Friday, 29 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (14).....Caergybi i Gemaes

O gwmpas cyrion Cymru  (14) ....Caergybi i Gemaes

Fe fynnodd fy nghyflogwyr mod i’n dychwelyd i’r gwaith unwaith yn ystod y cyfnod gwyliau hwn. Drato! Ond er mwyn cynnal y momentwm fe benderfynes gwblhau Sir Fôn tra mod i adre. Diolch i’r Cwîn am roi’r diwrnod ychwanegol o wyliau yn ystod yr wythnos hanner tymor eleni – roedd e’n dipyn o help! Dyma ddechrau cerdded ‘te,  tua’r dwyrain o Fae Penrhyn, ger Caergybi.


Sôn am le prysur. Roedd e’n llawn carafanau moethus, BMW’s ac Awdi’s, jet-sgîs a baneri jiwbili ac ro’n i’n falch i ffarwelio â’r lle. Ym Mhorth Swtan fe ddois o hyd i’r patshyn gorau o ysgedd arfor i mi weld erioed. Rhwygais dameidiau bychan o ambell  ddeilen a’u rhoi yn fy mrechdanau caws. Roedd y carped o flodau glaswenwyn ar bentir Clegir Mawr yn wych. Mae'n anodd dal y math yma o liw glas ar y camera ac ro’n i’n flin na faswn i wedi meistroli’r camera newydd yma’n well cyn dechrau’r siwrnai hon. Fe fues i wrthi am rhyw hanner awr yn ffidlan gyda’r gwahanol fotymau ar y camera. Ce's syndod o weld daeargi bach Bedlington – a gallwn i ddim peidio aros i siarad gyda’r perchnogion. Ro’n i wedi anghofio bod y brîd hwn, a oedd yn boblogaidd yn y ‘70au, wedi bodoli o gwbl. Mae’n debyg bod bri arnyn nhw eto.  Tybed a welwn ni rai o’r bridiau ‘retro’ eraill yn cynyddu mewn poblogrwydd – fel yr ‘afghan hound’a’r Saluki?  Ond o’r hyn dwi wedi ei weld ar hyd y llwybr fe fydd hi'n amhosib bron i ddisodli’r Labrador o frig y siart poblogrwydd. Maen nhw ymhob man. 



Roedd brain coesgoch yn gwmni cyson ar hyd y daith rhwng Swtan a Phen Carmel – roedd un neu ddau ohonyn nhw i’w gweld yn hedfan neu’n bwydo ym mhob bae bach, er nad oeddwn i’n gweld yr heidiau mwy niferus o 3-5 aderyn a oedd i’w gweld yn Sir Benfro ychydig ddiwrnodau cynt.

Lle od yw Mynachdy. Fe gyrhaeddais y bae wrth rowndio pentir tywyll lle roedd llwyni grug yn garped tynn, brownaidd ar hyd y creigiau. Ro’n i’n meddwl mod i wedi gweld cell meudwy ar ochr y pentir, yn wynebu Ynys Lawd, ond  fe fethais â dod o hyd iddi wrth agosháu, ac roedd ymyl y clogwyn yn rhy frawychus o serth, felly ymlaen â fi rownd y gornel at Mynachdy. Roedd hi’n syndod gweld y bae bach caregog, gyda chlamp o bwll dŵr croyw yn gorwedd tu ôl i’r traeth, ac ardal o goedwig binwydd yn y pen draw. Roedd wyneb y llyn yn llen o ddail gwyrdd gydag ambell glustog  gwyn o flodau crafanc y fran yn edrych fel talpiau o boer o gwmpas yr ymylon. Symudai crëyr yn araf a llechwraidd drwy’r tyfiant , yn barod i wanu’r dŵr gyda’i waywffon o big. Lle llonydd gyda rhyw naws Albanaidd yn perthyn iddo.






Ymlaen â fi at Ben Carmel ac fe newidiodd y tywydd. Trodd y tes cynnes yn niwl llwydaidd a throdd yr awyr yn hollol ddistaw, ag eithrio sŵn chwiban main ambell bâr o biod môr petrus – a hwnnw’n codi’n grescendo o banig wrth i fi gerdded heibio. 


Mae llawer o’r tir i‘r dwryain o Ben Carmel wedi ei wella. Porfa  feddal o feillion, rhygwellt, blodyn menyn a llygad y dydd yn crynu’n ariannaidd  -  yn debyg i ehangder o laswellt paith a hwnnw’n ymestyn at ymylon y clogwyni. Roedd hi'n braf  i weld ambell batshyn o friallu a chlychau’r gog ar y clogwyni  isel ond doedd dim llawer o blanhigion gwyllt i’w mwynhau fan hyn. Yn y pellter roedd pwerdy’r Wylfa yn codi’n dalp llwydaidd sgwar ar y gorwel. Roeddwn i’n falch i glywed sgrechian y môr-wenoliaid ym mae Cemlyn ar ôl tawelwch Pen Carmel. Roedd criw da o bobl yn fforio ar lan y môr yng Nghemlyn fel rhan o weithgaredd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd eraill yn sefyll yn rhes ar hyd y gefnen ar gefn y traeth, yn gwylio’r môr-wenoliaid yn hedfan nôl a blaen rhwng y môr a’r ynsyoedd magu .  Mae’n le cyfareddol, os ydych chi’n hoff o wylio adar. Mae’r môr-wenoliaid yn gyson brysur ac yn hedfan mor isel ac agos atoch chi fel y gallwch chi weld y llymrïod yn eu pigau wrth iddyn nhw wibio lawr at y cywion  dros y cerrig a’r ysgedd llwyd.






Fe golles i amser ar safle’r Wylfa oherwydd arwyddion aneglur ond ar ôl sylweddoli bod y llwybr arfordir yn dilyn rhodfa natur y pwerdy cefais amser braf yn cerdded y llwybr coediog, a oedd yn wrthgyferbyniad llwyr gyda’r glannau agored yr o’wn i wedi bod yn eu cerdded drwy’r dydd. Allan wedyn at y clogwyni eto, heibio gweddillion pwdr adenydd angylion ar giât hen ystad, ac roedd y dydd yn troi’n fwy bygythiol. Rhyw hanner awr oedd ar ôl gen i, ro’n i’n amcanu, cyn i’r glaw gyrraedd. Dal i fynd felly, yn reit sydyn, drwy gaeau anferth lle nad oedd hyd yn oed y cripellau craig wedi llwyddo osgoi effaith gwrtaith. Roedd ambell dwmpath clustog Fair yn dal ei dir ac roedd patshys o lwynhidydd arfor yn  llwyddo cystadlu yn erbyn gweiriau amaethyddol yn y mannau hynny lle roedd ewyn hallt wedi llosgi’r tir – ond fel arall, tila iawn oedd hi fan hyn o ran bywyd gwyllt.


Lle rhyfedd oedd Cemaes y noson honno. Roedd hi’n 7 o’r gloch arna i’n cyrraedd. Y glaw'n glynu a’r gwynt yn dechrau chwipio. Y lle’n oeraidd yr olwg, yn llawn tai pebldash a baneri Jac yr Undeb. Ro’n i yno am ddwy awr ond chlywes i’r un gair o Gymraeg. Roedd rhaid aros am lifft adre ac ro’n i’n falch i ddod ar draws panel gwybodaeth i lenwi'r amser. Fe ddysgais am hen ddiwydiannau’r ardal – briciau, clai Tseina, marmor, ocr. Roedd hi’n anodd dychmygu pa mor brysur yr oedd y lle hwn yn y gorffennol. Ond trueni na wnaeth y panel egluro’n pam yr oedd un ardal a ddangoswyd ar  y map fel  ‘Scotland bach’ wedi cael y fath enw - yn enwedig o gofio nôl am yr awyrgylch Albanaidd ym Mynachdy y bore hwnnw. Ai teulu Albanaidd oedd yn berchen unwaith ar rannau o’r arfordir hwn, gyda’i gaeau anferth a’i blanhigfeydd coniffer, neu a ddaeth perchennog tir lleol â rhyw arferion rheoli tir yn ôl i'r ardal oherwydd rhyw gyswllt Albanaidd? Rhywbeth i’w ymchwilio ar ôl dychwelyd adre.



Amser mynd adre i wely cynnes am y nos. Neu fel ‘na ro’n i wedi meddwl. Wrth i fi hwpo’r ci mewn i’r car llithrodd un o’r drysau cefn yn ôl ar fy llaw fel gilotîn, a sleisio drwy fy mys. Gorffennodd y dydd gydag ymweliad hir iawn ag adran argyfwng Ysbyty Gwynedd. Ro’ i’n falch iawn o’r frechdan caws ac ysgedd olaf am 11.30 pm yn ystafell aros yr ysbyty.

O gwmpas cyrion Cymru (13)....Amroth i Benfro

O gwmpas cyrion Cymru  (13)….. Amroth i Benfro

Oriau mân y bore ar glogwyni  Saundersfoot. Mae’r turturod torchog yn clapian yn swnllyd wrth hedfan  yn drwsgwl rhwng canghennau wrth i fi gerdded drwy’r coed conwydd draw at Ddinbych y Pysgod. Mae’r dre’n dod i’r golwg yn raddol, ac yn edrych yn hardd a gosgeiddig drwy’r manlaw llwyd.  Arhosais i dynnu lluniau o waith adfer hyfryd ar rai o’r adeiladau glan môr a tharo mewn wedyn i westy’r Giltar i gael paned o goffi ac ail-wefru’r ffôn a’r camera.



 Roedd cerdded  traeth gogleddol Dinbych y Pysgod gyda rycsac ar fy nghefn yn waith caled, ac roedd y padlo drwy’r ewyn yn gymsgedd o artaith a rhyddhad i’r traed a oedd yn rhacs jibidêrs erbyn hyn,

Roedd y clogwyn ar drwyn Penalun yn felyn, felyn. Cymysgedd o flodau cribell felen, pys y ceirw a phlucen felen. Ro’n i’n edrych ymlaen at ran nesaf y daith ar hyd ymyl  clogwyni agored – y darn cyntaf o glogwyn gwirioneddol agored  i fi weld ers cyrraedd Sir Benfro, ond che’s i ddim y cyfle. Cefais fy hel yn ôl i lawr y llethr gan giard oedd yn sefyll mewn cwt concrit ar ymyl maes tanio Penalun. Roedd y milwyr wedi dychwelyd o Afghanistan yr wythnos cynt ac roedd rhaid iddyn nhw  ymarfer eu sgiliau saethu i wneud yn siwr eu bod yn gallu anelu’n gywir. Roedd y maes tanio felly ar gau i gerddwyr. Byddai wedi bod yn handi cael rhybudd yr ochr arall i Ddinbych y Pysgod, er mwyn osgoi’r cerdded diangen . Lawr â fi, yn teimlo’n flin bod y clogwyni ar gau, a hefyd bod rhan o gors hyfryd Penalun wedi cael ei haberthu i greu maes ymarfer milwrol. Gyferbyn â’r milwyr yn eu cwrcwd, a sŵn y bwledi a’r gorchmynion yn cracio drwy’r awyr, roedd golffwyr sidêt Dinbych y Pysgod hefyd yn canolbwyntio‘n ar daro targedau yn eu ffordd nhw eu hunain, ac yn ceisio’u gorau i anelu’n llwyddiannus at y tyllau mân ar draws y cwrs golff a grewyd yn y twyni.


Drwy Penalun â fi, heibio’r goeden ffigys llawn ffrwythau ger yr eglwys, ac ar ôl sbel fach fe ddois o hyd i’r llwybr a oedd yn arwain nôl at y clogwyni, heibio darn hyfryd o gors a oedd yn llawn robin garpiog, ffa’r gors, pumnalen y gors, blodyn y gog a hesg.  Arhosais i dynnu lluniau a theimlo’r rhwystredigaeth yn  diflannu'n llwyr. Ond nid am hir chwaith, gan i fi ddysgu’n fuan wedyn bod meysydd tanio Lydstep a Chastell Martin hefyd ar gau ar gyfer ymarferiadau milwrol! 


Ond yn y cyfamser, roedd hi’n braf cael crwydro ar hyd y creigiau calchfaen draw at draeth Lydstep. Islaw, roedd y môr yn ffromi, a’r ewyn yn chwyrlio’n batrymau mwyaf rhyfedddol. Carped o binc a melyn oedd ar hyd y clogwyni – clustog Fair, plucen felen, pys y ceirw a briweg yn bennaf. Mewn mannau roedd darnau o’r clogwyni ar hyd y llwybr yn edrych fel creigerddi hardd.



Mae traeth Lydstep yn bentref solet o garafanau gwyliau erbyn hyn - o un ochr y bae i’r llall. Yng ngheg y bae mae Ynys Bŷr i’w gweld yn glir. Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn lle gogoneddus ar un adeg. Roedd yn dal i fod yn ddigon dymunol, ond rhwng yr erwau o laswellt taclus, y lonydd tarmac, y llu o garafanau moethus a sŵn rhuo’r jet-sgîs roedd yn fan i basio drwodd yn reit sydyn erbyn hyn.



Crynai’r ddaear gyda’r holl danio oedd yn digwydd ar Benrhyn Lydstep ac roedd y sŵn yn cario’n bell, fel petai’r gorwel yn tarannu. Ond digon di-daro oedd yr ehedyddion – roedden nhw’n dal i ganu’n ddi-stop drwy’rcyfan. I’r gorllewin o Benrhyn Lydstep fe fues i’n gwylio cudyll coch yn hela ac yn dychwelyd i’w nyth ar silff greigiog oedd mor, mor agos at y llwybr lawr at y traeth.  Hwn oedd y cudyll coch cyntaf i mi weld ar hyd y daith. Ce’s fy nghyfareddu gan ymddygiad un brân goesgoch ifanc a oedd yn cwafrio ac yn galw’n llawn panic ar ben carreg fawr wrth ochr y llwybr wrth i fi ddod yn nes ato – ond roedd e’n gwrthod symud o’r fan hyd nes i un o’r rhieni sgubo lawr ato, o fewn trwch pluen i’w ben, a’i gymell i’w ddilyn at damaid o bridd moel o dan fancyn gwair gerllaw.

Rhwng Lydstep a Maenorbŷr roedd nifer o löynnod byw y glesyn cyffredin i’w gweld yn fflitian o gylch blodau pys y ceirw. Dyma’r sioe orau o löynnod byw i fi weld ers dechrau ar y siwrnai hon – fe weles i gyfanswm o 25 y diwrnod hwnnw.  Arhosais ym Maenorbŷr i chwilio am ferwr dŵr – dyma un o’r ychydig fannau lle dwi’n gwybod ei fod yn tyfu’n wyllt. Ro’n i’n falch i weld ei fod yn dal i fod yma. Gallwn i ddim peidio tynnu dyrnaid o ddail. Mwynhau’r blas, a thrio peidio meddwl gormod am y peryg o ddal ffliwc afu. 



Doedd dim un enaid byw arall ar y clogwyni  i’r gorllewin o Faenorbŷr a digon gwag oedd Freshwater East hefyd. Crwydro’n araf hyd y llwybrau tywod tu cefn i’r traeth, rhwng y llwyni o rosynnod bwrned gyda’u blodau hufennaidd, priodasol. Roedd yr haul yn gynnes braf wrth i fi rowndio’r bae tuag at Stacbwll ac roedd cysgodion min nos yn creu llinellau dwfn drwy’r cnydau wrth i’r haul ddisgyn yn is.
Roedd rhagfuriau caer Greenala yn berffaith glir wrth iddi nosi. Ro’n i’n meddwl efallai byddai’n braf aros yn y gaer dros nos. Fues i’n sefyll yno am amser hir yn gwrando ar fwyalchen yn canu o lwyn mewn cilfach ddofn o dan y gaer. Roedd y sŵn mor uchel yn nhawlewch yr hwyr, ac mor felys – fel tase’r deryn yn garglo mêl. Roedd y ci wedi rhedeg mlaen ac yn sydyn fe ddechreuodd swnian a chyfarth . Daeth rhyw sŵn bach siarad main dros yr awyr ac fe sylweddolais fy mod yn clywed radio. Ar ymyl y llwybr roedd teithiwr wedi creu gwersyll bach mewn patshyn o goed. Fuon ni’n sgwrsio am sbel. Reodd e wedi bod yn byw ar y clogwyni ers mis Mawrth – yn mwynhau’r llonyddwch ac yn byw ei fywyd ôl-troed isel gan wario’i bres wythnosol ‘mond ar fwyd, llyfre, batrîs radio ac ychydig o dybaco. Roedd Banbury a Phenfro’n rhy brysur a swnllyd iddo. Gormod o bobl. Roedd e’n fodlon â’i fywyd araf, tawel – am nawr ta beth, ond ei freuddwyd oedd bod yn Lemmy o Motorhead.




Ar ôl deffro’n gynnar iawn y bore wedyn a dechre' cerdded yn syth ro’n i wedi llwyddo cyrrraedd Broad Haven erbyn 8.30. Fe benderfynes adael y clogwyni a dilyn y llwybr o gwmpas llynnoedd Boshertson, yn y gobaith o weld dyfrgwn. Dwi wedi hen golli cownt o’r troeon dwi wedi bod yma dros y blynyddoedd yn trio cael cip arnyn nhw. Hyd yn oed ar yr awr gynnar hon roedd pobl allan gyda’u binociwlars yn sganio’r pyllau ond rhoi’r ffidil yn y tô wnai pawb yn eu tro. Ar ôl rhyw awr fe benderfynais mai siwrnai seithug oedd hon eto heddi – ond roedd y llynnoedd yn braf beth bynnag gyda’r planhigion lili yn eu blodau ac ro’n i’n ddigon hapus i ymlwybro’n araf a mwynhau’r bore, cyn anelu am y caffi yn Bosherston i gael tamaid o frecwast. Sywlais ar alarch yn hwylio tuag ata i , dau gyw brown wrth ei hochr. Ro’n i’n synnu gweld cywion ifanc mor hwyr yn y tymor. Fe ddiflannodd y criw bach wrth i fi rowndio cornel a phan welais nhw eto fe sylweddolais mod i wedi gwneud camgymeriad. Pennau dau ddyfrgi oedd y ‘cywion’. Fe fuon nhw wrthi’n plymio a nofio o gwmpas yr alarch am sbel, gan wau cadwyn o gylchoedd o’i chwmpas ar wyneb y dŵr, cyn iddi hithau ddiflannu i ganol  tyfiant gan adael y ddau ddyfrgi i barhau eu perfformiad bendigedig – un funud yn nofio â’u pennau’n agos a’r funud nesa’n gwahanu  ac yn cylchu’n osgeiddig o gwmpas ei gilydd. Roedd hi’n hyfryd i’w gweld nhw’n dolennu i mewn ag allan o’r dŵr , eu cefnau crwm melfedaidd yn torri wyneb y llyn am yn ail â’u pennau llydan. Profiad bythgofiadwy.

Roedd Ye Olde Tea Shoppe yn Bosherston ar agor ar waetha’r glaw mân. Diolch fyth. Cael croeso a derbyn caredigrwydd mawr yno. Oherwydd y tanio yng Nghastell Martin roedd rhaid dargyfeirio eto  er mwyn cyrraedd Freshwater East, gwaetha’r modd. Yn y cloddiau roedd planhigion y dulys yn dechrau gwywo fel brocéd aur yn erbyn y tyfiant hafaidd o glatsh y cŵn a llygaid llo bach. Roedd traeth  hardd Freshwater West yn syndod o dawel – dim ond ambell syrffiwr yn ymarfer yng nghanol  y tonnau a chriw arall yn cael gwersi dechreuwyr ar y traeth, ynghyd ag ychydig o gerddwyr cŵn a dau facpaciwr yn cerdded heibio yn y pellter – honno’n olygfa brin iawn ar y daith. Roedd y wâc 3.4 milltir i Angle yn un o’r rhai anoddaf erioed. Cyfres hir o elltydd a phantiau serth a dim digon o ddiddordeb ar ben y clogwyni i wneud iawn am yr ymdrech  – er roedd hi’n eitha’ rhyfeddol gweld  9 bran coesgoch, 3 cigfran, 1 cudyll coch a hebog tramor ar yr un pryd, tra ro’n i’n gorwedd ar fy nghefn yn gorffwyso uwchben pair o fae ger Angle.



Fe fwynheais i bentref Angle yn fawr. Pentref diddorol gyda rhai o’r adeiladau tô-fflat yn dangos dylanwad Indiaidd (y’ lord’ lleol lleol wedi dod â’r syniad nôl rhywdro),  a llwybrau hyfryd, isel yn rowndio pentiroedd coediog a morfeydd meddal. Roedd y golygfeydd o borthladd Aberdaugleddau a’r pwerdai yn wahanol, ac eitha hardd yn y llwydwyll.







Mae’r llwybr yn dwyllodrus o hir rhwng Angle a Phenfro. Ro’n i’n meddwl byddai’r dref yn ymddangos rownd pob cornel, ond mae’r aber yn anferth. Ro’n i’n dechrau digalonni o gwmpas Popton. Ro’n i’n barod i gwympo erbyn cyrraedd eglwys Pwllcrochan ond fe ddois o hyd i nerth o rywle i ddringo’r rhiw at y ‘Spud Wagon’ lle mae Rory’n bwydo gweithwyr y pwerdy gyda dewis mwyaf godidog o fwyd cartre’. Ce's bryd a phaned o de yn rhodd ganddo ac eisteddais ar y tarmac gwlyb i’w fwyta . O fy nghwmpas roedd y pwerdy’n hisian ac yn hymian, a fflamau’n chwydu o gegau’r simneiau tal. Yn y pellter roedd gynnau Castell Martin yn dal i danio.



Tuesday, 26 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (12).....Casllwchwr i Amroth


O gwmpas cyrion Cymru (12)…..Casllwchwr i Amroth

‘Dwi ddim yn meddwl y bydd croesi aber Casllwchwr ymhlith uchafbwyntiau’r siwrnai. Ar ddiwedd prynhawn, cymudwyr sy’n hawlio’r rhan hon o’r trac beicio/llwybr arfordir.  Ffordd gyflym o gyrraedd adre. Profiad anghyfforddus oedd mynd ar hyd y lôn hon,, yn enwedig ar ddiwrnod mor boeth, ac ro’n i’n falch i gael croesi’n ddiogel a chyrraedd y llwybr caled sy’n arwain yr holl ffordd, yn ddi-draffig, at  Gydweli. Arhosais am ychydig, ar ochr Tre-Gwyr i’r aber, i siarad gydag  ‘Island Man’. Hwn oedd y person cyntaf i fi weld a oedd yn cerdded llwybr arfordir Cymru ar ei hyd. Ei broblem fawr, fel yr eglurodd, oedd dod o hyd i ddŵr yfed – er nad o’wn i wedi  profi hyn erioed wrth deithio. Rhyfedd pa mor wahanol yw profiadau gwahanol bobl wrth deithio’r un llwybrau.

Roedd y trac beicio’n teimlo’n hir ac yn anodd yng nghyffiniau Trostre, ond fe fwynheais weld yr holl waith tirlunio a’r datblygiadau oedd wedi digwydd yn bellach draw ym Mharc y Mileniwm - ac fe ddechreuodd y milltiroedd wibio.






Fe darodd fi, wrth basio’r blociau tai newydd, mod i’n gweld llawer gormod erbyn hyn o’r balconîs dur a gwydr sy’n cael eu hychwanegu at unrhyw adeilad newydd bron sydd o fewn pwff o wynt i lan y môr. Hen bethau digon hyll ydyn nhw ar ôl sbel, â’u bolltau’n gwaedu diferion rhwd lawr y waliau.

Hyd yn oed wedi i’r haul fachludo roedd pobl yn dal i fod allan yn cerdded, rhedeg a beicio ar hyd llwybr y Parc Mileniwm. Roedd drudwennod yn pigo’n brysur ymysg y creigiau ar rannau isaf y lan a physgotwyr yn aros yn amyneddgar i ddal haliad o ledod gyda’r hwyr. Cododd dau alarch y gogledd o un o’r pyllau gwneud a hedfan o fewn rhyw 2 fedr uwch fy mhen. Gallwn glywed eu hadenydd mawr yn chwislan a griddfan wrth glepian yn araf drwy’r awyr gynnes. O’r diwedd fe ddois o hyd i le gwastad, cuddiedig  yng nghanol darn bach o laswelltir gwyllt lle gallwn godi fy mhabell yn y tywyllwch. Codais am 5 y bore i ganfod dyn y tu allan yn cyhoeddi ei fod wedi gweld ji-binc. Codais yn sydyn, pacio fy mhethau a mynd yn fy mlaen.





Drwy niwl y bore dros y Pwll a Phorth Tywyn, fe gerddais yn fy mlaen, gan fwynhau’r golygfeydd a chymeriad arfordirol  Sir Gaerfyrddin yn fwy nag y byddwn i wedi dychmygu. Ym Mhen-bre mae’r llwybr yn dilyn y traciau drwy’r fforest binwydd. Roedd cân adar yn atseinio drwy’r gofod dwfn sy’n hongian rhwng y coed tal ac roedd oglau glân y resin yn y polion pren ar ymylon y trac yn fendigedig. Ar forfa Cydweli cwrddais â Roland a oedd yn paratoi ar gyfer yr ‘West Highland Way’ gyda sŵn Dafydd Iwan yn ei glustiau. Y Gatehouse Café yng Nghydweli oedd un o’r llefydd gorau i mi aros i gael tamaid i fwyta, hyd yma, ac ro’n i’n falch o’r hoe ar ôl deuddydd o gerdded ar wyneb caled – gan wybod bod mwy i ddod. Fe basiais yn gyflym drwy Gaerfyrddin, heb aros fawr ddim heblaw am daro mewn i TK Max i brynu sbectol haul newydd. Hen dref lwyd, blêr ond hoffus yw hon lle treuliais flynyddoedd hapus iawn yn fy arddegau. Ymlaen  â fi tua’r gorllewin.




Dwi’n cysylltu pentref Llansteffan gyda phicnics teuluol a theithiau cerdded noddedig ond o ochr draw’r aber roedd y lle wedi edrych yn fwy deniadol a hardd nag oeddwn i’n cofio. Gyda’r llanw’n isel roedd lliwiau a ffurfiau’r creigiau tu hwnt i bentir y castell yn rhyfeddol  ond dim ond haen denau, dwyllodrus oedd y tywod melyn, Oddi tanodd roedd y traeth yn swnd du, ac yn seimllyd a llithrig. Roedd y llanw filltiroedd i ffwrdd ar y gorwel ac fe gerddais gyda fy chwaer yn bellach nag yr oedden ni  wedi gwneud erioed o’r blaen. Ymhen dim amser roedd oglau pydredd yn llenwi’n ffroenau ac fe drodd y tywod yn drwch o gregyn cocos marw. Safai creigiau fel cerrig beddau mewn pyllau duon, distaw – a’r dŵr yn gawl difywyd o slic olew a heli. Pan arhoson ni  i wrando doedd dim adar i’w clywed, dim ond sŵn hisian tawel o’r ehangder eang o fwd tywyll o’n cwmpas, fel miliynau o anadliadau bychain, olaf. Fe droesom nôl a bwrw am y lan.

Ar ôl yr olygfa drist yn Llansteffan fe gododd fy nghalon wrth gerdded drwy weirglodd fawr, yn llawn blodau gwylt, ar ochr Talalcharn i aber yr afon Taf. Roedd tegeirianau, cribell felen, meillion coch, pys y ceirw, bwrned a melog y waun yn frith o’m cwmpas wrth gerdded lawr at yr hesg  ariannaidd ar lan yr afon. Codai cymylau o wyfynod dydd fel conffeti gyda phob cam bron. Trueni na fyddai golygfeydd fel hyn i’w gweld ym mhob man - hwn oedd y cae cyntaf o’i fath i mi ei weld ar hyd yr holl siwrnai, hyd yn hyn.  Arweiniodd y llwybr drwy goetir gwlyb lle roedd gwawn y blodau helyg wedi gorchuddio planhigion y ddaear mewn niwlen ysgafn wen. Roedd gardd Delacorse yn wych ac yn ysbrydoliaeth – ac am rhyw chwarter awr roeddwn i’n dyheu am fynd adre i weithio ar fy ngardd fy hun.






Roedd Talacharn, fel ag erioed, yn dawel a dymunol gyda golygfeydd hardd draw at geg yr aber a‘r clogwyni coediog ger Llansteffan. Safai murddun y castell uwchlaw cilcyn o gors heli ac roedd y llwybrau o gylch yr aber yn brysur.  Fe fwynheais gerdded o gwmpas bryn Sant Ioan eto – doeddwn i ddim wedi bod yno ers tua 15 mlynedd, ac roedd hi’n hyfryd i gael darllen cerdd wych Dylan Thomas ‘A Poem in October’  - un bennill fesul pob bwrdd dehongli  - wrth i mi ddilyn y llwybr o gwmpas y pentir hyd nes y gallwn i weld morfa Pentywyn a thir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymestyn yn eang oddi tanodd.

Torrais y siwrnai yma am sbel fach, er mwyn gallu taro nôl i Lanelli i gymryd rhan yn rhaglen ‘Prynhawn ‘Da’  a sôn am y daith, am lwybr yr arfordir, am Gyngor Cefn Gwlad Cymru a’r elusennau dwi’n eu cefnogi drwy’r prosiect hwn.  Ro’n i mor ddiolchgar am y pecyn bwyd o gantîn Tinopolis a fyddai’n cadw fi fynd am o leia 3 diwrnod. Cefais fy nghludo nôl i Bentywyn ar ddiwedd y prynhawn, ac fe ddechreuais gerdded eto. Ro’n i’n benderfynol o groesi'r ffin i Sir Benfro y noson honno.

Tipyn o gyfrinach yw Marros. Clamp o lethr uwchben traeth hir a thawel. Wrth i’r haul fachludo mae’n lle godidog. Roedd hi’n dda gweld bod pori wedi ail-gychwyn ar ran o’r clogwyn. Lledai oglau cynnes y rhedyn, yn gymysg â thail merlod, ar draws y llethrau a chodai clatsh y cŵn yn dyrrau porffor uwchben blodau clychau’r gog a botwm crys – yn gymysgedd go iawn o flodau gwanwyn a chanol haf.

Roedd traeth Amroth hefyd yn eang a hardd, ond y clogwyni coediog oedd y peth a darodd fi’n bennaf fel un o nodweddion hynotaf y darn hwn o’r arfordir sy’n gorwedd ar ffin Sir Gaerfyrddin a  Sir Benfro. Mae ‘na rywbeth hudolus am goediwgoedd ar ymylon clogwyni – y ffordd mae’r bonion a’r canghennau’n troelli ar onglau amhosib, y ffordd mae’r gwynt yn naddu’r canopîs yn ffurfiau mathemategol o gywrain a glân, a’r ffordd y mae’r brigau’n plethu i greu patrymau cain a mannau cyfrin. Ond roedd y cwm coediog rhwng Marros ac Amroth yn brofiad gwahanol iawn – safai patshys o goed deri ac ysgaw yn llwm a noeth, heb ddeilen yn agos atyn nhw. Roedd yr awyrgylch yn rhyfedd – a rhyw naws maes y gâd o gylch y lle. Mor wahanol i gwm coediog Colby gerllaw, lle mae gerddi llewrychus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael eu rheoli a’u meithrin yn ofalus.

Amroth sy’n nodi ffin Sir Benfro, ond roedd angen bwrw ‘mlaen. Yn un peth roedd angen dod o hyd i lecyn tawel a gwastad i godi’r babell ond ro’n i hefyd yn awyddus i gasglu rhagor o filltiroedd dan fy nhraed oherwydd ro’n i wedi colli ychydig o ddiwrnodau mewn dathliad teuluol yn swydd Rhydychen – ble roedd barcutiaid yn cylchu uwchben ystadau swbwrbaidd a ble roedd y gorchymyn sychder yn cael ei anwybyddu gan waith dyfrio slei yn gynnar yn y bore, gan ddefnyddio teclynnau wedi cuddio’n ofalus dan lwyni’r borderi llewyrchus, perffaith.

Ymlaen felly drwy’r twnneli diwydiannol yng nghyffiniau Saundersfoot ac ar hyd rhagor o glogwyni coediog. Wrth iddi nosi, ac wrth iddi droi’n dywyllach dan y dail roedd rhaid camu’n ofalus rhwng y gwreiddiau tenau a oedd yn lledu fel bysedd esgyrnog, gwelw ar draws y llwybr. Ro’n i’n ddiolchgar bod dail y goedfrwynen fawr  yn creu bandyn llydan o liw melynwyrdd gwelw o boptu’r llwybr. O’r diwedd fe ddois o hyd i fan bach digon gwastad ar ymyl cae cyfagos. Roedd y goedwig yn fyw am oriau gyda sŵn tylluanod a doedd y ci ddim yn gallu setlo. Am 4.30 y bore cefais fy neffro eto gan sŵn byddarol, yn gymysgedd o hwtian, cracio a gwichian. Chwyrlïodd adenydd o’m cwmpas a tharo tô’r babell ac eiliadau’n ddiweddarach clywais sgrech mwyaf annaearol  - braidd yn rhy agos i deimlo’n gwbl gyfforddus. Ar ôl munud neu ddwy edrychais allan o’r babell i weld beth oedd yn digwydd. Sylweddolais mod i wedi codi’r babell drws nesaf at warin cwningod ac fy mod i felly, yn fwy na thebyg ,yn eistedd yng nghanol caffi tylluanod.

O gwmpas cyrion Cymru (11)....Abertawe i Gasllwchwr


O gwmpas cyrion Cymru (11).... Abertawe i Gasllwchwr

Fe ddysgais ddoe am John Dillwyn Llewelyn, y botanegydd a’r ffotograffydd enwog o Benllergaer a fu’n tynnu tipyn o luniau o arfordir Cymru, yn cynnwys Aberogwr. Diolch i’r fyfyrwraig gelf a fu’n dweud wrtha i amdano. Sôn am deimlo’n anwybodus – ond ro’n i’n falch i gael gwybod am y dyn a dwi’n edrych ymlaen i ymchwilio mwy ar ôl mynd adre. Efallai y gwna i gychwyn ar rhyw brosiect bach i ail-ymweld â rhai o’r mannau lle buodd e’n tynnu lluniau.

Pellafion Bae Abertawe a Bro Gwyr oedd yn fy nisgwyl heddiw. Galla i ddim dweud, â fy llaw ar fy nghalon, ‘mod i erioed wedi mwynhau ymweld â Bro Gwyr yn y gorffennol  er  hardded yr ardal. Mae pob siwrnai i’r penrhyn wedi bod yn gysylltiedig â chyfarfodydd gwaith – felly mae pob un wedi golygu teithio ar hyd ffyrdd echrydus o brysur, yn colli fy ffordd dro ar ôl tro ac yn rasio yn erbyn y cloc i gyrraedd rhyw fan sy’n teimlo fel petai ym mhen draw’r byd. Ond mae cerdded o gwmpas ymylon Penrhyn Gwyr yn  brofiad cwbl wahanol.

Daeth gwres y dydd i chwalu’r niwl ysgafn o gwmpas y Mwmbwls yn ddigon clou. Roedd Bae Langland yn gampfa awyr agored erbyn 9.30 y bore, yn llawn timau o blant o’r clwb chwaraeon dŵr  lleol, a chadwyn o bobl yn eu gwylio o’r llwybrau tarmac o gylch y traeth. Roedd cesail y traeth fel rhyw amffitheatr – rhesi taclus o hen gabanau glan môr, a phob un wedi ei baentio’n wyrdd a gwyn destlus. ‘Sgubai’r llwybr o’u blaen, ac ymlaen drwy glystyrau mawr o gwmffri gwyn a chraf y geifr. Gwyrdd a gwyn eto – glanwaith a smart.

Roedd rhai o’r baeau hardd eraill ar hyd arfordir de Gwyr yn dawelwch a mwy gwyllt eu naws. Traeth Pwlldu oedd fy ffefryn, yn cuddio mewn cilfach, gydag afon fechan yn llifo drwy’r gro at y môr. Roedd pen y clogwyni’n fendigedig. Roedd y llwybrau cul drwy’r llwyni eithin yn dwnneli  o aer poeth ac oglau cnau coco. Ro’n i’n falch o beint oer yn y dafarn sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned ym Mhenard.


Ai llynedd efallai y penderfynwyd, drwy bleidlais boblogaidd, mai’r ‘Three-Cliffs Bay’ yw’r traeth harddaf ym Mhrydain? Ac a oes ‘na enw Cymraeg gwreiddiol ar y lle? Ta beth, does dim dwy waith nad yw’n llecyn hyfryd ond mi faswn i wedi ei fwynhau’n fwy pe na bai’r arwyddion sâl wedi fy ngyrru nôl i fyny at y ffordd hynod brysur rhwng Penmaen ac Oxwich. Fe roddais sawl cynnig ar fynd yn ôl at y lan, ond yn ofer. Ond fe welais ambell beth diddorol wrth i fi ymdrechu – fel y caban glan môr newydd a deniadol gyda’i dô tywarchen ym mhen gorllewinol Three Cliffs Bay a choeden fasarn yn tyfu mewn piler o dywod ar ymyl Twyni Tre Niclas, gyda’i fwng o wreiddiau mân yn hongian yn yr awyr – dyna beth oedd enghraifft o rym goroesiad. Rhoddais y ffidil yn y tô ar ôl sbel – doedd gen i ddim egni i ail-droedio llwybrau seithug.  Fe ddewisais ddiodde’r artaith o gerdded ar lyd lonydd hunllefus Gŵyr hyd nes y gallwn ail-ymuno â’r llwybr yn Oxwich.







Roedd  diwedd p’nawn yn Oxwich yn hyfryd. Roedd lliwiau hen y gors yn dyner ar y llygaid ar ôl diwrnod mor llachar, ac ar ôl yr awr o ganolbwyntio dwys ar hyd ffordd a oedd wedi bod yn dagfa o draffig. Llechai eglwys Sant Illtud yn hardd yng nghanol gwyrddni’r goedwig ym mhen draw’r traeth, a rownd y gornel roedd cigfrain yn crawcio’n ddiog a chreciaid yn dal i glebar wrth i’r gwyll hel o gwmpas y talcenni craig trawiadol ar Bentir Oxwich.  Bae Porth Einon oedd diwedd y daith am heddiw. Roedd y ci wedi blino’n lân ac yn llawn haeddu ei gwobr o ffishcêc  o’r siop tsips ar ymyl y traeth.


Ymlaen â ni y diwrnod canlynol er mwyn ceisio gorffen llwybr Penrhyn Gŵyr. Cododd y llwybr uwchben hen waith prosesu halen ar ymyl Bae Port Einon (rhaid dod nôl rhywbryd i aros yn yr Hostel Ieuenctid hyfryd sy’n gorwedd ar fin y traeth) a thrwy bentyrrau o rwbel calchfaen a oedd yn fôr o flodau melyn a phinc y cor-rosod  pys-y-ceirw a’r briweg. Roedd hi’n ddiwrnod poeth arall. Dringais heibio hen odyn galch i gyrraedd cyfres o bentiroedd calchfaen dramatig. Codai arogl cnau coco unwaith eto o’r llwyni eithin ac roedd ehedyddion yn cwafrio’n wyllt yn yr awyr uwch fy mhen. Roedd cwpwl o ddynion yn cysgu’n braf ar fatres o laswellt a’i lond o sêr y gwanwyn, â’u hetiau haul gwyn wedi eu tynnu dros eu hwynebau. Uwch eu pennau roedd brain coesgoch yn galw’n wyllt. Yn sydyn, daeth cerddwraig oedrannus i’r golwg o gwmpas cornel craig, wedi diosg ei dillad i gyd heblaw am bar o drons oherwydd y gwres llethol, gan ymddiheuro’n fawr! Ro’n i’n deall yn iawn sut roedden nhw i gyd yn teimlo –ro’n innau hefyd awydd hoe, a chyfle i ddianc o lygad yr haul crasboeth.


Roedd Rhosili’n brysur a chan fod y llanw’n isel roedd cerddwyr yn heidio allan i Ben y Pyrod. Dewisais ddilyn y llwybr isaf ar draws mynydd Rhosili – yr un sy’n mynd yn union y tu cefn i’r ffermdy unig sy’n un o dai gwyliau mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ôl y sôn. Roedd y llwybr yn fendigedig ac er i mi fethu dod o hyd i rai o’r arwyddion llwybr arfordir yn y pen gogleddol, fe ddois o hyd i lwybrau eraill a aeth â fi i bentrefi hyfryd Llangennydd a Llanmadog a heibio bae Brychdyn â’i naws Albanaidd, draw at gastell Weblî.



Fe wnes i ddotio’n llwyr ar ran gogleddol Bro Gŵyr. Yr ehangder  o forfa heli, y pentrefi  tawel, y gorwelion pell sy’n crynu a chwarae triciau ar y llygaid gan greu ynysoedd allan o’r pentiroedd isel, y cefnau tywod a’r criwiau o gasglwyr cocos adeg llanw isel. Roedd yr ardal yn ymddangos ychydig yn fwy anghofiedig a dirgel na rhan ddeheuol  y penrhyn. Mwy o ymdeimlad o le rhywsut. Dilynodd y llwybr ar hyd ymyl y morfa heli o Lanrhidian ond diflannodd, fel yr arwyddion, ger gwaith prosesu cocos Penclawdd . Fe grwydrais draw i gael pip ar y safle prosesu – roedd yr oglau’n gryf a’r bagiau prosesu’n orlawn (ond y cocos yn edrych braidd yn fach i fi serch hynny). Hawdd oedd gwybod bod hon yn ardal gocos – roedd cocos mâl yn cael eu defnyddio, yn hytrach na cherrig, bron ym mhob adwy giât o gwmpas Croffty a Phenclawdd. Ymlaen â fi. Roedd hi’n ffodus bod rhywun wrthi’n gweithio ar yr ystâd ddiwydiannol fechan ar ymyl Penclawdd ac wedi bod yn barod i agor i giât er mwyn i fi basio drwodd at y ffordd fawr – neu mi faswn i wedi bod yn padlo drwy gors a ffosydd, â’r llanw’n codi, am amser hir.



Roedd hi’n dal i fod yn boeth. Ac roedd y ffordd drwy Benclawdd yn brysur a llychlyd.  Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at daith gerdded hir ar balmant ffordd yr holl ffordd i Dre-Gwyr. Ro’dd y ci’n mynnu gorwedd lawr mewn protest bob pum munud, yn gwrthod symud hyd nes iddi gael hoe. Gallwn i ddim gwrthod y cynnig  o lifft gan griw o ffrindiau oedd ar eu ffordd i’r Ganolfan Adar Gwlyptir yn Llanelli. Arhosais mewn tafarn yn Nhre Gwyr am sbel i orffwyso dan gysgod coed ac i gasglu sbariwns bwyd oddi ar y platiau ar gyfer y ci – roedd y cyflenwad yn fy rycsac yn prysur ddiflannu.

O gwmpas cyrion Cymru (10)...Llanilltud Fawr i Abertawe


O gwmpas cyrion Cymru (10).....Llanilltud Fawr i Abertawe

Yr amser gorau i grwydro ar hyd yr arfordir rhwng Llanilltud Fawr ac Aberogwr yw adeg llanw isel. Mae’r creigiau ar y traeth yn donnau wedi fferru, ac fe allwch weld yn glir yr ewyn yn torri’n ffrilsen wen ar hyd y banciau graean oddi ar y lan, sy’n cael eu creu gan gerhyntoedd cryf y Sianel.

Roedd blodau’r milwr yn creu rhuban o liw pinc cryf wrth grwydro drwy’r coedwigoedd collddail tywyll gerllaw Coleg yr Iwerydd. Wrth nesáu at Yr As Fawr trodd y dirwedd yn gynfas agored o liwiau melyn a gwyrdd llachar dan awyr las. Codai ehedyddion yn ddiddiwedd o ymylon cae hadau rêp cyfagos, ble roedd yr awyr hallt wedi llosgi’r cnwd a chreu pastshys moel.  Gerllaw’r goleudy roedd brain yn pigo’n brysur drwy sofl  cynhaeaf silwair canol-Mai. Deuai adar drycin y graig i’r golwg bob hyn a hyn, yn codi fel pypedau uwchlaw ymyl y clogwyn, â’u hadenydd fel llafnau cyllyll yn torri’n llym drwy’r awyr boeth. Roedd un brân goesgoch yn cylchu uwchben goleudy'r As Fawr, ble roedd priodas yn cael ei chynnal.

Tu hwnt i'r As Fawr roedd y clogwyni’n rhyfeddol a’r llwybr yn ddramatig – ond fymryn yn frawychus ‘falle i unrhyw un sy’n ofni uchder . Ar y traeth anferth, yn bell islaw, roedd rhes o bysgotwyr yn sefyll yn stond ac yn amyneddgar ar ymyl y lan, â’u gwialenni pysgota’n  creu cyfres o drionglau main ar wyneb y dŵr.



Yn Dunraven fe welais un o’r cymoedd coediog harddaf erioed. Tyfai clychau’r gog, mwsglys, cor-rosyn a thafod yr hydd yn doreithiog dan ganopi crebachlyd o goed criafol a masarn. Roedd tair brân goesgoch wrthi’n bowndio ar hyd llethr craig agored gerllaw a gallwn glywed sŵn hebog tramor o bell.



Erbyn i fi gyrraedd Aberogwr, ar ddiwedd y prynhawn heulog hwnnw, roedd y lle yn gwagio. Cadwyn hir o geir yn rholio’n araf, â’u teiars yn hisian ar y tarmac wrth ymlwybro tuag adre, a chriwiau min-nos o sgrialfyrddwyr yn dod i’r golwg i hawlio’u tiriogaeth. Arhosais am sbel i wylio caiac môr yn llithro i fyny’r aber drwy’r twyni aur, a theimlo braidd yn genfigennus . Roedd fy nhraed yn powndio yn fy sgidie ac ro’n i’n wynebu oriau maith o gerdded ar hyd ffyrdd a phalmentydd Bae Baglan ac Abertawe.