg ym mhob corneli lle gallai pobl
eistedd - tybed a fuodd yn lle i
bererinion orffwyso a golchi eu traed? Rhywbeth arall i’w ymchwilio ar ôl
mynd adre. Roedd y tir ar ben y clogwyni yn feddal a chyfforddus i’w droedio ac
roedd ‘na ffrydiau bychain yn ymlwybro’n araf mewn sawl man â’u
llond o fursennod coch yn gwibio a pharu. Mewn un man roedd geifr o Ben y
Gogarth yn pori – wedi cael eu cludo yma fel rhan o brosiect Pori Ynys Môn
er mwyn helpu cynnal llystyfiant byr ar gyfer brain coesgoch a mathau eraill o
fywyd gwyllt arfordirol.
Roedd Bae Trearddur yn newydd i mi – ac er bod y prif draeth yn brysur
roedd rhai o’r traethau bach i’r de yn ddigon tawel ac yn llefydd y bydd rhaid
mynd i’w gweld eto gyda phicnic a chwpwl o lyfrau da. Roedd Porth Dafarch, fymryn
i’r gogledd o Drearddur, hefyd yn fae bach annwyl ac yn heulog iawn ar ddiwedd y
p’nawn. Ymlaen â mi at Benrhyn Mawr a ‘dwi nôl yn fy hoff gynefin
arfordirol wrth i’r haul ddechrau machludo. Yn y darn mawr hwn o weundir
arfordirol, sy’n ymestyn am belleter o gylch clogwyni Ynys Lawd, roedd clychau grug yn dechrau blodeuo’n barod, a
hithau ond yn ddechrau mis Mehefin, ac roedd blodau’r foronen wyllt yn beli
crynion llwydwyn yn y mannau mwy glaswelltog. Roedd naws canol haf o gwmpas y
lle.
Er ei bod hi’n hwyr roedd yr adar môr yn dal i fod yn swnllyd ar y
clogwyni ac roedd criwiau o frain
coesgoch yn bwydo’n brysur ar y llethrau ac o gwmpas y brigiadau craig. Roedd
darnau o’r creigiau agored, hynafol ar Fynydd Caergybi yn edrych yn wyn yn
erbyn y grug tywyll wrth i’r haul suddo at y gorwel, â’i belydrau’n tywynnu’n
llachar hyd y diwedd.
Dechreuais hastu er mwyn llwyddo dod lawr o’r Mynydd mewn
rhywfaint o olau dydd. I lawr drwy Barc Gwledig y Morglawdd ac mae’r dydd wedi
distewi. Dim un ymwelydd ar ôl a dim ond sŵn mwyalchen yn canu’n uchel
o’r llwyni ger y pyllau. Tawel hefyd yw Caergybi yn y cyfnod hwn rhwng dydd a
nos, a rhwng mynd a dod y llongau i’r
Iwerddon . Does fawr neb o gwmpas wrth i fi rowndio’r dre a’r harbwr i’r fan
lle dechreuais ar y daith o gwmpas Ynys
Môn.
No comments:
Post a Comment