Tuesday, 26 June 2012

O gwmpas cyrion Cymru (10)...Llanilltud Fawr i Abertawe


O gwmpas cyrion Cymru (10).....Llanilltud Fawr i Abertawe

Yr amser gorau i grwydro ar hyd yr arfordir rhwng Llanilltud Fawr ac Aberogwr yw adeg llanw isel. Mae’r creigiau ar y traeth yn donnau wedi fferru, ac fe allwch weld yn glir yr ewyn yn torri’n ffrilsen wen ar hyd y banciau graean oddi ar y lan, sy’n cael eu creu gan gerhyntoedd cryf y Sianel.

Roedd blodau’r milwr yn creu rhuban o liw pinc cryf wrth grwydro drwy’r coedwigoedd collddail tywyll gerllaw Coleg yr Iwerydd. Wrth nesáu at Yr As Fawr trodd y dirwedd yn gynfas agored o liwiau melyn a gwyrdd llachar dan awyr las. Codai ehedyddion yn ddiddiwedd o ymylon cae hadau rêp cyfagos, ble roedd yr awyr hallt wedi llosgi’r cnwd a chreu pastshys moel.  Gerllaw’r goleudy roedd brain yn pigo’n brysur drwy sofl  cynhaeaf silwair canol-Mai. Deuai adar drycin y graig i’r golwg bob hyn a hyn, yn codi fel pypedau uwchlaw ymyl y clogwyn, â’u hadenydd fel llafnau cyllyll yn torri’n llym drwy’r awyr boeth. Roedd un brân goesgoch yn cylchu uwchben goleudy'r As Fawr, ble roedd priodas yn cael ei chynnal.

Tu hwnt i'r As Fawr roedd y clogwyni’n rhyfeddol a’r llwybr yn ddramatig – ond fymryn yn frawychus ‘falle i unrhyw un sy’n ofni uchder . Ar y traeth anferth, yn bell islaw, roedd rhes o bysgotwyr yn sefyll yn stond ac yn amyneddgar ar ymyl y lan, â’u gwialenni pysgota’n  creu cyfres o drionglau main ar wyneb y dŵr.



Yn Dunraven fe welais un o’r cymoedd coediog harddaf erioed. Tyfai clychau’r gog, mwsglys, cor-rosyn a thafod yr hydd yn doreithiog dan ganopi crebachlyd o goed criafol a masarn. Roedd tair brân goesgoch wrthi’n bowndio ar hyd llethr craig agored gerllaw a gallwn glywed sŵn hebog tramor o bell.



Erbyn i fi gyrraedd Aberogwr, ar ddiwedd y prynhawn heulog hwnnw, roedd y lle yn gwagio. Cadwyn hir o geir yn rholio’n araf, â’u teiars yn hisian ar y tarmac wrth ymlwybro tuag adre, a chriwiau min-nos o sgrialfyrddwyr yn dod i’r golwg i hawlio’u tiriogaeth. Arhosais am sbel i wylio caiac môr yn llithro i fyny’r aber drwy’r twyni aur, a theimlo braidd yn genfigennus . Roedd fy nhraed yn powndio yn fy sgidie ac ro’n i’n wynebu oriau maith o gerdded ar hyd ffyrdd a phalmentydd Bae Baglan ac Abertawe.



No comments:

Post a Comment