O gwmpas cyrion Cymru
(11).... Abertawe i Gasllwchwr
Fe ddysgais ddoe am John Dillwyn Llewelyn, y botanegydd a’r
ffotograffydd enwog o Benllergaer a fu’n tynnu tipyn o luniau o arfordir Cymru,
yn cynnwys Aberogwr. Diolch i’r fyfyrwraig gelf a fu’n dweud wrtha i amdano. Sôn
am deimlo’n anwybodus – ond ro’n i’n falch i gael gwybod am y dyn a dwi’n
edrych ymlaen i ymchwilio mwy ar ôl mynd adre. Efallai y gwna i gychwyn
ar rhyw brosiect bach i ail-ymweld â rhai o’r mannau lle buodd e’n tynnu
lluniau.
Pellafion Bae Abertawe a Bro Gwyr oedd yn fy nisgwyl heddiw.
Galla i ddim dweud, â fy llaw ar fy nghalon, ‘mod i erioed wedi mwynhau ymweld â
Bro Gwyr yn y gorffennol er hardded yr ardal. Mae pob siwrnai i’r penrhyn
wedi bod yn gysylltiedig â chyfarfodydd gwaith – felly mae pob un wedi golygu
teithio ar hyd ffyrdd echrydus o brysur, yn colli fy ffordd dro ar ôl
tro ac yn rasio yn erbyn y cloc i gyrraedd rhyw fan sy’n teimlo fel petai ym
mhen draw’r byd. Ond mae cerdded o gwmpas ymylon Penrhyn Gwyr yn brofiad cwbl wahanol.
Daeth gwres y dydd i chwalu’r niwl ysgafn o gwmpas y Mwmbwls
yn ddigon clou. Roedd Bae Langland yn gampfa awyr agored erbyn 9.30 y bore, yn
llawn timau o blant o’r clwb chwaraeon dŵr
lleol, a chadwyn o bobl yn eu gwylio o’r llwybrau tarmac o gylch y
traeth. Roedd cesail y traeth fel rhyw amffitheatr – rhesi taclus o hen gabanau
glan môr,
a phob un wedi ei baentio’n wyrdd a gwyn destlus. ‘Sgubai’r llwybr o’u blaen,
ac ymlaen drwy glystyrau mawr o gwmffri gwyn a chraf y geifr. Gwyrdd a gwyn eto
– glanwaith a smart.
Roedd rhai o’r baeau hardd eraill ar hyd arfordir de Gwyr yn
dawelwch a mwy gwyllt eu naws. Traeth Pwlldu oedd fy ffefryn, yn cuddio mewn
cilfach, gydag afon fechan yn llifo drwy’r gro at y môr. Roedd pen y clogwyni’n
fendigedig. Roedd y llwybrau cul drwy’r llwyni eithin yn dwnneli o aer poeth ac oglau cnau coco. Ro’n i’n falch
o beint oer yn y dafarn sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned ym Mhenard.Ai llynedd efallai y penderfynwyd, drwy bleidlais boblogaidd, mai’r ‘Three-Cliffs Bay’ yw’r traeth harddaf ym Mhrydain? Ac a oes ‘na enw Cymraeg gwreiddiol ar y lle? Ta beth, does dim dwy waith nad yw’n llecyn hyfryd ond mi faswn i wedi ei fwynhau’n fwy pe na bai’r arwyddion sâl wedi fy ngyrru nôl i fyny at y ffordd hynod brysur rhwng Penmaen ac Oxwich. Fe roddais sawl cynnig ar fynd yn ôl at y lan, ond yn ofer. Ond fe welais ambell beth diddorol wrth i fi ymdrechu – fel y caban glan môr newydd a deniadol gyda’i dô tywarchen ym mhen gorllewinol Three Cliffs Bay a choeden fasarn yn tyfu mewn piler o dywod ar ymyl Twyni Tre Niclas, gyda’i fwng o wreiddiau mân yn hongian yn yr awyr – dyna beth oedd enghraifft o rym goroesiad. Rhoddais y ffidil yn y tô ar ôl sbel – doedd gen i ddim egni i ail-droedio llwybrau seithug. Fe ddewisais ddiodde’r artaith o gerdded ar lyd lonydd hunllefus Gŵyr hyd nes y gallwn ail-ymuno â’r llwybr yn Oxwich.
Ymlaen â ni y diwrnod canlynol er mwyn ceisio gorffen llwybr
Penrhyn Gŵyr.
Cododd y llwybr uwchben hen waith prosesu halen ar ymyl Bae Port Einon (rhaid
dod nôl
rhywbryd i aros yn yr Hostel Ieuenctid hyfryd sy’n gorwedd ar fin y traeth) a
thrwy bentyrrau o rwbel calchfaen a oedd yn fôr o flodau melyn a phinc y
cor-rosod pys-y-ceirw a’r briweg. Roedd
hi’n ddiwrnod poeth arall. Dringais heibio hen odyn galch i gyrraedd cyfres o
bentiroedd calchfaen dramatig. Codai arogl cnau coco unwaith eto o’r llwyni
eithin ac roedd ehedyddion yn cwafrio’n wyllt yn yr awyr uwch fy mhen. Roedd
cwpwl o ddynion yn cysgu’n braf ar fatres o laswellt a’i lond o sêr
y gwanwyn, â’u
hetiau haul gwyn wedi eu tynnu dros eu hwynebau. Uwch eu pennau roedd brain
coesgoch yn galw’n wyllt. Yn sydyn, daeth cerddwraig oedrannus i’r golwg o
gwmpas cornel craig, wedi diosg ei dillad i gyd heblaw am bar o drons oherwydd y gwres
llethol, gan ymddiheuro’n fawr! Ro’n i’n deall yn iawn sut roedden nhw i gyd yn
teimlo –ro’n innau hefyd awydd hoe, a chyfle i ddianc o lygad yr haul crasboeth.
Roedd Rhosili’n brysur a chan fod y llanw’n isel roedd cerddwyr yn heidio allan i Ben y Pyrod. Dewisais ddilyn y llwybr isaf ar draws mynydd Rhosili – yr un sy’n mynd yn union y tu cefn i’r ffermdy unig sy’n un o dai gwyliau mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ôl y sôn. Roedd y llwybr yn fendigedig ac er i mi fethu dod o hyd i rai o’r arwyddion llwybr arfordir yn y pen gogleddol, fe ddois o hyd i lwybrau eraill a aeth â fi i bentrefi hyfryd Llangennydd a Llanmadog a heibio bae Brychdyn â’i naws Albanaidd, draw at gastell Weblî.
Fe wnes i ddotio’n llwyr ar ran gogleddol Bro Gŵyr. Yr ehangder o forfa heli, y pentrefi tawel, y gorwelion pell sy’n crynu a chwarae triciau ar y llygaid gan greu ynysoedd allan o’r pentiroedd isel, y cefnau tywod a’r criwiau o gasglwyr cocos adeg llanw isel. Roedd yr ardal yn ymddangos ychydig yn fwy anghofiedig a dirgel na rhan ddeheuol y penrhyn. Mwy o ymdeimlad o le rhywsut. Dilynodd y llwybr ar hyd ymyl y morfa heli o Lanrhidian ond diflannodd, fel yr arwyddion, ger gwaith prosesu cocos Penclawdd . Fe grwydrais draw i gael pip ar y safle prosesu – roedd yr oglau’n gryf a’r bagiau prosesu’n orlawn (ond y cocos yn edrych braidd yn fach i fi serch hynny). Hawdd oedd gwybod bod hon yn ardal gocos – roedd cocos mâl yn cael eu defnyddio, yn hytrach na cherrig, bron ym mhob adwy giât o gwmpas Croffty a Phenclawdd. Ymlaen â fi. Roedd hi’n ffodus bod rhywun wrthi’n gweithio ar yr ystâd ddiwydiannol fechan ar ymyl Penclawdd ac wedi bod yn barod i agor i giât er mwyn i fi basio drwodd at y ffordd fawr – neu mi faswn i wedi bod yn padlo drwy gors a ffosydd, â’r llanw’n codi, am amser hir.
Roedd hi’n dal i fod yn boeth. Ac roedd y ffordd drwy Benclawdd
yn brysur a llychlyd. Doeddwn i ddim yn
edrych ymlaen at daith gerdded hir ar balmant ffordd yr holl ffordd i Dre-Gwyr.
Ro’dd y ci’n mynnu gorwedd lawr mewn protest bob pum munud, yn gwrthod symud
hyd nes iddi gael hoe. Gallwn i ddim gwrthod y cynnig o lifft gan griw o ffrindiau oedd ar eu
ffordd i’r Ganolfan Adar Gwlyptir yn Llanelli. Arhosais mewn tafarn yn Nhre
Gwyr am sbel i orffwyso dan gysgod coed ac i gasglu sbariwns bwyd oddi ar y
platiau ar gyfer y ci – roedd y cyflenwad yn fy rycsac yn prysur ddiflannu.
No comments:
Post a Comment