O gwmpas cyrion Cymru (17)….Penfro i Aberteifi
Ar ôl beicio a cherdded rhwng Biwmares a Chaergybi dyma deithio’n syth nôl lawr i Sir Benfro
er mwyn ail-gydio yn y daith lle bennes i ychydig o ddiwrnodau nôl.
Dwi’n dal i fod yn poeni nad oes gen i ddigon o amser gwyliau i gwblhau’r holl
daith o gwmpas Cymru - penderfynu beicio o gylch gogledd Sir Benfro felly.
Dwi wedi cerdded y darn hwn o’r llwybr arfordir sawl tro yn y gorffennol a dwi’n
‘nabod y dirwedd yn dda iawn, ond wnes i erioed o’r blaen feicio o Benfro i
Aberteifi mewn un daith hir o gwmpas yr arfordir. Dwi’n edrych ymlaen at
y profiad. Mae’n glamp o daith – tua 90 milltir i gyd, o ddilyn y
lonydd lleiaf oll o gwmpas yr arfordir. Ond roedd y tywydd yn argoeli’n dda.
Roedd hi’n ddiwrnod o bentiroedd mawr, dringo caled a
gelltydd serth a chyflym – ac yn fwy na dim, machlud hynod, unigryw.
Gwibio’n sydyn drwy Aberdaugleddau ac ymlaen â
fi tuag at Dale. Ym mhentre Sant Ishmael dwi’n aros i sgwrsio ag un o’r
trigolion sy’n sôn wrtha i am yr enwau sydd ganddyn nhw ar drigolion pentrefi
lleol – fel hyn y disgrifiodd hi nhw ‘mice
of St. Ishmaels, long-necks of Haverfordwest, fish-heads of Milford Haven, lice
of Herbrandston and girls of Marloes (ar gyfer dynion a gafodd eu geni yn y
pentref yn achos yr olaf). Roedd pen uchaf aber Gann fel rhywbeth allan o ‘Swallows
and Amazons’, yn gasgliad o ynysoedd bychain a ffosydd llanw. Roedd pentref
Dale, ar fore dydd Llun ym Mehefin, yn weddol wag ond yn edrych dipym yn fwy
smart nag o’wn i’n ei gofio o rhyw 20 mlynedd yn ôl. Arhosais yn y caffi glan môr
i ofyn am gyfeiriadau ac ymhen dim ro’n i’n trafod ‘parthau morol dan
warchodaeth lem (HPMZ)’ gydag un o’r trigolion lleol – roedd cyfarfod i’w
gynnal y noson honno gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch y bwriad i sefydlu
HPMZ yng Nghymru – gan fod Dale yn un o’r 10 safle posib sy’n destun yr
ymgynghoriad. Roedd hi’n amlwg yn mynd i fod yn gyfarfod tanllyd y noson honno!
O’r man hwn roedd penrhyn Dewi yn edrych yn bell, bell i
ffwrdd a bae San Ffraid yn anferth. Roedd hi’n 11.45am yn barod a dechreuais
amau na fyddwn i’n gorffen y siwrnai heddiw. Beicio ‘mlaen drwy Talbenny a
phentref tlws Little Haven. Fe benderfynais beidio aros ym mhentref Broad Haven
am baned, fel ro’n i wedi bwriadu gwneud. Lleoliad hyfryd ond ro’n i wedi
anghofio pa mor hyll yw’r pentref. Does dim argoel bron o’r pentref gwreiddiol a
dim cymeriad na naws yn y lle oherwydd y môr o dai unffurf, plaen sydd
wedi cael eu codi yma. Yn y pellter roedd trwch o goedwigoedd i’w gweld dros y
clogwyni serth ar ochr ddeheuol y bae ac fe benderfynais y byddwn i’n dychwelyd
yn yr hydref i’w crwydro’n fwy hamddenol.
Ymlaen heibio Druidston, gyda’r ty rhyfedd sydd wedi ei
led-suddo yn y clogwyn, ac i Nolton Haven a oedd yn llawn cŵn
defaid yn mynd ar ôl peli ar y traeth. Yna gwibio lawr i Niwgwl yn gyflym –
yn ffodus iawn doedd dim cerbydau’n dod i gwrdd â fi o’r cyfeiriad arall. Grêt
o daith – ond ro’n i hefyd yn gwybod pa mor serth oedd y rhiw allan o’r pentref
ar yr ochr arall!
O ben allt Niwgwl dyma benderfynu’n sydyn i ddilyn ambell lôn
fach arall er mwy ymweld â rhai o’r llefydd ro’n i’n eu mwynhau pan oeddwn i lawr
fan hyn yn byw ac gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd cwm Gwar y
Coed yn llawer mwy coediog erbyn hyn a thir comin Caerfarchell yn dal i edrych
fel pe na bai digon o bori’n digwydd yno. Roedd penterf Caerfarchell mor hardd ag
erioed a’r ffordd fach dawel dros y Ddowrog heb newid o gwbl.
Nôl mewn i Dyddewi ac allan eto, gan gadw’n agos at yr
arfordir. Dwi’n dwlu ar y dirwedd wastad, eang hon ond mae’n anodd iawn tynnu
lluniau effeithiol ohoni a dal gwir gymeriad yr ardal. Erbyn hyn roedd cymylau
wedi setlo ar gopaon Carn Llidi a Phenberi ac ro’n i’n disgwyl diwedd llwydaidd
os nad glawog i ddiwrnod bendigedig.
Mae Trefin yn bentref llawer mwy smart nag yr oedd nôl
yn y 1990au. Arhosais am wydryn o gwrw sunsur a bara brith - roedd lefel y siwgwr yn y gwaed yn bendant
yn isel erbyn hyn. Erbyn i fi gyrraedd copa Garn Fawr, fy hoff fynydd bychan
yng Nghymru, roedd y dirwedd yn gorwedd dan gwrlid ysgafn o lwydwyll. Nid niwl
môr
yn union – roedd fel petai patshys o gymylau wedi disgyn a gorchuddio rhannau
o’r tir gyda gwawn. Mewn ambell fan roedd yr haul yn llwyddo treiddio drwodd,
gan lifoleuo ambell gae a chraig.
Erbyn i fi gyrraedd Pontiago roedd y cymylau’n llwydfrown tywyll fel lliw Brasso brwnt ar gadach, a’r haul yn belen arian y tu ôl iddyn nhw. Roedd hi fel set ffilm. Rhyw filltir neu ddwy yn bellach i fyny’r lôn roedd tref Abergwaun i’w gweld yn heulog braf dan awyr las ond ar ôl y ddringfa hir a serth i bentref Dinas, roedd y niwl wedi disgyn yn drwch go iawn. Yn Nhrefdraeth roedd yr haul eto’n pefrio drwy’r cymylau gan ariannu’r môr yng nhgeg yr afon Nyfer. Roedd un crëyr amyneddgar yn eistedd yn ei gwrcwd ar hen gangen farw ar ymyl y gwely cyrs. I’r cyfeiriad arall roedd yr olygfa tua’r môr yn haenau o lwyd, brown ac arian. Tu hwnt i’r aber, ar y ffordd fach sy'n arwain at Drewyddel, roedd oglau’r gwyddfid yn gryf am 9 o’r gloch y nos ac roedd ji-bincod a nico yn gwibio'n swnllyd ar hyd y cloddiau wrth fy ymyl.
Ond erbyn i fi gyrraedd Ceibwr a Threwyddel roedd yr awyr yn binc dramatig eto a’r awyr yn gynhesach. Roedd allt Penrhiwceibwr yn serth ac yn ddibendraw. Hedfanai ystlumod bychain tywyll ar hyd y lôn gyda fi, yn fflitian nôl a blaen yn wyllt fel penbyliaid yn nofio drwy’r awyr. Arhosais am sbel i wylio tylluan wen yn hela’n isel dros gae wrth ochr yr hewl. Mi fyddai beicio’r allt hir i lawr at Landudoch am 10.45pm wedi bod yn wych pe bai goleuadau wedi bod ‘da fi ar y beic Ond doedd dim ac roedd hi’n amhosib nawr i weld y ffordd yn glir ac osgoi‘r pantiau a’r graean. Roedd y brêcs yn gorfod gweithio’n uffernol o galed. Fe gyrhaeddais Llandudoch mewn tywyllwch llwyr. Galwais yn yr Hydd Gwyn i brynu paced o greision halen ac eistedd y tu allan i aros am lifft, a gwrando ar berfformwyr y noson ‘open mic’ yn canu drwy’r ffenest agored.
No comments:
Post a Comment