Ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr at y darn hwn oherwydd un o’r
tasgau cyntaf ge’s i fel warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd adfer
craith ar lethr môr ger Llangrannog, a oedd wedi ei greu o ganlyniad i agor
trac amaethyddol nôl yn y 1980au. Doeddwn i erioed wedi bod nôl i
weld a oedd y gwaith wedi bod yn llwyddiannus. Roedd Mwnt yn dawel yn gynnar yn
y bore – dim ond cerddwyr cŵn oedd ar hyd y lle, ynghyd â
phâr
o frain coesgoch swnllyd ar y pentir cyntaf wrth fynd tua’r gogledd, ger y
caeau sy’n bwysig ar gyfer chwyn tir âr. Roedd y clogwyni’n gyfres o
bentiroedd serth a chymoedd coediog gyda nentydd yn byrlymu lawr tua’r môr.
Ond roedd y cerdded yn galed ac ro’n i’n dyheu am gael gweld rhywbeth gwahanol i
offer milwrol Aberporth yn fy wynebu bob
tro ro’n i’n codi fy mhen i edrych ar olygfa bell.
Ger Aberporth, cododd 4 brân goesgoch arall o gae
gwartheg cyfagos a cylchu ar gerrynt awyr gynnes gyda bwncath. Roedd y llwybr
wedi bod yn hollol wag bron, o ran pobl, drwy gydol y bore. Ro’n i ond wedi
gweld 3 cherddwr mewn 5 awr. Roedd hi’n dda cwrdd â dau gerddwr lleol ger
Aberporth oedd ar eu ffordd i lawr at y clogwyni i weld ‘Bedd y dyn du’, lle bu
llongddrylliad nôl yn y 1920au (ro’n nhw’n meddwl). Fuon ni’n siarad am
sbel – ro’n nhw hefyd wedi cael syndod o ddod ar draws rhywun oedd yn siarad
Cymraeg ar y llwybr ac yn gwaredu bod cymaint o newid cymdeithasol yn digwydd
yn yr ardal lle cawson nhw eu magu. ‘Gormod o Season oboutu’r lle…’ oedd eu
casgliad ac ymlaen â ni ‘n tri i’n gwahanol gyfeiriadau.
I’r gogledd o Aberporth roedd y llwybr tarmac at Dresaith yn
llawer prysurach. Roedd nifer anarferol o uchel o gabanau tren ar hyd y llwybr
hwn, wedi cael eu haddasu’n reit gelfydd i fod yn gabanau gwyliau. Ond roedd
yma hefyd ddigon – a mwy na digon – o garafanau
statig moethus a modern. Arhosais yn
nhafarn y Ship yn Nhresaith, ble maen nhw’n cofnodi’r dolffiniaid sy’n cael eu
gweld bob dydd ar fwrdd du yn y bar. Roedd hi’n dda cael diod oer cyn bwrw
mlaen am Langrannog oherwydd roedd hi’n chwilboeth erbyn hyn.
Roedd y cwm
coediog mawr ym Mhenbryn yn hardd, cŵl
ac yn llawn rhedynau – a’r llwybrau’n union fel ag yr o’n i’n eu cofio nhw pan
wnaethon ni eu hagor nhw gyntaf fel rhan o waith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
flynyddoedd yn ôl. Dringfa serth arall wedyn o draeth Penbryn ac i lawr i
bentref Llangrannog, heibio cerflun o Sant Crannog a oedd newydd gael
ei ddadorchuddio’r noson cynt. Clymu’r ci tu fas i gaffi Patio ble ce’s goffi
shot-dwbwl a hufen ia fanila gan fy nai Meilyr sy’n gweitiho yn y caffi bach
cyfleus hwn. Ac er i fi feddwl am gario mlaen, roedd y patio’n braf a’r
sgwrsio’n ddifyr, a’r haul yn dal i fod yn boeth – a rhwng popeth, symudais i
ddim o’r fan am weddill y prynhawn.
No comments:
Post a Comment