O gwmpas cyrion Cymru
(20)….Llanon i Aberystwyth
Deg o’r gloch y bore uwchben Llanrhystud, dan awyr las, a
dwi’n sefyll wyneb yn wyneb gyda barcud coch sy’n hofran ar yr awelon cynnar,
tra bod tair brân goesgoch yn twmblo uwchben. Does ‘na neb arall o gwmpas
– dim nawr a dim chwaith drwy’r dydd, fel y byddwn yn darganfod.
Cefais fodd i fyw yn gweld yr olgyfa fendigedig a ddaeth i’r
golwg i’r gogledd o Lanrhystud. Doedd gen i ddim syniad bod y darn arfordir i’r
gorllewin o fast Blaenplwyf yn ‘sgubo lawr at y môr, yn gyfres o lethrau crwm
a gosgeiddig, fel rhyw ail Rhosili. Ar
glogwyni Penderi roedd gwylanod cefnddu mwyaf yn cwrso bwncath tra bod barcud
arall yn cylchu’n ddiog uwchben y coed a lynai’n dynn at y clogwyni. Roedd haid
o chwech brân
goesgoch yn chwyrlïo a galw a bwydo’n brysur o gwmpas adfeilion a hen gloddiau
cerrig un o’r ddwy hen fferm ar y llethrau. Gerllaw, roedd dau weithwr wrthi’n
strimio’r llwybr gan greu carped meddal o dorion a thwnnel o oglau gwair newydd-ei-dorri
dan fwa o goed drain.
Roedd rhaid gwyro o gwmpas maes carafanau Morfa Bychan - braidd yn rhwystredig oedd hyn a dweud y
gwir, ac roedd y darn nesaf o’r llwybr ar draws llethrau serth yn anodd ar y
fferau. Yn uchel uwchben traeth Tanybwlch, ble mae’r clogwyni tywyll, brau wedi
eu gorchuddio gan haen denau, melynaidd o lystyfiant, roedd y gwynt dwyreiniol
yn gryf a gwyllt ac roedd hi bron yn amhosib i sefyll yn stond. Islaw roedd y
caeau isel y tu ôl i’r gefnen ro yn dal i ddangos arwyddion y glaw mawr a’r
llifogydd a oedd wedi effeithio cymaint ar Geredigion wythnos diwethaf. Goffennodd y
wâc
ar ben y clogwyni yn yr un ffordd ag yr o’wn i wedi ei dechrau - wyneb yn
wyneb gyda barcud coch arall a oedd yn hela ar gaeau Tanybwlch, ac yng nghwmni
pâr
arall o frain coesgoch ar y clogwyni islaw.
Ym mhen deheuol traeth Tanybwlch roedd ffurfiau’r creigiau
yn rhyfeddol. Arhosais yno am amser go hir i dynnu lluniau ac i gael dianc o afael y
gwynt. Aeth y ci i gysgu ar y cerrig traeth – mae’n rhaid ei bod hi wedi
blino’n ofnadwy iddi fod wedi gwneud hynny – a phan ddechreuon ni gerdded eto
roedd hi’n hercian fymryn. Dechreuodd fwrw glaw eto wrth i ni gyrraedd harbwr
Aberystwyth a phenderfynais ei bod yn amser i newid cŵn a rhoi hoe iawn i Caio.
No comments:
Post a Comment