O Gwmpas Cyrion Cymru
. . . paratoi at y daith
Ydy’r daith ‘ma’n mynd i ddigwydd? Dwi wedi bod yn meddwl
amdani ers sbel. Chwech wythnos o gerdded o gwmpas ymylon Cymru yn cario fy
mhac ar fy nghefn. Cyfle i ddianc oddi wrth y ddesg a’r sgrîn.
Ond er bod golygfeydd gwych yn galw, mae hi’n anodd gadael yr ardd ym mis Mai, gyda chymaint i'w wneud.
Ond rhaid i fi fynd amdani nawr, ar ôl cael yr amser o’r gwaith.
Roedd rhaid aros hyd nes i’r agoriad swyddogol ddigwydd er mwyn helpu yng
nghastell Fflint. Dyna le braf yw hwn, gyda’r tyrrau yn codi’n syth o’r morfa.
Fe gollais ddiwrnod arall wedyn ddoe yn edrych ar gaiacs môr yng
Nghaergybi.
Dechrau fory ‘te (Mai 7fed 2012), a bwrw draw at Glawdd Offa.
Difaru peidio paratoi’n fwy gofalus ond dwi’n edrych ‘mlaen at y siwrne ac yn
gobeithio codi arian i brosiect ‘Maint Cymru’ a Chymdeithas Alzheimers ar yr un
pryd.
No comments:
Post a Comment