O gwmpas cyrion Cymru
(12)…..Casllwchwr i Amroth
‘Dwi ddim yn meddwl y bydd croesi aber Casllwchwr ymhlith uchafbwyntiau’r siwrnai. Ar ddiwedd prynhawn, cymudwyr sy’n hawlio’r rhan hon o’r trac beicio/llwybr arfordir. Ffordd gyflym o gyrraedd adre. Profiad anghyfforddus oedd mynd ar hyd y lôn hon,, yn enwedig ar ddiwrnod mor boeth, ac ro’n i’n falch i gael croesi’n ddiogel a chyrraedd y llwybr caled sy’n arwain yr holl ffordd, yn ddi-draffig, at Gydweli. Arhosais am ychydig, ar ochr Tre-Gwyr i’r aber, i siarad gydag ‘Island Man’. Hwn oedd y person cyntaf i fi weld a oedd yn cerdded llwybr arfordir Cymru ar ei hyd. Ei broblem fawr, fel yr eglurodd, oedd dod o hyd i ddŵr yfed – er nad o’wn i wedi profi hyn erioed wrth deithio. Rhyfedd pa mor wahanol yw profiadau gwahanol bobl wrth deithio’r un llwybrau.
Roedd y trac beicio’n teimlo’n hir ac yn anodd yng nghyffiniau Trostre, ond fe fwynheais weld yr holl waith tirlunio a’r datblygiadau oedd wedi digwydd yn bellach draw ym Mharc y Mileniwm - ac fe ddechreuodd y milltiroedd wibio.
Fe darodd fi, wrth basio’r blociau tai newydd, mod i’n gweld llawer gormod erbyn hyn o’r balconîs dur a gwydr sy’n cael eu hychwanegu at unrhyw adeilad newydd bron sydd o fewn pwff o wynt i lan y môr. Hen bethau digon hyll ydyn nhw ar ôl sbel, â’u bolltau’n gwaedu diferion rhwd lawr y waliau.
Hyd yn oed wedi i’r haul fachludo roedd pobl yn dal i fod allan yn cerdded, rhedeg a beicio ar hyd llwybr y Parc Mileniwm. Roedd drudwennod yn pigo’n brysur ymysg y creigiau ar rannau isaf y lan a physgotwyr yn aros yn amyneddgar i ddal haliad o ledod gyda’r hwyr. Cododd dau alarch y gogledd o un o’r pyllau gwneud a hedfan o fewn rhyw 2 fedr uwch fy mhen. Gallwn glywed eu hadenydd mawr yn chwislan a griddfan wrth glepian yn araf drwy’r awyr gynnes. O’r diwedd fe ddois o hyd i le gwastad, cuddiedig yng nghanol darn bach o laswelltir gwyllt lle gallwn godi fy mhabell yn y tywyllwch. Codais am 5 y bore i ganfod dyn y tu allan yn cyhoeddi ei fod wedi gweld ji-binc. Codais yn sydyn, pacio fy mhethau a mynd yn fy mlaen.
Drwy niwl y bore dros y Pwll a Phorth Tywyn, fe gerddais yn fy mlaen, gan fwynhau’r golygfeydd a chymeriad arfordirol Sir Gaerfyrddin yn fwy nag y byddwn i wedi dychmygu. Ym Mhen-bre mae’r llwybr yn dilyn y traciau drwy’r fforest binwydd. Roedd cân adar yn atseinio drwy’r gofod dwfn sy’n hongian rhwng y coed tal ac roedd oglau glân y resin yn y polion pren ar ymylon y trac yn fendigedig. Ar forfa Cydweli cwrddais â Roland a oedd yn paratoi ar gyfer yr ‘West Highland Way’ gyda sŵn Dafydd Iwan yn ei glustiau. Y Gatehouse Café yng Nghydweli oedd un o’r llefydd gorau i mi aros i gael tamaid i fwyta, hyd yma, ac ro’n i’n falch o’r hoe ar ôl deuddydd o gerdded ar wyneb caled – gan wybod bod mwy i ddod. Fe basiais yn gyflym drwy Gaerfyrddin, heb aros fawr ddim heblaw am daro mewn i TK Max i brynu sbectol haul newydd. Hen dref lwyd, blêr ond hoffus yw hon lle treuliais flynyddoedd hapus iawn yn fy arddegau. Ymlaen â fi tua’r gorllewin.
Dwi’n cysylltu pentref Llansteffan gyda phicnics teuluol a
theithiau cerdded noddedig ond o ochr draw’r aber roedd y lle wedi edrych yn
fwy deniadol a hardd nag oeddwn i’n cofio. Gyda’r llanw’n isel roedd lliwiau a
ffurfiau’r creigiau tu hwnt i bentir y castell yn rhyfeddol ond dim ond haen denau, dwyllodrus oedd y
tywod melyn, Oddi tanodd roedd y traeth yn swnd du, ac yn seimllyd a llithrig.
Roedd y llanw filltiroedd i ffwrdd ar y gorwel ac fe gerddais gyda fy chwaer yn
bellach nag yr oedden ni wedi gwneud erioed
o’r blaen. Ymhen dim amser roedd oglau pydredd yn llenwi’n ffroenau ac fe drodd
y tywod yn drwch o gregyn cocos marw. Safai creigiau fel cerrig beddau mewn
pyllau duon, distaw – a’r dŵr yn gawl difywyd o slic olew a heli.
Pan arhoson ni i wrando doedd dim adar
i’w clywed, dim ond sŵn hisian tawel o’r ehangder eang o fwd tywyll o’n cwmpas, fel
miliynau o anadliadau bychain, olaf. Fe droesom nôl a bwrw am y lan.
Ar ôl yr olygfa drist yn Llansteffan fe gododd fy nghalon wrth gerdded drwy weirglodd fawr, yn llawn blodau gwylt, ar ochr Talalcharn i aber yr afon Taf. Roedd tegeirianau, cribell felen, meillion coch, pys y ceirw, bwrned a melog y waun yn frith o’m cwmpas wrth gerdded lawr at yr hesg ariannaidd ar lan yr afon. Codai cymylau o wyfynod dydd fel conffeti gyda phob cam bron. Trueni na fyddai golygfeydd fel hyn i’w gweld ym mhob man - hwn oedd y cae cyntaf o’i fath i mi ei weld ar hyd yr holl siwrnai, hyd yn hyn. Arweiniodd y llwybr drwy goetir gwlyb lle roedd gwawn y blodau helyg wedi gorchuddio planhigion y ddaear mewn niwlen ysgafn wen. Roedd gardd Delacorse yn wych ac yn ysbrydoliaeth – ac am rhyw chwarter awr roeddwn i’n dyheu am fynd adre i weithio ar fy ngardd fy hun.
Roedd Talacharn, fel ag erioed, yn dawel a dymunol gyda golygfeydd
hardd draw at geg yr aber a‘r clogwyni coediog ger Llansteffan. Safai murddun y
castell uwchlaw cilcyn o gors heli ac roedd y llwybrau o gylch yr aber yn
brysur. Fe fwynheais gerdded o gwmpas
bryn Sant Ioan eto – doeddwn i ddim wedi bod yno ers tua 15 mlynedd, ac roedd
hi’n hyfryd i gael darllen cerdd wych Dylan Thomas ‘A Poem in October’ - un bennill fesul pob bwrdd dehongli - wrth i mi ddilyn y llwybr o gwmpas y pentir
hyd nes y gallwn i weld morfa Pentywyn a thir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn
ymestyn yn eang oddi tanodd.
Torrais y siwrnai yma am sbel fach, er mwyn gallu taro nôl
i Lanelli i gymryd rhan yn rhaglen ‘Prynhawn ‘Da’ a sôn am y daith, am lwybr yr arfordir, am
Gyngor Cefn Gwlad Cymru a’r elusennau dwi’n eu cefnogi drwy’r prosiect
hwn. Ro’n i mor ddiolchgar am y pecyn
bwyd o gantîn
Tinopolis a fyddai’n cadw fi fynd am o leia 3 diwrnod. Cefais fy nghludo nôl
i Bentywyn ar ddiwedd y prynhawn, ac fe ddechreuais gerdded eto. Ro’n i’n benderfynol
o groesi'r ffin i Sir Benfro y noson
honno.
Tipyn o gyfrinach yw Marros. Clamp o lethr uwchben traeth
hir a thawel. Wrth i’r haul fachludo mae’n lle godidog. Roedd hi’n dda gweld
bod pori wedi ail-gychwyn ar ran o’r clogwyn. Lledai oglau cynnes y rhedyn, yn
gymysg â
thail merlod, ar draws y llethrau a chodai clatsh y cŵn yn dyrrau porffor uwchben
blodau clychau’r gog a botwm crys – yn gymysgedd go iawn o flodau gwanwyn a
chanol haf.
Roedd traeth Amroth hefyd yn eang a hardd, ond y clogwyni
coediog oedd y peth a darodd fi’n bennaf fel un o nodweddion hynotaf y darn hwn
o’r arfordir sy’n gorwedd ar ffin Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae ‘na rywbeth hudolus am
goediwgoedd ar ymylon clogwyni – y ffordd mae’r bonion a’r canghennau’n troelli
ar onglau amhosib, y ffordd mae’r gwynt yn naddu’r canopîs yn ffurfiau mathemategol o
gywrain a glân,
a’r ffordd y mae’r brigau’n plethu i greu patrymau cain a mannau cyfrin. Ond
roedd y cwm coediog rhwng Marros ac Amroth yn brofiad gwahanol iawn – safai
patshys o goed deri ac ysgaw yn llwm a noeth, heb ddeilen yn agos atyn nhw.
Roedd yr awyrgylch yn rhyfedd – a rhyw naws maes y gâd o gylch y lle. Mor wahanol i
gwm coediog Colby gerllaw, lle mae gerddi llewrychus yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol yn cael eu rheoli a’u meithrin yn ofalus.
Amroth sy’n nodi ffin Sir Benfro, ond roedd angen bwrw
‘mlaen. Yn un peth roedd angen dod o hyd i lecyn tawel a gwastad i godi’r
babell ond ro’n i hefyd yn awyddus i gasglu rhagor o filltiroedd dan fy nhraed oherwydd
ro’n i wedi colli ychydig o ddiwrnodau mewn dathliad teuluol yn swydd Rhydychen
– ble roedd barcutiaid yn cylchu uwchben ystadau swbwrbaidd a ble roedd y
gorchymyn sychder yn cael ei anwybyddu gan waith dyfrio slei yn gynnar yn y
bore, gan ddefnyddio teclynnau wedi cuddio’n ofalus dan lwyni’r borderi
llewyrchus, perffaith.
Ymlaen felly drwy’r twnneli diwydiannol yng nghyffiniau
Saundersfoot ac ar hyd rhagor o glogwyni coediog. Wrth iddi nosi, ac wrth iddi
droi’n dywyllach dan y dail roedd rhaid camu’n ofalus rhwng y gwreiddiau tenau
a oedd yn lledu fel bysedd esgyrnog, gwelw ar draws y llwybr. Ro’n i’n
ddiolchgar bod dail y goedfrwynen fawr yn
creu bandyn llydan o liw melynwyrdd gwelw o boptu’r llwybr. O’r diwedd fe ddois
o hyd i fan bach digon gwastad ar ymyl cae cyfagos. Roedd y goedwig yn fyw am
oriau gyda sŵn
tylluanod a doedd y ci ddim yn gallu setlo. Am 4.30 y bore cefais fy neffro eto
gan sŵn
byddarol, yn gymysgedd o hwtian, cracio a gwichian. Chwyrlïodd
adenydd o’m cwmpas a tharo tô’r babell ac eiliadau’n ddiweddarach
clywais sgrech mwyaf annaearol - braidd
yn rhy agos i deimlo’n gwbl gyfforddus. Ar ôl munud neu ddwy edrychais
allan o’r babell i weld beth oedd yn digwydd. Sylweddolais mod i wedi codi’r
babell drws nesaf at warin cwningod ac fy mod i felly, yn fwy na thebyg ,yn
eistedd yng nghanol caffi tylluanod.
No comments:
Post a Comment