Fe fynnodd fy nghyflogwyr mod i’n dychwelyd i’r gwaith unwaith
yn ystod y cyfnod gwyliau hwn. Drato! Ond er mwyn cynnal y momentwm
fe benderfynes gwblhau Sir Fôn tra mod i adre. Diolch i’r Cwîn
am roi’r diwrnod ychwanegol o wyliau yn ystod yr wythnos hanner tymor eleni – roedd
e’n dipyn o help! Dyma ddechrau cerdded ‘te, tua’r dwyrain o Fae Penrhyn, ger Caergybi.
Sôn am le prysur. Roedd e’n llawn carafanau moethus, BMW’s
ac Awdi’s, jet-sgîs a baneri jiwbili ac ro’n i’n falch i ffarwelio â’r
lle. Ym Mhorth Swtan fe ddois o hyd i’r patshyn gorau o ysgedd arfor i mi weld
erioed. Rhwygais dameidiau bychan o ambell
ddeilen a’u rhoi yn fy mrechdanau caws. Roedd y carped o flodau glaswenwyn
ar bentir Clegir Mawr yn wych. Mae'n anodd dal y math yma o liw glas ar y camera ac
ro’n i’n flin na faswn i wedi meistroli’r camera newydd yma’n well cyn
dechrau’r siwrnai hon. Fe fues i wrthi am rhyw hanner awr yn ffidlan gyda’r
gwahanol fotymau ar y camera. Ce's syndod o weld daeargi
bach Bedlington – a gallwn i ddim peidio aros i siarad gyda’r perchnogion. Ro’n i wedi
anghofio bod y brîd hwn, a oedd yn boblogaidd yn y ‘70au, wedi bodoli o
gwbl. Mae’n debyg bod bri arnyn nhw eto.
Tybed a welwn ni rai o’r bridiau ‘retro’ eraill yn cynyddu mewn
poblogrwydd – fel yr ‘afghan hound’a’r Saluki?
Ond o’r hyn dwi wedi ei weld ar hyd y llwybr fe fydd hi'n amhosib bron i ddisodli’r Labrador
o frig y siart poblogrwydd. Maen nhw ymhob man.
Lle od yw Mynachdy. Fe gyrhaeddais y bae wrth rowndio pentir tywyll lle roedd llwyni grug yn garped tynn, brownaidd ar hyd y creigiau. Ro’n i’n meddwl mod i wedi gweld cell meudwy ar ochr y pentir, yn wynebu Ynys Lawd, ond fe fethais â dod o hyd iddi wrth agosháu, ac roedd ymyl y clogwyn yn rhy frawychus o serth, felly ymlaen â fi rownd y gornel at Mynachdy. Roedd hi’n syndod gweld y bae bach caregog, gyda chlamp o bwll dŵr croyw yn gorwedd tu ôl i’r traeth, ac ardal o goedwig binwydd yn y pen draw. Roedd wyneb y llyn yn llen o ddail gwyrdd gydag ambell glustog gwyn o flodau crafanc y fran yn edrych fel talpiau o boer o gwmpas yr ymylon. Symudai crëyr yn araf a llechwraidd drwy’r tyfiant , yn barod i wanu’r dŵr gyda’i waywffon o big. Lle llonydd gyda rhyw naws Albanaidd yn perthyn iddo.
Mae llawer o’r tir i‘r dwryain o Ben Carmel wedi ei wella.
Porfa feddal o feillion, rhygwellt,
blodyn menyn a llygad y dydd yn crynu’n ariannaidd - yn debyg
i ehangder o laswellt paith a hwnnw’n ymestyn at ymylon y clogwyni. Roedd hi'n
braf i weld ambell batshyn o friallu a
chlychau’r gog ar y clogwyni isel ond
doedd dim llawer o blanhigion gwyllt i’w mwynhau fan hyn. Yn y pellter roedd
pwerdy’r Wylfa yn codi’n dalp llwydaidd sgwar ar y gorwel. Roeddwn i’n falch i
glywed sgrechian y môr-wenoliaid ym mae Cemlyn ar ôl tawelwch Pen Carmel. Roedd
criw da o bobl yn fforio ar lan y môr yng Nghemlyn fel rhan o weithgaredd
yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd eraill yn sefyll yn rhes ar hyd y gefnen
ar gefn y traeth, yn gwylio’r môr-wenoliaid yn hedfan nôl
a blaen rhwng y môr a’r ynsyoedd magu .
Mae’n le cyfareddol, os ydych chi’n hoff o wylio adar. Mae’r môr-wenoliaid
yn gyson brysur ac yn hedfan mor isel ac agos atoch chi fel y gallwch chi weld y
llymrïod
yn eu pigau wrth iddyn nhw wibio lawr at y cywion dros y cerrig a’r ysgedd llwyd.
Fe golles i amser ar safle’r Wylfa oherwydd arwyddion
aneglur ond ar ôl sylweddoli bod y llwybr arfordir yn dilyn rhodfa natur y
pwerdy cefais amser braf yn cerdded y llwybr coediog, a oedd yn wrthgyferbyniad
llwyr gyda’r glannau agored yr o’wn i wedi bod yn eu cerdded drwy’r dydd. Allan
wedyn at y clogwyni eto, heibio gweddillion pwdr adenydd angylion ar giât
hen ystad, ac roedd y dydd yn troi’n fwy bygythiol. Rhyw hanner awr oedd ar ôl
gen i, ro’n i’n amcanu, cyn i’r glaw gyrraedd. Dal i fynd felly, yn reit sydyn,
drwy gaeau anferth lle nad oedd hyd yn oed y cripellau craig wedi llwyddo osgoi
effaith gwrtaith. Roedd ambell dwmpath clustog Fair yn dal ei dir ac roedd
patshys o lwynhidydd arfor yn llwyddo
cystadlu yn erbyn gweiriau amaethyddol yn y mannau hynny lle roedd ewyn hallt wedi
llosgi’r tir – ond fel arall, tila iawn oedd hi fan hyn o ran bywyd gwyllt.
Lle rhyfedd oedd Cemaes y noson honno. Roedd hi’n 7 o’r gloch
arna i’n cyrraedd. Y glaw'n glynu a’r gwynt yn dechrau chwipio. Y lle’n oeraidd
yr olwg, yn llawn tai pebldash a baneri Jac yr Undeb. Ro’n i yno am ddwy awr
ond chlywes i’r un gair o Gymraeg. Roedd rhaid aros am lifft adre ac ro’n i’n
falch i ddod ar draws panel gwybodaeth i lenwi'r amser. Fe ddysgais am hen ddiwydiannau’r ardal – briciau, clai
Tseina, marmor, ocr. Roedd hi’n anodd dychmygu pa mor brysur yr oedd y lle hwn yn
y gorffennol. Ond trueni na wnaeth y panel egluro’n pam yr oedd
un ardal a ddangoswyd ar y map fel ‘Scotland bach’ wedi cael y fath enw - yn
enwedig o gofio nôl am yr awyrgylch Albanaidd ym Mynachdy y bore hwnnw. Ai
teulu Albanaidd oedd yn berchen unwaith ar rannau o’r arfordir hwn, gyda’i
gaeau anferth a’i blanhigfeydd coniffer, neu a ddaeth perchennog tir lleol â
rhyw arferion rheoli tir yn ôl i'r ardal oherwydd rhyw gyswllt
Albanaidd? Rhywbeth i’w ymchwilio ar ôl dychwelyd adre.
Amser mynd adre i wely cynnes am y nos. Neu fel ‘na ro’n i
wedi meddwl. Wrth i fi hwpo’r ci mewn i’r car llithrodd un o’r drysau cefn yn ôl ar
fy llaw fel gilotîn, a sleisio drwy fy mys. Gorffennodd y dydd gydag
ymweliad hir iawn ag adran argyfwng Ysbyty Gwynedd. Ro’ i’n falch iawn o’r frechdan
caws ac ysgedd olaf am 11.30 pm yn ystafell aros yr ysbyty.
No comments:
Post a Comment