Saturday, 16 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (2) - ar hyd arfordir y gogledd

O gwmpas cyrion Cymru (2)…….ar hyd arfordir y gogledd

Taith ar ddwy olwyn fuodd hi heddiw. Penderfynu ennill rhywfaint o amser drwy feicio ar draws arfordir Cymru. Felly daeth yr hen Peugot Camargue allan o'r sied ac ar ôl ychydig o 3-in-1 roedden ni'n barod i fynd. Tywydd ardderchog a thaith ddiddorol. Roedd rhaid edmygu buddsoddiad Sustrans yn creu pont i groesi'r A55 ger twnneli Penmaenmawr (llun 1), a'r gwaith graffiti celfydd sy'n llonni'r waliau  concrit o dan y ffordd fawr ger y dref (llun 2). Ond dwi ddim yn meddwl y baswn i'n rhoi diolch am un o'r cabanau traeth sy'n llechu fel celloedd o dan y ffordd, yn wynebu allan at y môr.




Uchafbwynt y daith efallai oedd y llwybr bendigedig o gylch gwarchodfa natur goediog Bodlondeb, ar gyrion Conwy. Mae'r waliau ar hyd y llwybr yn llawn planhigion sydd wedi addasu i ymdopi â'r sychder, fel briweg y cerrig (llun 3). Poen oedd gorfod dringo'n serth i ben ucha' Hen Golwyn er mwyn osgoi'r llongddrylliad ar lan y môr, ond roedd yn cynnig gyfle i gael golwg iawn ar y chwareli graean islaw'r ffordd (Llun 4).



Nid hwn efallai yw'r darn harddaf o arfordir Cymru, ond mae 'na bethau hyfryd i'w gweld yma, dim ond i chi edrych yn ofalus. Fe fwynheais weld y gwenoliaid yn gwibio ar hyd yr afon fach y tu cefn i'r gro yn Abergele, tinwennod y garn yn nythu ymhlith y cerrig mawr sydd wedi eu gosod i warchod y glannau ym Mhensarn, a dail celyn môr yn ymddangos fel crinolin o ganol y tywod ym mae Cinmel (llun 5), gyferbyn â'r parciau anferthol o garafanau statig. A wyddwn i ddim o gwbl fod 'na eglwys bitw ar hyd y promenâd yn Llandrillo yn Rhos.(llun 6),



Ond yr atgof pennaf efallai yw'r llu o ddynion, gyda'u faniau gwyn a'u ceir coch, yn pysgota am ledod o'r glannau, a'r boblogaeth anferth o gwn Tibetaidd oedd i'w gweld ar hyd y promenâd ym mhob man.
Nôl draw i Brestatyn yfory i gychwyn ar y daith i lawr y gororau ar hyd Clawdd Offa. Edrych ymlaen yn fawr.



No comments:

Post a Comment