Friday, 29 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (13)....Amroth i Benfro

O gwmpas cyrion Cymru  (13)….. Amroth i Benfro

Oriau mân y bore ar glogwyni  Saundersfoot. Mae’r turturod torchog yn clapian yn swnllyd wrth hedfan  yn drwsgwl rhwng canghennau wrth i fi gerdded drwy’r coed conwydd draw at Ddinbych y Pysgod. Mae’r dre’n dod i’r golwg yn raddol, ac yn edrych yn hardd a gosgeiddig drwy’r manlaw llwyd.  Arhosais i dynnu lluniau o waith adfer hyfryd ar rai o’r adeiladau glan môr a tharo mewn wedyn i westy’r Giltar i gael paned o goffi ac ail-wefru’r ffôn a’r camera.



 Roedd cerdded  traeth gogleddol Dinbych y Pysgod gyda rycsac ar fy nghefn yn waith caled, ac roedd y padlo drwy’r ewyn yn gymsgedd o artaith a rhyddhad i’r traed a oedd yn rhacs jibidêrs erbyn hyn,

Roedd y clogwyn ar drwyn Penalun yn felyn, felyn. Cymysgedd o flodau cribell felen, pys y ceirw a phlucen felen. Ro’n i’n edrych ymlaen at ran nesaf y daith ar hyd ymyl  clogwyni agored – y darn cyntaf o glogwyn gwirioneddol agored  i fi weld ers cyrraedd Sir Benfro, ond che’s i ddim y cyfle. Cefais fy hel yn ôl i lawr y llethr gan giard oedd yn sefyll mewn cwt concrit ar ymyl maes tanio Penalun. Roedd y milwyr wedi dychwelyd o Afghanistan yr wythnos cynt ac roedd rhaid iddyn nhw  ymarfer eu sgiliau saethu i wneud yn siwr eu bod yn gallu anelu’n gywir. Roedd y maes tanio felly ar gau i gerddwyr. Byddai wedi bod yn handi cael rhybudd yr ochr arall i Ddinbych y Pysgod, er mwyn osgoi’r cerdded diangen . Lawr â fi, yn teimlo’n flin bod y clogwyni ar gau, a hefyd bod rhan o gors hyfryd Penalun wedi cael ei haberthu i greu maes ymarfer milwrol. Gyferbyn â’r milwyr yn eu cwrcwd, a sŵn y bwledi a’r gorchmynion yn cracio drwy’r awyr, roedd golffwyr sidêt Dinbych y Pysgod hefyd yn canolbwyntio‘n ar daro targedau yn eu ffordd nhw eu hunain, ac yn ceisio’u gorau i anelu’n llwyddiannus at y tyllau mân ar draws y cwrs golff a grewyd yn y twyni.


Drwy Penalun â fi, heibio’r goeden ffigys llawn ffrwythau ger yr eglwys, ac ar ôl sbel fach fe ddois o hyd i’r llwybr a oedd yn arwain nôl at y clogwyni, heibio darn hyfryd o gors a oedd yn llawn robin garpiog, ffa’r gors, pumnalen y gors, blodyn y gog a hesg.  Arhosais i dynnu lluniau a theimlo’r rhwystredigaeth yn  diflannu'n llwyr. Ond nid am hir chwaith, gan i fi ddysgu’n fuan wedyn bod meysydd tanio Lydstep a Chastell Martin hefyd ar gau ar gyfer ymarferiadau milwrol! 


Ond yn y cyfamser, roedd hi’n braf cael crwydro ar hyd y creigiau calchfaen draw at draeth Lydstep. Islaw, roedd y môr yn ffromi, a’r ewyn yn chwyrlio’n batrymau mwyaf rhyfedddol. Carped o binc a melyn oedd ar hyd y clogwyni – clustog Fair, plucen felen, pys y ceirw a briweg yn bennaf. Mewn mannau roedd darnau o’r clogwyni ar hyd y llwybr yn edrych fel creigerddi hardd.



Mae traeth Lydstep yn bentref solet o garafanau gwyliau erbyn hyn - o un ochr y bae i’r llall. Yng ngheg y bae mae Ynys Bŷr i’w gweld yn glir. Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn lle gogoneddus ar un adeg. Roedd yn dal i fod yn ddigon dymunol, ond rhwng yr erwau o laswellt taclus, y lonydd tarmac, y llu o garafanau moethus a sŵn rhuo’r jet-sgîs roedd yn fan i basio drwodd yn reit sydyn erbyn hyn.



Crynai’r ddaear gyda’r holl danio oedd yn digwydd ar Benrhyn Lydstep ac roedd y sŵn yn cario’n bell, fel petai’r gorwel yn tarannu. Ond digon di-daro oedd yr ehedyddion – roedden nhw’n dal i ganu’n ddi-stop drwy’rcyfan. I’r gorllewin o Benrhyn Lydstep fe fues i’n gwylio cudyll coch yn hela ac yn dychwelyd i’w nyth ar silff greigiog oedd mor, mor agos at y llwybr lawr at y traeth.  Hwn oedd y cudyll coch cyntaf i mi weld ar hyd y daith. Ce’s fy nghyfareddu gan ymddygiad un brân goesgoch ifanc a oedd yn cwafrio ac yn galw’n llawn panic ar ben carreg fawr wrth ochr y llwybr wrth i fi ddod yn nes ato – ond roedd e’n gwrthod symud o’r fan hyd nes i un o’r rhieni sgubo lawr ato, o fewn trwch pluen i’w ben, a’i gymell i’w ddilyn at damaid o bridd moel o dan fancyn gwair gerllaw.

Rhwng Lydstep a Maenorbŷr roedd nifer o löynnod byw y glesyn cyffredin i’w gweld yn fflitian o gylch blodau pys y ceirw. Dyma’r sioe orau o löynnod byw i fi weld ers dechrau ar y siwrnai hon – fe weles i gyfanswm o 25 y diwrnod hwnnw.  Arhosais ym Maenorbŷr i chwilio am ferwr dŵr – dyma un o’r ychydig fannau lle dwi’n gwybod ei fod yn tyfu’n wyllt. Ro’n i’n falch i weld ei fod yn dal i fod yma. Gallwn i ddim peidio tynnu dyrnaid o ddail. Mwynhau’r blas, a thrio peidio meddwl gormod am y peryg o ddal ffliwc afu. 



Doedd dim un enaid byw arall ar y clogwyni  i’r gorllewin o Faenorbŷr a digon gwag oedd Freshwater East hefyd. Crwydro’n araf hyd y llwybrau tywod tu cefn i’r traeth, rhwng y llwyni o rosynnod bwrned gyda’u blodau hufennaidd, priodasol. Roedd yr haul yn gynnes braf wrth i fi rowndio’r bae tuag at Stacbwll ac roedd cysgodion min nos yn creu llinellau dwfn drwy’r cnydau wrth i’r haul ddisgyn yn is.
Roedd rhagfuriau caer Greenala yn berffaith glir wrth iddi nosi. Ro’n i’n meddwl efallai byddai’n braf aros yn y gaer dros nos. Fues i’n sefyll yno am amser hir yn gwrando ar fwyalchen yn canu o lwyn mewn cilfach ddofn o dan y gaer. Roedd y sŵn mor uchel yn nhawlewch yr hwyr, ac mor felys – fel tase’r deryn yn garglo mêl. Roedd y ci wedi rhedeg mlaen ac yn sydyn fe ddechreuodd swnian a chyfarth . Daeth rhyw sŵn bach siarad main dros yr awyr ac fe sylweddolais fy mod yn clywed radio. Ar ymyl y llwybr roedd teithiwr wedi creu gwersyll bach mewn patshyn o goed. Fuon ni’n sgwrsio am sbel. Reodd e wedi bod yn byw ar y clogwyni ers mis Mawrth – yn mwynhau’r llonyddwch ac yn byw ei fywyd ôl-troed isel gan wario’i bres wythnosol ‘mond ar fwyd, llyfre, batrîs radio ac ychydig o dybaco. Roedd Banbury a Phenfro’n rhy brysur a swnllyd iddo. Gormod o bobl. Roedd e’n fodlon â’i fywyd araf, tawel – am nawr ta beth, ond ei freuddwyd oedd bod yn Lemmy o Motorhead.




Ar ôl deffro’n gynnar iawn y bore wedyn a dechre' cerdded yn syth ro’n i wedi llwyddo cyrrraedd Broad Haven erbyn 8.30. Fe benderfynes adael y clogwyni a dilyn y llwybr o gwmpas llynnoedd Boshertson, yn y gobaith o weld dyfrgwn. Dwi wedi hen golli cownt o’r troeon dwi wedi bod yma dros y blynyddoedd yn trio cael cip arnyn nhw. Hyd yn oed ar yr awr gynnar hon roedd pobl allan gyda’u binociwlars yn sganio’r pyllau ond rhoi’r ffidil yn y tô wnai pawb yn eu tro. Ar ôl rhyw awr fe benderfynais mai siwrnai seithug oedd hon eto heddi – ond roedd y llynnoedd yn braf beth bynnag gyda’r planhigion lili yn eu blodau ac ro’n i’n ddigon hapus i ymlwybro’n araf a mwynhau’r bore, cyn anelu am y caffi yn Bosherston i gael tamaid o frecwast. Sywlais ar alarch yn hwylio tuag ata i , dau gyw brown wrth ei hochr. Ro’n i’n synnu gweld cywion ifanc mor hwyr yn y tymor. Fe ddiflannodd y criw bach wrth i fi rowndio cornel a phan welais nhw eto fe sylweddolais mod i wedi gwneud camgymeriad. Pennau dau ddyfrgi oedd y ‘cywion’. Fe fuon nhw wrthi’n plymio a nofio o gwmpas yr alarch am sbel, gan wau cadwyn o gylchoedd o’i chwmpas ar wyneb y dŵr, cyn iddi hithau ddiflannu i ganol  tyfiant gan adael y ddau ddyfrgi i barhau eu perfformiad bendigedig – un funud yn nofio â’u pennau’n agos a’r funud nesa’n gwahanu  ac yn cylchu’n osgeiddig o gwmpas ei gilydd. Roedd hi’n hyfryd i’w gweld nhw’n dolennu i mewn ag allan o’r dŵr , eu cefnau crwm melfedaidd yn torri wyneb y llyn am yn ail â’u pennau llydan. Profiad bythgofiadwy.

Roedd Ye Olde Tea Shoppe yn Bosherston ar agor ar waetha’r glaw mân. Diolch fyth. Cael croeso a derbyn caredigrwydd mawr yno. Oherwydd y tanio yng Nghastell Martin roedd rhaid dargyfeirio eto  er mwyn cyrraedd Freshwater East, gwaetha’r modd. Yn y cloddiau roedd planhigion y dulys yn dechrau gwywo fel brocéd aur yn erbyn y tyfiant hafaidd o glatsh y cŵn a llygaid llo bach. Roedd traeth  hardd Freshwater West yn syndod o dawel – dim ond ambell syrffiwr yn ymarfer yng nghanol  y tonnau a chriw arall yn cael gwersi dechreuwyr ar y traeth, ynghyd ag ychydig o gerddwyr cŵn a dau facpaciwr yn cerdded heibio yn y pellter – honno’n olygfa brin iawn ar y daith. Roedd y wâc 3.4 milltir i Angle yn un o’r rhai anoddaf erioed. Cyfres hir o elltydd a phantiau serth a dim digon o ddiddordeb ar ben y clogwyni i wneud iawn am yr ymdrech  – er roedd hi’n eitha’ rhyfeddol gweld  9 bran coesgoch, 3 cigfran, 1 cudyll coch a hebog tramor ar yr un pryd, tra ro’n i’n gorwedd ar fy nghefn yn gorffwyso uwchben pair o fae ger Angle.



Fe fwynheais i bentref Angle yn fawr. Pentref diddorol gyda rhai o’r adeiladau tô-fflat yn dangos dylanwad Indiaidd (y’ lord’ lleol lleol wedi dod â’r syniad nôl rhywdro),  a llwybrau hyfryd, isel yn rowndio pentiroedd coediog a morfeydd meddal. Roedd y golygfeydd o borthladd Aberdaugleddau a’r pwerdai yn wahanol, ac eitha hardd yn y llwydwyll.







Mae’r llwybr yn dwyllodrus o hir rhwng Angle a Phenfro. Ro’n i’n meddwl byddai’r dref yn ymddangos rownd pob cornel, ond mae’r aber yn anferth. Ro’n i’n dechrau digalonni o gwmpas Popton. Ro’n i’n barod i gwympo erbyn cyrraedd eglwys Pwllcrochan ond fe ddois o hyd i nerth o rywle i ddringo’r rhiw at y ‘Spud Wagon’ lle mae Rory’n bwydo gweithwyr y pwerdy gyda dewis mwyaf godidog o fwyd cartre’. Ce's bryd a phaned o de yn rhodd ganddo ac eisteddais ar y tarmac gwlyb i’w fwyta . O fy nghwmpas roedd y pwerdy’n hisian ac yn hymian, a fflamau’n chwydu o gegau’r simneiau tal. Yn y pellter roedd gynnau Castell Martin yn dal i danio.



No comments:

Post a Comment