Dechrau
chwilboeth arall i’r diwrnod. Dringo’n serth allan o bentref Llangrannog cyn i
brysurdeb y dydd ddechre, gyda thair brân goesgoch yn hel eu bwyd ar y llethrau
crin cyfagos.
Roedd y graith y
bues i’n ceisio ei hadfer ar fynydd Lochtyn flynyddoedd yn ôl yn
edrych yn reit dda, yn enwedig ar ochr isa’r trac.
Mi fydda i’n cofio‘r darn o lwybr
i’r gogledd o Langrannog fel llwybr y llyg marw – er na fyddwn i efallai wedi
sylwi cymaint arnyn nhw petawn i heb fod â’m pen lawr yn chwysu a chwythu wrth
ddringo‘r rhiwiau serth. Roedd Cwm Tydu yn edrych yn fwy llewyrchus nag yr o’wn i’n cofio’r lle, rhyw 15 mlynedd yn ôl. Roedd
hi’n dda cael hoe yno i wylio bronwen y dŵr yn gwibio’n brysur ar hyd y nant tu ôl i‘r traeth
a sgwrsio gyda chwpwl o Abertawe oedd yn
ymwneud â phrosiect gyda chefnogaeth y Cyngor Cefn Gwlad. Ro’n nhw’n awyddus iawn i
rannu eu barn am gymhlethdod system grant y Cyngor Cefn Gwlad, yn enwedig i
fudiadau gwirfoddol. Ro’dd rhaid i fi gydymdeimlo’n llwyr â nhw!
Mae rhyw naws hen harbwr yn dal i fodoli o gylch Cei Newydd,
rhwng y lleoliad, y bensaernîaeth a phatrwm y strydoedd. Fe
arhosais i brynu brechdan i gi bach blinedig iawn a gwneud ambell alwad ffôn.
Dysgais o banel gwybodaeth uwchben y traeth mai Cei Newydd a ysbrydolodd Dylan
Thomas i sgwennu ‘Dan y Wenallt’ a’i fod wedi dechrau ysgrifennu’r ddrama pan oedd yn byw yma am flwyddyn yn 1944.
O Gei Newydd arweiniodd
y llwybr drwy goedwig ac ar hyd traeth lle roedd y clogwyni isel yn
llithro i’r tywod a lle roedd clogfeini’n bwdinau crynion o glai a cherigos.
Gerllaw Gilfach yr Halen neidiodd y ci nôl yn sydyn o ymyl y llwybr – fe gymeres
i gwpwl o gamau gofalus, gan ddisgwyl gweld gwiber efallai, ond cenau llwynog
oedd yno, yn gorwedd yn y glaswellt hir. Roedd yn fyw ond yn ddifywyd. Roedd ei lygaid du yn bŵl
a phrin y symudodd ei glustiau wrth i’r ci ymestyn ei ben tuag ato unwaith eto.
Glaniodd chwilen ar ei ben, yn smotyn tywyll sgleiniog yn erbyn y blew crin
gwelw, ac yn synhwyro marwolaeth. Roedd y cadno bach yn edrych fel pe bai wedi
cael ei wenwyno. Chwiliais o gwmpas y
llecyn am ddarn o bren neu garreg drom, ond ro’n i’n falch mewn ffordd nad oedd
unrhyw beth ar gael, gan ofni y b’aswn i ond yn peri mwy o boen petawn i’n trio
dod â
dioddefaint y creadur i ben. Ond ro’n i’n dal i deimlo’n euog ac yn llwfr wrth
fynd yn fy ‘mlaen. Ac yna’n grac, os
oedd ‘na wenwyno bwriadol wedi bod yn digwydd.
Tu hwnt i’r 'chalets' gwyliau, sy’n gasgliad o focsys unffurf yng Nghilfach yr Halen, mae’r llwybr yn arwain yn rhwydd tuag at Aberaeron. Roedd cymylau’n hel yn bentwr du a phinc ar draws rhan ddeheuol bae Ceredigion ac roedd hi’n edrych fel pe bai Sir Benfro’n dioddef stormydd mawr.
Ro’n i’n dyheu am ‘toasted teacake’ yn Aberaeron ond doedd
na’r un i’w chael mewn unrhyw gaffi. Felly ce’s goffi a chroissant siocled yng
nghaffi a delicatessen ‘Naturally Scrumptious’, wrth i bawb ddechrau ei heglu hi am
adre ddiwedd y p’nawn drwy’r glaw trwm. Rhoddodd y perchennog becyn i fi yn
llawn briwsion cig o’r peiriant torri i’w rhoi i Caio’r ci, a oedd yn edrych yn
hynod o druenus yng nghanol y palmant gwag, gwlyb. Gyda’r ddau ohonon ni, felly,
wedi llenwi’n boliau ac yn teimlo’n gryfach, bant â ni ar hyd y lan garegog isel sy’n gorwedd o
flaen y caeau gwastad i’r gogledd o’r dre. Dewis ein camau’n ofalus rhwng y
tyfiant o bys-y-ceirw a chrib y pannwr, cyn dod at lwybrau glaswellt a lonydd
bychain wrth nesáu at bentref pert Aberarth.
No comments:
Post a Comment